Gweithgareddau

Olrhain adar ac arolygon llystyfiant cysylltiedig

PECYN GWAITH 4

Mae olrhain adar yn ein helpu i ddeall symudiadau adar a’r cynefinoedd y maent yn eu dewis, yn enwedig cynefinoedd penodol a ddefnyddir a rhai lle mae pwysau o'r tu allan e.e. tarfu a chylchoedd llanw yn effeithio ar eu hymddygiad. Bydd Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn arwain prosiect olrhain adar ECHOES, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid a byddant yn tagio ac yn olrhain dwy rywogaeth: y Gylfinir Ewrasiaidd sy'n bwydo ar infertebratau a'r Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las (Gwyddau) sy’n pori, yng Nghymru ac Iwerddon.

Trwy’r dull hwn, byddwn yn tarfu llai ar yr adar tra byddwn yn cadw llygad barcud ar ba gynefinoedd sydd orau ganddynt ac, yn bwysig, i ddeall eu cyflenwad bwyd yn well mewn cynefinoedd fel fflatiau llaid, morfeydd heli a phorfeydd. Trwy’r data ar y tagiau a thrwy arsyllu uniongyrchol, bydd y biolegwyr moleciwlaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn casglu baw gwyddau i'w ddadansoddi gyda metacodiobar DNA i ganfod y rhywogaethau planhigion y mae’r gwyddau unigol yn eu dewis.

Bydd botanegwyr maes o Brifysgol Aberystwyth yn cynnal arolwg o’r planhigion sy'n rhan o ddeiet y Gwyddau ac yn casglu tystiolaeth o rannau planhigion penodol y maent yn eu bwyta yn y lleoliadau pori, ar sail y wybodaeth olrhain a’r arsylwadau maes ohonynt. Bydd gwerth maethol samplau o bob math o ddeunydd planhigion yn cael ei ddadansoddi gan ddefnyddio technegau biocemegol yn labordai Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth. Bydd infertebratau yn cael eu harchwilio mewn fflatiau llaid a phridd i gael gwybodaeth debyg ar gyfer y Gylfinir.

Bydd y wybodaeth a geir drwy brosiect ECHOES yn ddefnyddiol iawn i reolwyr safle a gwyddonwyr er mwyn deall lleoliad, graddau a chyfraniad y gwahanol gynefinoedd i’w deiet. Bydd yn fodd i ni wybod beth yw’r ffordd orau o reoli'r llystyfiant er mwyn helpu i sicrhau poblogaethau iach a hyfyw o'r adar gaeafol yma, ac i liniaru'r effeithiau ar gynefinoedd rhynglanwol allweddol a allai gael eu heffeithio gan y cynnydd rhagamcanol yn lefel y môr.

Arweinydd: Prifysgol Aberystwyth

Modelu dosbarthiad rhywogaethau adar ar draws cynefinoedd arfordirol

PECYN GWAITH 3

Mae Modelu Dosbarthiad Rhywogaethau (SDM) yn fodd i asesu'n feintiol y berthynas rhwng rhywogaethau a data amgylcheddol trwy ddefnyddio gwahanol fframweithiau modelu i ddeall a rhagfynegi dosbarthiad rhywogaethau yng nghyd-destun daearyddol heddiw a’r dyfodol. Bydd ystadegwyr ac ecolegwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n gweithio gyda System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ac arbenigwyr dadansoddi gofodol yng Ngholeg Prifysgol Cork yn gwneud gwaith modelu ar nifer o setiau data (gan gynnwys arolygon cenedlaethol, prosiectau gwyddor dinasyddion, a data telemetreg a gasglwyd fel rhan o brosiect ECHOES) ar gyfer y Gylfinir Ewrasiaidd a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las.

Trwy Fodelu Dosbarthiad Rhywogaethau byddwn yn gweld y ffordd y mae dosbarthiad y ddwy rywogaeth o adar yn amrywio ar draws ystod o newidynnau geo-ofodol. Hefyd, cesglir data arolwg maes ar gyfer y ddwy rywogaeth gan gynnwys gwybodaeth ofodol am eu deiet sy'n galluogi gwyddonwyr i greu modelau SDM a fydd yn dweud wrthym pa gynefin y mae’r rhywogaethau hyn yn eu dewis ar hyd yr arfordir. Trwy gynnwys senarios rhagfynegi'r hinsawdd a newid mewn arwynebedd tir â’r modelau SDM, bydd modd i ni sefydlu sut y gall dosbarthiadau gofodol a thymhorol y rhywogaethau newid dros gyfnod o sawl degawd.

