Yn yr e-bost hwn:
- Symud ymlaen ar ôl cychwyn garw
- Lansiad prosiect ECHOES
- Myfyrdodau Rheolwr Prosiect: Cynnal Gweminarau
- Y gwaith modrwyo a thagio wedi cychwyn
- Apêl i wylwyr adar: Adroddwch am Ylfinirod modrwyog!
- A ydych chi wedi gweld unrhyw Wyddau Talcen-wen yr Ynys Las?
- Modelu dosbarthiad rhywogaethau adar ar draws cynefinoedd arfordirol
- Mapio gorchudd tir a chynefin
- Platfform y We – Offer, dylunio a datblygu
- Cyfarfod y tîm!
- Cyflwyno ein darluniadau prosiect
Symud ymlaen ar ôl cychwyn garw
Mae’n wych gallu rhoi diweddariad i chi am gynnydd ECHOES hyd yn hyn, gan ein bod oll mor falch o gael bod yn symud y prosiect hwn yn ei flaen, er gwaethaf y llwybr troellog yr ydym wedi bod arno ers i’r antur gychwyn yn swyddogol yn ôl ym mis Rhagfyr 2019. Mae’r naw mis diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i ni gyd, yn enwedig o gofio ein bod newydd gychwyn ar y prosiect cyn i Covid-19 ddechrau effeithio ar y DU. Addaswyd cynlluniau ar gyfer lansiad prosiect mwy traddodiadol ym mis Ebrill yn gyflym, wrth i ni gyd addasu i wneud mwy o waith digidol a gweithio gartref. Bu gweithgarwch recriwtio ar gyfer y prosiect yn ystod y cyfnod hwnnw yn llai sicr nag arfer a bu’n rhaid oedi unrhyw gynlluniau am waith ymchwil maes cychwynnol.
Bu cyrraedd y man lle y cychwynnodd y prosiect ym mis Rhagfyr 2019 yn broses anodd, a bu cryn ansicrwydd am y gair mawr sy’n dechrau gyda ‘B’ a chanlyniadau hwnnw ar ddiogelwch y cyllid ar gyfer y prosiect. Er gwaethaf y ffaith bod hwn ar y gorwel, cyfarfu pum partner y prosiect – Coleg Prifysgol Cork (UCC), Prifysgol Aberystwyth, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO), Compass Informatics a ninnau yma yn Geo Smart Decisions – trwy gydol cyfnod cynllunio y cynnig, a ddechreuodd yn ystod yr Hydref 2017 yn dilyn sgyrsiau cychwynnol ynghylch Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn ardal Aber Afon Dyfi gydag RSPB. Roedd ymuno gydag UCC, sy’n dwyn arbenigedd ynghylch addasu a’r newid yn yr hinsawdd i’r prosiect, yn gam arwyddocaol yn gynnar yn ystod y gwaith ar y cynnig, yn ogystal â dwyn BTO i mewn fel partneriaid yn y prosiect yn gynnar yn 2018. Daethom ynghyd yn Cork ar 18 Rhagfyr 2018 am ein cyfarfod Consortiwm cyntaf, ac roeddem yn gwybod ar yr adeg honno bod gennym rywbeth arbennig.
Felly mae’r cyfnod hir o aros a’r llwybr garw i gyrraedd y man hwn wedi bod yn werth y drafferth; rydym wedi dwyn tîm gwych ynghyd ar draws y ddwy wlad ac mae nifer o sefydliadau o’r tu allan i’r consortiwm eisoes yn gweithio gyda ni er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle gwych hwn i gydweithio. Rydym yn edrych ymlaen at y tymor (tymhorau) maes cyffrous sydd o’n blaenau, wrth i ni geisio dysgu mwy am ein Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las a’n Gylfinirod gwerthfawr, eu cynefinoedd a sut y gallwn ddisgwyl i’r newid yn yr hinsawdd effeithio arnyn nhw ac arnom ni, fel cymunedau arfordirol ar hyd Môr Iwerddon.
Yn olaf, edrychwn ymlaen at gydweithio’n agosach gyda’r cymunedau arfordirol a’r grwpiau rhanddeiliaid ar ddwy ochr Môr Iwerddon, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r heriau yr ydym yn eu hwynebu o ran y newid yn yr hinsawdd, a’r effeithiau posibl ar ein hamgylcheddau arfordirol yn arbennig, a hefyd, i ddysgu gyda’n gilydd ar y daith, gan adael offer a gwybodaeth effeithiol a pharhaus ar ein hôl, er mwyn i ni allu deall a chynllunio yn well ar gyfer y newidiadau sydd o’n blaenau.
Lansiad prosiect ECHOES
Ar 23 Mehefin, cynhaliom lansiad prosiect ECHOES ar ffurf gweminar. Os na fu modd i chi ei mynychu, gallwch ddal i fyny trwy wylio’r recordiad uchod. Gallwch wrando ar Crona Hodges a Peter Dennis yn cyflwyno’r prosiect, gan glywed yr hyn yr oedd gan y siaradwyr gwadd i’w ddweud am ein hadnoddau naturiol gwerthfawr, effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar hyd Môr Iwerddon a’r cyfleoedd i gydweithio ar draws y ffiniau.
