Côd Amgylcheddol a Llesiant

Eco Code

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol o bwysigrwydd canolog i Consortiwm ECHOES. Rydym yn bwriadu cymryd y camau gweithredol yma:

Gwastraff

Mae Consortiwm ECHOES yn dilyn egwyddorion cynaliadwyedd trwy atal, lleihau, atgyweirio, ailddefnyddio, ailgylchu neu leihau gwastraff.

- Yn ein swyddfeydd, byddwn yn ailgylchu'r holl gynhyrchion plastig, papur/cardbord, gwydr ac alwminiwm, ac yn compostio eitemau darfodus priodol.
- Lleihau argraffu ac annog/gwneud defnydd o dechnoleg ddi-bapur.

Teithio

Bydd Consortiwm ECHOES yn annog teithio at ddibenion gwaith dim ond pan nad oes dewis arall trwy: Leihau’r angen i deithio drwy ddefnyddio TGCh, e.e. e-bost, ffôn, Basecamp, a cynadledda-fideo.

- Annog rhannu ceir, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio ar fferi (yn hytrach na hedfan).

Prynu

Bydd Consortiwm ECHOES yn ystyried effeithiau amgylcheddol wrth gaffael offer, deunyddiau a lleoliadau ar gyfer cyfarfodydd.

- Defnyddio caledwedd (ffonau symudol, tabledi) ac offer presennol.
- Os yw'n ymarferol, rhentu offer.
- Defnyddio busnesau/cynhyrchwyr lleol.
- Cynhyrchu deunydd hyrwyddo/marchnata ecogyfeillgar, gan ddefnyddio papur wedi'i ailgylchu os yw ar gael.
- Lle bo modd, sicrhau bod lleoliadau allanol yn dilyn arferion amgylcheddol da yn eu rhedeg o ddydd i ddydd, yn enwedig o ran defnydd ynni/dŵr a darparu cyfleusterau ailgylchu.
- Hyrwyddo'r defnydd o boteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio a darparu cyflenwad dŵr yfed mewn digwyddiadau, gan osgoi darparu poteli dŵr a chwpanau plastig untro.

Egni

Bydd Consortiwm ECHOES yn ceisio lleihau’r defnydd o ynni drwy:

- Dilyn mesurau effeithlonrwydd ynni ac arfer gorau ym mhob gweithle.
- Tanysgrifio i gyflenwyr ynni gwyrdd lle bo modd.

Bioamrywiaeth

Bydd Consortiwm ECHOES yn ceisio lleihau effaith ein gweithgareddau ar fioamrywiaeth y safleoedd lle rydym yn gweithio, a lle bo'n bosibl, yn ymdrechu i'w gynyddu.

- Dilyn a rhannu arfer da gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, e.e. gyda phrotocolau diogelwch ffliw adar.
- Sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau rhanddeiliaid yn hyrwyddo bioamrywiaeth yn ymwybodol ac nad ydynt yn niweidio unrhyw ardaloedd sensitif.
- Pob seilwaith/gosodiad i fod yn gynnil ac i gael dim effaith negatif ar fioamrywiaeth.

Codi Ymwybyddiaeth Amgylcheddol

Bydd Consortiwm ECHOES yn nodi, yn creu ac yn rhannu gwybodaeth a fydd yn galluogi cymunedau i ddeall yr amgylchedd o'u cwmpas yn well.

- Gwneud gwaith ecoleg i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o effaith newid hinsawdd ar gynefinoedd arfordirol Gŵydd Talcen-wyn yr Ynys Las a'r Gylfinir.
- Codi ymwybyddiaeth ymhlith rhanddeiliaid yng Nghymru ac Iwerddon drwy allgymorth cyhoeddus, gwyddoniaeth dinasyddion, deunyddiau lledaenu, cyfryngau cymdeithasol, a gwefan.
- Darparu teclyn ar y we i reolwyr tir i fedru rhagweld ac addasu i effeithiau newid hinsawdd ar gynefinoedd adar.

Côd Llesiant

Iechyd

Cefnogi staff Consortiwm ECHOES i ofalu am eu lles meddyliol a chorfforol.

- Annog staff i gymryd seibiannau rheolaidd o sgriniau eu cyfrifiaduron.
- Hwyluso a hyrwyddo gweithgareddau i wella ffitrwydd meddyliol a chorfforol e.e. ymwybyddiaeth ofalgar.
- Annog staff i ymateb i e-byst ac ati ar benwythnosau, ar wyliau blynyddol a thu allan i oriau gwaith.

Cydraddoldeb

Nod Consortiwm ECHOES yw dileu unrhyw fath o wahaniaethu, aflonyddu, brawychu neu erledigaeth yn y gweithle.

- Sicrhau bod Consortiwm ECHOES yn trin pob gweithiwr ac ymgeisydd am swydd yn deg ac yn gyfartal waeth beth fo'u hoedran, gallu corfforol, hunaniaeth o ran rhywedd, statws sifil, statws teuluol, hil (gan gynnwys tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd a tharddiad cenedlaethol), credoau crefyddol, ffydd, neu gyfeiriadedd rhywiol.

Gweithle Cydlynol

Anelu at sicrhau bod holl staff Consortiwm ECHOES yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf o ran cyflawni'r Gweithrediad a bod ganddynt y gallu i roi adborth.

- Trefnu cyfarfodydd tîm rheolaidd fel bod pob aelod o staff yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf.
- Annog staff i roi adborth ar agweddau o'r Gweithrediad.
- Hyrwyddo cydweithio ar draws prosiectau / adrannau / sefydliadau.

Iaith a Diwylliant Cymraeg a Gwyddeleg

Pan fo'n briodol ceisio gweithredu'n ddwyieithog ac annog y defnydd o'r Gymraeg.

- Anelu at sicrhau bod deunydd cyhoeddusrwydd a phostiadau cyfryngau cymdeithasol yn gwbl ddwyieithog.
- Lle bo'n briodol, annog staff i wella'u sgiliau Cymraeg/Gwyddeleg.