Categorïau
Blog

Platfform y We – Offer, dylunio a datblygu

Cynnydd Hydref 2020

Dave Dallaghan
Rheolwr Prosiect, Compass Informatics

Diben Llwyfan y We ECHOES yw hybu ymwybyddiaeth, addasu, atal a rheoli newid yn yr hinsawdd. Gan weithio'n agos gyda'r Pecynnau Gwaith ECHOES eraill, mae Pecyn Gwaith 7 – sy'n cael ei arwain gan Compass Informatics – wrthi'n datblygu'r canlynol fesul cam:

  • Offer Llwyfan y We i hybu ymwybyddiaeth, addasu, atal a rheoli newid yn yr hinsawdd
  • Modelu newid hinsawdd ar gyfer cynefinoedd, effeithiau ac addasiadau
  • Rhaglen Rheoli Tir
  • Integreiddio â Setiau Data Arsyllu'r Ddaear a pheiriannau prosesu (Lloerenni Sentinel)
  • Delweddau o gynefinoedd rhywogaethau, mapio ac olrhain
  • Cyfres o offer ac apiau Gwyddor Dinasyddion
  • Cynnal llwyfan y system tra bydd y prosiect yn para
  • Datblygu a mabwysiadu cynllun gweithredu yn y dyfodol

Mae'r datblygiadau presennol yn cynnwys yr isod:

Arsyllu'r Ddaear/Synhwyro o bell:

Mae'r maes newydd cyffrous hwn yn datblygu'n gyflym ac mae'n dod yn adnodd hanfodol ar gyfer nodi a dadansoddi effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae delweddau a data synhwyro gan Asiantaeth Ofod Ewrop (Sentinel 1 a 2) yn cael eu prosesu o fewn Llwyfan y We ECHOES i gynhyrchu delweddau sy'n dangos effeithiau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.

FFfigur 1: Delwedd uniongyrchol wreiddiol gan Loeren Sentinel Asiantaeth Ofod Ewrop
Ffigur 2: Ar ôl i'r Ddelwedd Lloeren (Ffigur 1) gael ei phrosesu, dangosir y nodweddion dŵr.

Yn ogystal â hyn, mae'r ddelwedd a broseswyd isod wedi defnyddio golau is-goch i helpu i weld cyflwr y llystyfiant. Mae planhigion yn adlewyrchu golau is-goch ar wahanol lefelau yn dibynnu ar lefelau Cloroffyl. Gellir defnyddio hyn a ffactorau eraill i ddarganfod pa mor iach yw'r planhigion, er enghraifft, os ydynt yn dioddef o sychder.

Ffigur 3: Defnyddir golau is-goch i weld cyflwr y llystyfiant.  

Mae'r ddelwedd isod yn dangos sut mae data hanesyddol wedi'i uno â rhagfynegiadau yn y dyfodol i ddangos effaith newid yn yr hinsawdd dros gyfnod o gant o flynyddoedd. Gall defnyddiwr ddewis Glawiad, Cyflymder y Gwynt, Tymheredd a Lefel y Môr a gweld cofnodion hanesyddol ar gyfer y rhain, yn ogystal â rhagfynegiadau sut maen nhw'n debygol o newid wrth i'r hinsawdd newid. Dangosir y rhain ar gyfer ardal y defnyddwyr eu hunain.

Ffigur 4: Data hanesyddol wedi'i uno â rhagfynegiadau yn y dyfodol.

O ystyried bod achosion o dywydd eithafol yn digwydd yn amlach a’u bod yn fwy dwys oherwydd newid yn yr hinsawdd, mae Ap Rhybudd Tywydd yn cael ei ddatblygu i alluogi defnyddwyr i gynhyrchu rhybuddion. Bydd hyn yn eu helpu i gynllunio ar gyfer digwyddiadau eithafol yn eu hardaloedd. Bydd hefyd yn fodd iddynt osod eu terfynau a'u cyfuniadau eu hunain o newidynnau ar gyfer rhybuddion, er enghraifft: "Dywedwch wrthyf pryd y bydd gwynt uchel iawn ar y cyd â thymheredd uchel iawn."

Ffigur 5: Ap Rhybudd Tywydd gyda rhybuddion yn rhan ohono.