Cynnydd Hydref 2020
Kim Kenobi
Ymchwilydd Ystadegau ar fodelu dosbarthu rhywogaethau, Prifysgol Aberystwyth
Ffocws cychwynnol Pecyn Gwaith 3 (WP3) yw ystyried modelu dosbarthiad rhywogaethau ar gyfer y Gylfinir a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las ar raddfa eang drwy’r DU ac Iwerddon. Un agwedd bwysig ar y gwaith ar gyfer WP3 yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn o brosiect ECHOES fu sefydlu pa ffynonellau data sydd ar gael o ran arsylwadau adar ar gyfer pob un o'r ddwy rywogaeth o ddiddordeb drwy Ynysoedd Prydain.
Ceir amrywiaeth o gasgliadau o ddata arsylwi adar, gan gynnwys Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN) yn y DU, y mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) yn un o'i phrif gyfranwyr. Yn Iwerddon, eBird yw'r hyn sy'n cyfateb iddo..
Daw'r data mewn gwahanol setiau data mewn gwahanol fformatau, yn enwedig o ran y system cyfesurynnau daearyddol (er enghraifft lledred, hydred o’i gymharu â dwyreiniad a gogleddiad). Rhan o'r gwaith o gasglu ac asesu'r amrywiaeth o setiau data sydd ar gael fu dod o hyd i systemau cyfesurynnau gyffredin a pharatoi cod cyfrifiadurol i grwpio'r arsylwadau'n sgwariau map ar unrhyw fanylrwydd a ddewisir.
Gan fod gennym ddiddordeb mewn astudio lle mae’r Gylfinir a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn gaeafu, rydym wedi penderfynu rhannu'r data a gasglwyd ar hyd y flwyddyn yn dri chyfnod: Tachwedd i Chwefror ('gaeaf'), Mawrth i Fehefin ('gwanwyn') a Gorffennaf i Hydref ('haf'). Ar ôl dadansoddi’r data yn ôl amser arsylwi, mae patrymau'n dod i'r amlwg yn barod yn y data. Er enghraifft, yn Ffigur 1 isod, gwelwn sut mae dosbarthiad arsylwadau o’r gylfinir yn amrywio yn ystod y tri chyfnod yma o'r flwyddyn rhwng 2000 a 2020 yn set ddata'r NBN.

Yr hyn yr ydym newydd ddechrau ei weithredu yn WP3 yw defnyddio mapiau amrywiol (gallwn feddwl amdanynt fel gridiau rheolaidd gydag un rhif fesul cell grid yn cyfateb i werth y newidyn yn y gell grid honno, er enghraifft tymheredd blynyddol cymedrig) fel newidynnau esboniadol wrth fodelu dosbarthiad rhywogaethau. Mae'r mathau o gwestiynau y bydd y llinell ymchwil hon yn ein galluogi i'w hateb yn cynnwys i ba raddau y mae newidyn penodol (er enghraifft, arwynebedd tir wedi'i godio fel set o ddosbarthiadau gwahanol gan gynnwys aber, fflatiau llaid, tir fferm ac ati) yn esbonio'r amrywioldeb a welwyd ym mhatrymau dosbarthiad y gylfinir a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las. Er mwyn rhoi syniad o'r mathau o fapiau y gallem fod â diddordeb ynddynt, rydym yn cynnwys map ar raddfa fras o'r newidyn bioclim13 (dyodiad y mis gwlypaf) o set fersiwn 2.0 worldclim o newidynnau hinsoddol.

Dim ond megis dechrau y mae’r gwaith o fodelu dosbarthiad rhywogaethau ar gyfer y rhywogaethau adar. Er mwyn rhoi syniad o’r hyn y bwriadwn ei wneud, ystyriwch Ffigur 3lle’r ydym yn plotio presenoldeb/absenoldeb y gylfinir yn ystod misoedd y gaeaf 2005-16 ar draws sgwariau grid ar gyfer Ynysoedd Prydain (ochr chwith), a'r rhagfynegiadau tebygol o weld y Gylfinir yn seiliedig ar fodel logistaidd (presenoldeb/absenoldeb) sy'n cynnwys pedwar newidyn bioclim (ochr dde). Mae'n fodel elfennol ar hyn o bryd, er mwyn dangos sut yr ydym yn bwrw ymlaen.
