Croeso i newyddlen ECHOES! – Mehefin 2023

Annwyl Gefnogwr ECHOES,

Diolch yn fawr am eich diddordeb parhaus yn ein prosiect. Prin y gallaf gredu ein bod yn y mis olaf ac rydym bellach yn dod â phopeth i ben, ar ôl 3.5 mlynedd.

Rwy’n gobeithio y bydd yr adnoddau a’r dolenni ar y wefan yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr ac, wrth gwrs, y bydd llawer o’r cyhoeddiadau academaidd a’r setiau data, a datblygiad y platfform, yn parhau i gyfrannu at wyddoniaeth a phrosesau gwneud penderfyniadau y tu hwnt i ddiwedd y prosiect.

Mae Peter Dennis, ein Prif Ymchwilydd o Bartner Arweiniol Prifysgol Aberystwyth, yn garedig iawn wedi cyfrannu ei fyfyrdodau o’r prosiect isod, ac felly’r cyfan sydd ar ôl i mi ddweud yw diolch i dîm cyfan ECHOES — mae wedi bod yn bleser bod yn eich Rheolwr Prosiect. Ac i’r rhai yn Geo Smart Decisions sydd wedi bod ar y daith hon gyda mi – diolch!

– Crona Hodges, Rheolwr Prosiect – ECHOES

Myfyrdodau ar Ddiwedd Prosiect

Mae ECHOES wedi bod yn rhedeg ers mis Rhagfyr 2019 ac mae wedi hwyluso cydweithio rhwng partneriaid a oedd gynt yn anghyfarwydd â’i gilydd ac wedi cynhyrchu ystod ryfeddol o allbynnau. Gyda ffocws ar dynged poblogaethau gaeafu o gylfinirod Ewrasiaidd a Gwyddau Talcenwen yr Ynys Las (GTYL), mae astudiaeth maes traddodiadol wedi’i gyfuno â defnyddio’r dechnoleg uchel ddiweddaraf. Roedd angen gwneud gwaith maes nosol i gasglu samplau o ysgarthion gwyddau a phlanhigion deietegol mewn safleoedd pori ar ôl i wyddau adael i safleoedd clwydo ac yn ddigon pell i ffwrdd i beidio â chael eu tarfu. Addasodd tîm cyfan o adaregwyr, ecolegwyr a botanegwyr maes i’r patrymau gwaith rhyfedd hyn p’un ai i gasglu samplau fel y disgrifiwyd, dal a thagio gylfinirod a gwyddau neu gasglu data trwy ymweld yn rheolaidd â gorsafoedd a sefydlwyd yn safleoedd astudio Ballyteige, Swydd Wexford, Iwerddon neu aber Afon Dyfi a Dyffryn Cefni, Ynys Môn yng Nghymru. Roedd y gweithgareddau ECHOES hyn yn elwa o’r gefnogaeth hael a’r help ymarferol a ddarparwyd gan Dave Anning a Tom Kustrick, RSPB Ynys Hir, Ian Hawkins, RSPB Malltraeth, Ynys Môn a Keiran Foley, Tony Murray a Dominic Berridge o’r National Parks and Wildlife Service, Iwerddon. Dim ond y dechrau oedd y gwaith maes hwn.

Drwy ddefnyddio technoleg amrywiol, cynhyrchwyd y data a’r dadansoddiadau newydd sydd wedi datgelu mewnwelediadau gwirioneddol newydd i orchuddion tir lleoliadau gaeafu, patrymau gweithgaredd a deiet/maeth rhywogaethau adar:

• Dehonglwyd delweddau lloeren Sentinel II i greu datrysiad ystyrlon o ddosbarthiadau gorchudd tir ar gyfer safleoedd gaeafu arfordirol (ymchwilwyr o University College Cork gyda chymorth Prifysgol Aberystwyth yn y maes).

• Defnyddiwyd metabargodio DNA ar ysgarthion gwyddau i ddatgelu’r rhywogaethau planhigion sy’n cael eu bwyta ar ddechrau, canol a diwedd y gaeaf ac i gymharu deiet ar draws tri lleoliad gaeafu (arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth).

• Defnyddiwyd tagiau GPS amledd uchel, gyda chelloedd pŵer a phaneli solar bychain a oedd mor ysgafn y gellid eu gosod yn drugarog ar y gylfinirod a’r GTYL. Fe wnaethant ddatgelu lleoliadau a gweithgarwch nosol nas cofnodwyd o’r blaen oherwydd y gallu i gofnodi pob ychydig funudau a storio cymaint o ddata (ymchwilwyr o Ymddiriedolaeth Adareg Prydain gyda chefnogaeth University College Cork, Compass Informatics a Phrifysgol Aberystwyth).

• Defnyddiwyd dulliau modelu arloesol ynghyd â phŵer prosesu cyfrifiadurol mawr i ganfod gorchudd tir a chysylltiadau hinsawdd y gylfinirod sy’n gaeafu ar raddfeydd cenedlaethol Prydain ac Iwerddon (Prifysgol Aberystwyth, University College Cork ac Ymddiriedolaeth Adareg Prydain).

• Nodweddwyd gwerth maethol planhigion deietegol GTYL trwy gydol pob gaeaf gyda phenderfynydd nitrogen Leco FP 428, dulliau anthrone a grafimetrig awtomataidd, colled wrth danio, system cap-ffibr Gerhardt a chalorimetreg bom (Prifysgol Aberystwyth).

