Roedd ECHOES (Effaith newid yn yr hinsawdd ar gynefinoedd adar o amgylch Môr Iwerddon) yn brosiect ymchwil a oedd yn ceisio mynd i’r afael â sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar gynefinoedd adar arfordirol Môr Iwerddon, gan gyfeirio’n benodol at ddwy rywogaeth o adar gwlyptir sydd yn prinhau’n gyflym - y Gylfinir a Gŵydd Talcen-wen yr Ynys Las.

Amserlen

Fe wnaeth y brosiect redeg o fis Rhagfyr 2019 tan fis Mehefin 2023. Fe ddaeth ynghyd ag arbenigedd a rhanddeiliaid o ddau ochr o Fôr Iwerddon.

Cyllid

Dyfarnwyd cyllid o €2,687,579 i’r prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru.

Arbenigedd

• Newid yn yr hinsawdd
• Adareg
• Modelu dosbarthiad rhywogaethau
• Cynefinoedd gwlypdir
• Datblygu llwyfan ar-lein
• Arsyllu'r Ddaear
• Offer ar y we


Mae ECHOES wedi defnyddio dulliau gwyddonol arloesol i fodelu ymddygiad a dosbarthiadGwydd Talcen-wen yr Ynys Las a'r Gylfinir Ewrasiaidd.

Trwy ECHOES, mae offer a gwasanaethau ar-lein wedi cael eu datblygu i helpu rheolwyr safleoedd a llunwyr polisi i ddeall y ffurdd orau i liniaru effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd ar eu safleoedd. Drwy greu offer ar gyfer rheolwyr tir, mae prosiect ECHOES wedi bod yn hyrwyddo ymaddasu i newid yn yr hinsawdd, atal risg cysylltiedig, a rheoli risgiau. Mae’r offer, sy’n rhan o Lwyfan ECHOES, yn galluogi rheolwyr tir a llunwyr polisi i ddeall newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau posibl ar lefel safle ac ar lefel ranbarthol. 

Agwedd bwysig ar brosiect ECHOES oedd ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol: y rheini sy’n gyfrifol am reoli neu fonitro cynefinoedd arfordirol a phoblogaethau adar cysylltiedig, yn ogystal â chymunedau lleol a'u hymwelwyr – pobl sy'n mwynhau amgylchedd yr arfordir. 

Codi ymwybyddiaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd a sut y gallwn fonitro, rheoli ac addasu i'r effeithiau hyn oedd un o flaenoriaethau allweddol y brosiect. 

shows information about how the project is funded