Bydd cynnal y mathau hyn o ddigwyddiadau yn dod yn haws gydag amser. Cofiwch fodd bynnag, nad gweminarau yw’r unig ffordd bob tro, gall cyfarfodydd weithio hefyd, gan ddibynnu ar y gynulleidfa a bwriad a nod cyffredinol y digwyddiad.
Crona Hodges, Rheolwr Gweithrediadau ECHOES
Yn ei blog Rheolwr Prosiect yn mwydro: Cynnal gweminarau, mae Rheolwr Gweithrediadau ECHOES, Crona Hodges, yn rhannu ei phrofiad o gynnal gweminar er mwyn lansio’r prosiect.
Y gwaith modrwyo a thagio wedi cychwyn
Rhan bwysig o waith ECHOES yw modrwyo a thagio Gylfinirod. Mae hyn yn ein helpu i ddeall pa mor ddethol a symudol yw’r adar hyn, yn enwedig mewn mannau lle y maent yn defnyddio cynefinoedd clytiog a lle y mae pwysau allanol fel aflonyddu a chylchoedd llanwol yn effeithio ar eu hymddygiad. Mae’r gwaith hwn yn rhan o Becyn Gwaith 4: Olrhain adar ac arolygon llystyfiant cysylltiedig.
Yn ôl ym mis Hydref, bu adaregwyr ECHOES, Tony Cross a Rachel Taylor yn modrwyo’r grŵp cyntaf o Ylfinirod yn ardal Aber Afon Dyfi yng Nghymru. Gosodwyd modrwyon Ymddiriedolaeth Adareg Prydain a modrwyon lliw ysgythredig adnabyddadwy unigol ar yr adar hyn.
Mae’r ymchwilwyr maes ar hyn o bryd yn gosod tagiau ar y Gylfinirod yng Nghymru. Caiff y tagiau – sy’n ysgafn iawn – eu gludo am y tro rhwng ‘ysgwyddau’r’ adar. Bydd pob tag yn cofnodi lleoliad GPS bob pymtheg munud, gan lawrlwytho’r data cronedig yn awtomatig pan fydd yr aderyn yn pasio o fewn tua 1 cilomedr i orsaf.
Mae tagiau yn ein helpu i ‘weld’ yr adar gan ddefnyddio’r tirlun cyfan, heb i ni darfu arnynt trwy eu gwylio. Gallant symud yn rhydd, gan ddilyn y llanw i mewn ac allan, wrth i ni ddeall sut y mae’r byd sy’n newid yn ymddangos i’r rhydiwr hirgoes hyfryd hwn sydd ar y rhestr goch.
Apêl i wylwyr adar:
Adroddwch am Ylfinirod modrwyog!
Byddai prosiect ECHOES yn croesawu unrhyw adroddiadau am achosion lle y gwelwyd Gylfinirod gyda modrwy lliw yng Ngorllewin Cymru, a dylid anfon yr adroddiadau hyn at midwales.ringing@btinternet.com.
Mae’r data hwn yn hanfodol gan ei fod yn ein helpu i werthfawrogi pa mor driw i safle y mae gylfinirod trwy gydol y gaeaf, gan nodi lle y mae’r adar yn chwilota, yn clwydo ac yn gorffwys amlaf. Bydd hyn yn helpu i nodi cynefinoedd arfordirol hollbwysig sy’n cynnal y rhywogaeth hon o bwysigrwydd cadwraeth arwyddocaol.
A ydych chi wedi gweld unrhyw Wyddau Talcen-wen yr Ynys Las?
Mae Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn cyrraedd ein glannau ar hyn o bryd i setlo am y gaeaf. Yn hanesyddol, gwelwyd dosbarthiad da o’r rhain ar draws Cymru ond dros y degawdau diwethaf, mae’r niferoedd wedi gostwng. Yr haid sy’n gaeafu yn ardal Aber Afon Dyfi a’r niferoedd bychain ar Ynys Môn yw ein hunig rai rheolaidd sy’n gaeafu yma ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gwelir adar yn ymddangos mewn mannau annisgwyl. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed am y safleoedd ychwanegol hyn. Byddem yn croesawu unrhyw adroddiadau yn fawr. A fyddech gystal ag anfon e-bost at: kelvin.jones@bto.org
Plea about ringed curl
Modelu dosbarthiad rhywogaethau adar ar draws cynefinoedd arfordirol
Mae Modelu Dosbarthiad Rhywogaethau (SDM) yn asesu’r berthynas rhwng data amgylcheddol a rhywogaeth mewn ffordd feintiol, gan ddefnyddio amrediad o fframweithiau modelu er mwyn deall a rhagweld dosbarthiad rhywogaethau mewn man daearyddol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Hwn fydd ffocws Pecyn Gwaith 3 (WP3).