Arweinydd: Prifysgol Aberystwyth

Mapio arwynebedd tir a chynefinoedd

PECYN GWAITH 5

Bydd prosiect ECHOES yn cynhyrchu set o fapiau arwynebedd cynefin/tir, o ddelweddau Arsyllu’r Ddaear ffynhonnell agored yn seiliedig ar ddull dysgu peirianyddol, ar gyfer yr ardaloedd sy'n cael eu hastudio yng Nghymru ac Iwerddon. Gan weithio'n agos gyda'r rhai sy'n casglu data llystyfiant yn y maes, bydd modelwyr yn diffinio safonau a manylrwydd y mapiau a fydd yn gydnaws â gweithgareddau Modelu Dosbarthu Rhywogaethau (SDM). Bydd prosiect ECHOES hefyd yn ystyried gwneud y broses o nodi newid i'r cynefinoedd/arwynebedd tir yn awtomatig er mwyn asesu deinameg y newid yn y safleoedd maes. Bydd tîm ECHOES yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau y bydd y prosesau, yr offer a'r allbynnau a gynhyrchir yn berthnasol ac yn briodol, ac ar gael drwy lwyfan cyhoeddus ECHOES. 

Arweinydd: Coleg Prifysgol Cork

Rhagamcanion o ran yr hinsawdd

PECYN GWAITH 6

Mae prosiect ECHOES yn seiliedig ar yr angen i ddeall effeithiau posibl newid hinsawdd ar ddosbarthiad cynefinoedd gwlyptir ar hyd arfordir Môr Iwerddon, gan ganolbwyntio'n arbennig ar rai'r Gylfinir Ewrasiaidd a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las. Ar sail y dosbarthiad rhanbarthol presennol o weithgareddau asesu cynefinoedd a rhywogaethau, cyfunir gwybodaeth am senarios newid hinsawdd â data bio-hinsawdd i asesu pa mor fregus yw'r cynefinoedd presennol. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i nodi cynefinoedd sy'n arbennig o agored i’r newid a ragamcanir yn yr hinsawdd ac i nodi rhywogaethau sy’n debygol iawn o fynd yn brin. Ymchwilir hefyd i’r posibilrwydd y gallai cynefinoedd newid yn y dyfodol a dod yn fwy addas ar gyfer cynefinoedd adar gwlyptir. Bydd offer ar gyfer rheolwyr safle i ddeall effeithiau newid hinsawdd ar eu safle ar gael drwy lwyfan ECHOES. 

Arweinydd: Coleg Prifysgol Cork

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

WORK PACKAGE 2

Drwy gydol prosiect ECHOES, bydd y tîm yn estyn allan at y rhai sy'n mwynhau, yn byw ac yn gweithio ger safleoedd yr astudiaeth a'r rheini sy'n rhan o gymunedau arfordirol ar hyd arfordir Môr Iwerddon. Un o nodau cyffredinol y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o effeithiau posibl newid hinsawdd a'r heriau a'r cyfleoedd yr ydym yn eu rhannu. Bydd tîm ECHOES yn ceisio ymgysylltu â grwpiau sy'n bodoli eisoes gan ddefnyddio technoleg, digwyddiadau a gweithdai o ysgolion i grwpiau gwirfoddol i greu darlun o'n cyd-ddealltwriaeth bresennol ac i roi gwybod i bawb sut y mae'r prosiect yn mynd a'r hyn yr ydym yn ei ganfod ar hyd y ffordd. 

Arweinydd: Geo Smart Decisions

Llwyfan y We – Dylunio a Datblygu Offer

PECYN GWAITH 7

Bydd llwyfan ECHOES yn cael ei datblygu gyda'r defnyddiwr terfynol mewn golwg o'r cychwyn; bydd deall anghenion a gofynion posibl defnyddwyr a rhanddeiliaid yn allweddol i hyn. Caiff y broses o gasglu gofynion defnyddwyr ei llywio gan ein gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a bydd tîm ECHOES yn cyflwyno syniadau fel delweddau gweledol ac arddangosiadau i danio'r dychymyg a chreu set o offer a phrosesau defnyddiol ac addysgiadol a fydd ar gael ar y llwyfan. 

Arweinydd: Compass Informatics