Polisi preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni. Yn ECHOES mae gennym egwyddorion sylfaenol y byddwn yn eu dilyn:

Ni fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol oni bai bod gwir angen.
Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw un ac eithrio i gydymffurfio â'r gyfraith, datblygu ein cynnyrch, neu amddiffyn ein hawliau.
Nid ydym yn storio gwybodaeth bersonol ar ein gweinyddion oni bai bod ei hangen ar gyfer dibenion parhaus ein safle.

Ymwelwyr y Wefan

Fel y rhan fwyaf o weithredwyr gwefannau, mae ECHOES yn casglu gwybodaeth nad yw'n datgelu pwy ydych – o’r math y mae porwyr a gweinyddwyr gwe yn ei ddarparu fel arfer, e.e. math o borwr, dewis iaith, safle cyfeirio, a dyddiad ac amser pob cais gan ymwelydd. Mae ECHOES yn casglu gwybodaeth nad yw'n datgelu pwy ydych er mwyn deall yn well sut mae ymwelwyr ECHOES yn defnyddio ei wefan. O bryd i'w gilydd, gall ECHOES ryddhau gwybodaeth nad yw'n datgelu pwy ydych fel gwybodaeth gyfanredol, e.e., trwy gyhoeddi adroddiad ar dueddiadau yn y defnydd o'i wefan.

Casglu Gwybodaeth sy'n Datgelu Pwy Ydych

Mae rhai ymwelwyr i wefan ECHOES yn dewis rhyngweithio gydag ECHOES mewn ffyrdd sy'n golygu bod angen i ECHOES gasglu gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych. Mae faint a'r math o wybodaeth y mae ECHOES yn ei chasglu yn dibynnu ar natur y rhyngweithio. O ran y rhai sy'n dymuno derbyn diweddariadau ECHOES drwy e-bost, byddwn yn casglu eu negeseuon e-bost. Ym mhob achos, dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol neu'n briodol i gyflawni diben rhyngweithio'r ymwelydd ag ECHOES y mae ECHOES yn casglu'r wybodaeth honno. Nid yw ECHOES yn datgelu gwybodaeth bersonol ac eithrio fel y disgrifir isod. A gall ymwelwyr bob amser wrthod darparu gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych, gyda'r cafeat y gallai eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol sy'n gysylltiedig â'r wefan.

Ystadegau Cyfanredol

Gall ECHOES gasglu ystadegau am ymddygiad ymwelwyr i'w wefannau. Er enghraifft, gall ECHOES fonitro'r tudalennau mwyaf poblogaidd ar y safle. Gall ECHOES arddangos yr wybodaeth hon yn gyhoeddus neu ei darparu i eraill. Fodd bynnag, nid yw ECHOES yn datgelu gwybodaeth sy’n golygu bod modd eich adnabod ac eithrio fel y disgrifir isod.

Diogelu Gwybodaeth Benodol a allai Ddatgelu Pwy Ydych

Mae ECHOES yn datgelu gwybodaeth sydd neu a allai ddatgelu pwy ydych, yn unig i’w weithwyr, a phartneriaid sydd (i) angen gwybod yr wybodaeth honno er mwyn ei phrosesu ar ran ECHOES neu ddarparu gwasanaethau sydd ar gael ar wefannau ECHOES, a (ii) sydd wedi cytuno i beidio â'i datgelu i eraill. Gall rhai o'r gweithwyr a'r partneriaid hynny fod wedi'u lleoli y tu allan i'ch gwlad enedigol; drwy ddefnyddio gwefannau ECHOES, rydych yn cydsynio i drosglwyddo gwybodaeth o'r fath iddynt. Ni fydd ECHOES yn rhentu nac yn gwerthu gwybodaeth sydd neu a allai ddatgelu pwy ydych i unrhyw un. Heblaw am ei weithwyr a'i bartneriaid, fel y disgrifiwyd uchod, mae ECHOES yn datgelu gwybodaeth sydd neu a allai ddatgelu pwy ydych yn unig mewn ymateb i wyslythyr, gorchymyn llys neu gais arall gan y llywodraeth, neu os yw ECHOES yn credu'n ddidwyll bod datgeliad yn rhesymol angenrheidiol i ddiogelu eiddo neu hawliau ECHOES, trydydd partïon neu'r cyhoedd yn gyffredinol. Os ydych chi'n ddefnyddiwr cofrestredig ar wefan ECHOES ac wedi cyflenwi eich cyfeiriad e-bost, gall ECHOES anfon e-bost atoch yn achlysurol i ddweud wrthych am nodweddion newydd, gofyn am eich adborth, neu roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy'n digwydd gydag ECHOES. Defnyddir ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol yn bennaf i gyfleu'r math hwn o wybodaeth, felly nid ydym yn disgwyl y byddwn yn anfon llawer o e-byst o’r math hwn atoch. Os byddwch yn anfon cais atom (er enghraifft drwy e-bost neu drwy un o'n dulliau adborth), rydym yn cadw'r hawl i'w gyhoeddi er mwyn ein helpu i egluro neu ymateb i'ch cais neu i'n helpu ni i gefnogi defnyddwyr eraill. Mae ECHOES yn cymryd pob mesur sy'n rhesymol angenrheidiol i amddiffyn rhag mynediad, defnydd, newid neu ddinistr anawdurdodedig o wybodaeth sydd neu a allai ddatgelu pwy ydych.

Cwcis

Mae Cwci yn llinyn gwybodaeth y mae gwefan yn ei storio ar gyfrifiadur ymwelydd, y mae porwr yr ymwelydd yn ei ddarparu i'r wefan bob tro y bydd yr ymwelwyr yn dychwelyd. Mae ECHOES yn defnyddio cwcis i helpu ECHOES i adnabod ac olrhain ymwelwyr, eu defnydd o wefan ECHOES, a'u dewisiadau o ran mynediad at y wefan. Os nad yw ymwelwyr ECHOES yn dymuno i gwcis gael eu gosod ar eu cyfrifiaduron, dylent drefnu bod eu porwyr yn gwrthod cwcis cyn defnyddio gwefannau ECHOES, anfantais hyn yw na fydd rhai nodweddion o wefannau ECHOES yn gweithio'n iawn heb gymorth cwcis.

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd

Er bod y rhan fwyaf o'r newidiadau yn debygol o fod yn fân newidiadau, gall ECHOES newid ei Bolisi Preifatrwydd o bryd i'w gilydd, ac yn ôl disgresiwn llwyr ECHOES. Mae ECHOES yn annog ymwelwyr i wirio'r dudalen hon yn rheolaidd am unrhyw newidiadau i'w Bolisi Preifatrwydd. Bydd eich defnydd parhaus o'r safle hwn ar ôl unrhyw newid yn y Polisi Preifatrwydd hwn yn golygu eich bod yn derbyn newid o'r fath.