Cynnydd Hydref 2020
Walther Camaro
Ymchwilydd Ôl-Ddoethurol, Coleg y Brifysgol Cork
Wrth geisio deall y berthynas rhwng adar gwyllt ac amgylcheddau naturiol, mae'n hanfodol nodi prif nodweddion a dynameg cynefinoedd lle mae adar yn cael popeth sydd ei angen arnynt er mwyn goroesi: bwyd, dŵr, cysgod ac ardaloedd nythu. Hefyd, mae adar mudol yn newid cynefinoedd yn dymhorol, gan chwilio am gynefinoedd tebyg sy'n diwallu eu hanghenion ar wahanol adegau o'r flwyddyn.
Bydd y prosiect ECHOES yn astudio nodweddion a dynameg cynefinoedd allweddol ar hyd arfordir Môr Iwerddon, lle mae’r Gylfinir a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las i’w gweld yn rheolaidd yn ystod y gaeaf. Maent yn mudo yma i ddod o hyd i gynefinoedd sy'n diwallu eu hanghenion – fel fflatiau llaid a morfeydd heli.
Er mwyn deall dosbarthiad a lleoliad y cynefinoedd hyn yng Nghymru ac Iwerddon, byddwn yn cynhyrchu mapiau arwynebedd tir a chynefinoedd o ddelweddau Arsyllu’r Ddaear ffynhonnell agored. Defnyddir data llystyfiant a gesglir yn yr arolygon maes (trwy Becyn Gwaith 4) i gefnogi a chadarnhau'r wybodaeth a gesglir o ffynonellau Arsyllu'r Ddaear. Hefyd, bydd y mapiau hyn yn gydnaws â'r gweithgareddau Modelu Dosbarthiad Rhywogaethau (SDM) o Becyn Gwaith 3, a ddatblygwyd er mwyn deall a rhagfynegi dosbarthiad y rhywogaethau yn ardaloedd yr astudiaeth.
Enghraifft dda o ddelweddau Arsyllu’r Ddaear ffynhonnell agored yw'r delweddau Sentinel-2 a gynhyrchir gan y Rhaglen Copernicus (a reolir gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Asiantaeth Gofod Ewrop). Mae gan y delweddau hyn fanylrwydd gofodol o 10m, sy'n golygu eu bod yn ddigon manwl. Gallwn weld dosbarthiad cynefinoedd mewn ardaloedd arfordirol, lle mae adar fel y Gylfinir a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn treulio eu gaeafau.
Isod gwelir delweddau Sentinel-2 mewn gwahanol dymhorau yn ystod 2019. Maent yn dangos ardal Gwarchodfa Adar Gwyllt Wexford sydd wedi'i lleoli yn Swydd Wexford ar arfordir Dwyrain Iwerddon. Mae'r delweddau hyn yn ddefnyddiol i ddosbarthu gwahanol fathau o gynefinoedd, ac i weld newidiadau a dynameg y llystyfiant yn ystod y flwyddyn.
Drwy chwyddo’r llun dros y sgwâr coch ym mhob un o'r delweddau, mae'n bosibl sylwi ar wahanol fathau o gynefinoedd a sut maen nhw'n newid yn ystod y flwyddyn. Mae’r Gylfinir a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn ymweld â rhai o'r cynefinoedd hyn yn ystod y gaeaf.
Gellid dosbarthu'r sgwâr melyn (delwedd isod) fel 'dosbarth coedwig', sy’n dangos patrwm tebyg yn ystod gwahanol gyfnodau o'r flwyddyn. Gallai'r rhan fwyaf o'r tiroedd sy'n weddill fod yn 'laswelltiroedd' neu'n 'borfeydd', ond gyda dynameg ychydig yn wahanol yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, mae'r glaswelltiroedd y tu mewn i'r siâp glas yn newid yn ystod y flwyddyn oherwydd arferion torri yn ystod misoedd yr haf. Dosberthir y glaswelltiroedd lle nodir y gweithgareddau torri fel 'Glaswelltir wedi'i Wella' ac fe'u defnyddir fel arfer ar gyfer pori. Dosberthir y glaswelltiroedd heb fawr o newid (sgwâr porffor) fel 'Glaswelltir heb ei wella' a chaiff ei ystyried yn gynefin allweddol ar gyfer rhywogaethau adar mudol yn ystod y gaeaf.
Mae'r tîm sy'n gyfrifol am y gweithgareddau mapio cynefinoedd a'r tîm sy'n gyfrifol am y gweithgareddau Modelu Dosbarthiad Rhywogaethau a’r arolygon maes wrthi'n trafod pa gynefinoedd allweddol y bydd angen rhoi sylw arbennig iddynt yn ystod y broses dosbarthu cynefinoedd, a sut y bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr arolygon maes yn cefnogi'r gweithgareddau mapio cynefinoedd.