Ffocws cychwynnol WP3 fydd ystyried modelu dosbarthiad rhywogaethau ar gyfer Gylfinirod a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las ar raddfa eang y DU gyfan ac Iwerddon. Agwedd bwysig o’r gwaith ar gyfer WP3 yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn i brosiect ECHOES fu pennu pa ffynonellau data sydd ar gael o ran arsylwadau adar ar gyfer y ddwy rywogaeth o ddiddordeb ar draws Ynysoedd Prydain.
Isod, mae Kim Kenobi, Ymchwilydd Ystadegau, yn rhoi diweddariad am y ffordd y mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.
Mapio gorchudd tir a chynefin
Prif weithgarwch Pecyn Gwaith 5 yw defnyddio delweddau Arsylwi’r Ddaear i greu mapio gorchudd tir a chynefin. Defnyddir data llystyfiant a gesglir yn yr arolygon maes (gan Becyn Gwaith 4) i gynorthwyo a chadarnhau’r wybodaeth a gasglwyd o’r ffynonellau Arsylwi’r Ddaear. Yn ogystal, bydd y mapiau hyn yn cyd-fynd â gweithgareddau Modelu Dosbarthiad Rhywogaeth (SDM) o Becyn Gwaith 3, a ddatblygwyd gyda’r nod o ddeall a rhagweld dosbarthiad y rhywogaethau yn yr ardaloedd astudio.
Isod, mae Walther Camaro, Ymchwilydd Ôl-ddoethuriaeth, yn esbonio sut y mae delweddau Sentinel-2 a gynhyrchwyd gan Raglen Copernicus yn caniatáu i ni weld dosbarthiad cynefinoedd mewn ardaloedd arfordirol, lle y mae adar fel Gylfinirod a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn treulio eu gaeafau.
Platfform y We – Offer, dylunio a datblygu
Bydd Platfform Gwe ECHOES yn darparu offerynnau ar-lein hawdd i’w defnyddio, sy’n defnyddio amrywiaeth o ddata, gan gynnwys rhagolygon am y newid yn yr hinsawdd, er mwyn helpu i ragweld sut y bydd cynefinoedd dethol yn newid gydag amser, ar sail effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd.
Bydd yr offerynnau hyn yn ddefnyddiol iawn i reolwyr safle, perchnogion tir a chynllunwyr oherwydd y byddant yn gallu mapio newidiadau i’w cynefinoedd lleol yn y dyfodol. Mae defnyddwyr eraill a fydd yn cael budd gan Blatfform Gwe ECHOES yn cynnwys gwyddonwyr dinasyddion ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd ar ardaloedd arfordirol o gwmpas Môr Iwerddon.
Isod, mae Dave Dallaghan o Compass Informatics yn rhoi cipolwg i ni o sut y gallai’r offer hyn edrych.
Cyfarfod y tîm!
Mae aelodau prosiect ECHOES yn dod o ddwy genedl a phum partner. Mae gennym 30 aelod o staff ar hyn o bryd, sy’n dod o ystod eang o gefndiroedd. Trowch at ein tudalen staff i ddysgu mwy amdanom.
Cyflwyno ein darluniadau prosiect
Mae ECHOES yn brosiect cymhleth. Mae wedi cael ei wasgaru ar draws saith pecyn gwaith ac mae’n cynnwys ystod eang o ddisgyblaethau. Gall esbonio’r prosiect mewn geiriau gymryd cryn amser. Sylweddolom yn gynnar bod angen darlunydd arnom er mwyn ein helpu i gyfleu’r hyn a wnawn, fel y gallwn estyn allan mewn ffordd effeithiol i ystod eang o bobl. Felly, rydym yn falch iawn ein bod yn cydweithio gyda Laura Sorvala, darlunydd o Gaerdydd.
Roedd hi’n bwysig iawn sicrhau na fyddem yn gor-gymhlethu’r darluniadau, ond na fyddem yn colli hanfod gweithgareddau’r prosiect ychwaith. Roedd syniadau cychwynnol Laura wedi gwneud argraff dda arnom, ac yn gyfnewid, bu Laura yn amyneddgar iawn gyda’n hadborth ni (a oedd yn ymwneud â manylion bychain iawn yn ôl pob golwg ar adegau!).
Roedd Laura yn bresennol yn y weminar i lansio’r prosiect hefyd, ac roedd wedi rhoi tri phanel i ni ar ôl eu darlunio yn fyw yn ystod y cyflwyniadau.
Gweler y darluniadau a darllenwch am argraffiadau Laura o’r broses isod.
Mawr obeithiwn eich bod wedi mwynhau’r newyddlen gyntaf hon gan brosiect ECHOES. Cadwch mewn cysylltiad â ni ar Twitter a Facebook, gan droi at y wefan am y newyddion diweddaraf.
A hoffech chi gydweithio gyda ni? Anfonwch e-bost at info@echoesproj.eu a gallwn drafod syniadau.