• Defnyddiwyd Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a Synhwyro o Bell i ddatblygu modelau risg o lifogydd arfordirol gyda goblygiadau nid yn unig ar gyfer adar sy’n gaeafu, ond yn effeithio’n uniongyrchol ar aneddiadau a bywoliaeth cymunedau o amgylch arfordiroedd Môr Iwerddon (University College Cork).

• Cyfathrebodd datblygiad platfform gwe o’r radd flaenaf y canlyniadau amrywiol a ddisgrifir uchod i’r rhai a allai elwa o’r wybodaeth fel offeryn rheoli neu addysgol, fel y’i defnyddir mewn gwaith allgymorth yn ystod y prosiect (Compass Informatics, Geo Smart Decisions).

Rydym yn ddiolchgar i lawer o unigolion y tu allan i dîm ymchwil a rheoli craidd ECHOES, a helpodd yr ymchwilwyr i werthfawrogi pa gyfeiriadau ymchwilio oedd fwyaf dymunol o safbwyntiau rheoli gwyddonol ac ymarferol: Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor, Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd a diolch arbennig i’r Bwrdd Cynghori: Clive Walmsley, John Coll, Alison Heal, Dave Anning, Carol Fielding, Bernadette Guest, Dave Wall, Gerry Forde, Helen Boland a Patrick Lindley.

Daw bywyd wedi’i ariannu ECHOES i ben ddydd Gwener 30 Mehefin ond fel nad yw noddwyr yn ei ddeall yn aml, mae llawer i’w ddadansoddi a’i gyhoeddi a allai barhau dros nifer o flynyddoedd. Bydd ffynonellau gwybodaeth y platfform gwe a’r wefan (https://echoesproj.eu/) yn parhau i fod ar gael fel adnoddau a byddant yn cael eu hadnewyddu gyda newyddion am fewnwelediadau pellach a gyhoeddir yn y llenyddiaeth wyddonol. Nid yw’n bosibl enwi pob aelod o dîm y prosiect ECHOES yn y darn byr, myfyriol hwn na’r nifer o bartneriaid sy’n barod i dderbyn yr allgymorth a’r ymgynghoriadau yn ystod y prosiect, roedd yn ymdrech fawr iawn gan dîm gyda gormod o enwau i’w cofnodi ac rydym yn ofni y gallem hepgor rhywun yn ddiarwybod. Serch hynny, rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at brosiect ECHOES, yn enwedig y staff dan gontract a benodwyd yn benodol am gyfnod lawn y prosiect ac sy’n gorfod symud ymlaen i ddod o hyd i swyddi eraill, mewn mannau eraill, a dymunwn bob llwyddiant iddynt yn eu gweithgareddau yn y dyfodol.

Yn olaf, fel arsylwad personol, nid wyf erioed wedi profi prosiect sy’n wynebu cymaint o amgylchiadau heriol. Roedd comisiynu’r prosiect yn hwyr wedi golygu nad oedd yn bosibl trefnu mynediad i safleoedd astudio a chaffael tagiau GPS i gynnal gwaith maes gaeaf 2019-20. Amharodd pandemig SARS CoV-2 gynlluniau ar gyfer gaeaf 2020-21 er bod llawer wedi’i wneud ar-lein a gyda gwaith maes unigol. Roedd hefyd yn golygu nad oedd llawer o staff wedi cwrdd â’i gilydd yn y cnawd tan hanner ffordd drwy’r prosiect, nid dim ond y rhai bob ochr i Fôr Iwerddon ond yn aml staff o fewn yr un sefydliad! Yna, roedd poblogaethau adar mudol wedi dioddef gan Ffliw Adar Pathogenig Iawn, gan gael effaith ddinistriol arnynt a chyfyngu mynediad ar gyfer gwaith maes a chyfyngu ar y dulliau y gellid eu defnyddio yn ystod gaeafau 2021-22 a 2022-23. Yn breifat, roedd rhai o staff y prosiect wedi dioddef salwch difrifol neu drasiedi bersonol a oedd yn mynd y tu hwnt i amcanion a gweithgarwch uchelgeisiol ECHOES ac rwy’n sicr bod tîm cyfan y prosiect yn estyn eu cydymdeimlad i’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Felly i gloi, mae’n wirioneddol ryfeddol faint o weithgaredd a gwblhawyd a gwybodaeth newydd a gynhyrchwyd ac mae hyn yn dyst gwych i ymrwymiad tîm cyfan y prosiect.

– Peter Dennis, Prif Ymchwilydd – ECHOES
29 Mehefin 2023

Gwybodaeth ac Adnoddau

Fel y soniwyd uchod, mae’r wefan yma yn gartref i’r wybodaeth ddiweddaraf am bob maes gweithgaredd yn y prosiect. Gallwch edrych yn ôl ar gyflwyniadau a wnaed mewn digwyddiadau cau, ac ymchwilio i bosteri sydd wedi cael eu cynhyrchu a’u cyflwyno mewn gwahanol gynadleddau ledled y byd. Gweler hefyd adnoddau dysgu a gafodd eu creu a’u casglu i godi ymwybyddiaeth o themâu allweddol y prosiect sef newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a’r defnydd o gynefinoedd gan adar gwlyptir – yn enwedig Gylfinirod a Gwyddau Talcenwen yr Ynys Las.

Archiwiliwch wefan ECHOES

Diolch am ddarllen ein cylchlythyr olaf.