Categorïau
Blog

Darlunio prosiect ECHOES

Laura Sorvala
Illustrator at Laura Sorvala Illustration & Graphic Recording

Pan gysylltodd Crona Hodges, Rheolwr Prosiect ECHOES â mi ynglŷn ag ECHOES, teimlais yn gyffrous gan fod cyfle i mi weithio ar rywbeth sy'n ymwneud â newid hinsawdd a natur. Mae’n debyg bod a wnelo hyn yn rhannol â’r ffaith bod un ochr o fy nheulu’n dod o’r Ffindir - mae gennym gysylltiad dwfn â natur, ac rwy'n tueddu i gael fy nenu at gyfleoedd i ddarlunio anifeiliaid a phlanhigion a sut mae pethau wedi'u cydgysylltu. Rwyf hefyd yn hoff o ddulliau amlddisgyblaethol ac rwyf wedi cynhyrchu darluniau ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil sy'n cyfuno gwahanol ddisgyblaethau academaidd.

Fel arfer, dechreuodd fy mhroses gyda thrafodaeth yn archwilio'r hyn a allai weithio orau i'r prosiect. Y nod oedd creu delweddau diddorol ar gyfer lansio'r prosiect digidol, yn ogystal â meddwl am set o ddelweddau yn y dyfodol a allai helpu i ddarlunio gwaith y prosiect ECHOES. Penderfynwyd gweithio ar sleidiau cyflwyno, gan ganolbwyntio ar bum maes allweddol y prosiect.

Illustrations depicting some of the ECHOES activities. Clockwise from top left: Web platform tool, bird tracking, stakeholder engagement and vegetation surveys.

Dewisais nifer cyfyngedig o liwiau yn seiliedig ar balet lliw prosiectau ECHOES. Yna, brasluniais syniadau cychwynnol a addaswyd gennym i sicrhau y byddai'r cysyniadau a'r cysylltiadau mwy haniaethol yn cael eu cyfleu. Hefyd creais eiconau a delweddau sgwâr i wneud y defnydd gorau posibl ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol.

einconau ECHOES

Mae meddwl yn weledol fel ail natur i mi, ond mae i bob prosiect ei heriau ei hun. Er enghraifft: sut i ddarlunio trefn y cynnwys, tôn llais, ethnigrwydd a chydbwysedd rhywiau yn briodol. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'n arw barodrwydd cleientiaid i ymddiried ynof tra bydda i’n meddwl am syniadau ynglŷn â’r ffordd orau i gyfleu'r briff. Gwnaed nifer o newidiadau i rai manylion er mwyn mireinio'r pwyntiau gwyddonol. Pan oedd y brasluniau i gyd yn barod, gwneuthum y gwaith celf terfynol yn Procreate ar iPad Pro – fy nghyfrwng gwaith presennol ar gyfer digwyddiadau o bell a chomisiynau.

Roedd yn wych bod yn rhan o'r lansiad a gweld y delweddau'n cael eu defnyddio yn y sleidiau cyflwyno. Roedd yn braf darlunio’r siaradwyr a'u negeseuon a chreu crynodeb gweledol. Yr oedd pawb mor frwdfrydig ynglŷn â phosibiliadau'r gwaith cydweithredol, rhyngddisgyblaethol hwn o'n blaenau. Rwy’n falch iawn bod y darluniau'n cyfleu ymdeimlad o egni ac angerdd pobl sy'n cysylltu â natur mewn gwahanol ffyrdd. Mwynheais hefyd gynnwys cysyniadau mawr fel newid hinsawdd yn ogystal â dulliau gwyddonol manwl – fel y dadansoddiad DNA.

At ei gilydd, cefais bleser mawr bod yn rhan o greu asedau gweledol ar gyfer y prosiect ECHOES ac rwy’n gobeithio parhau i gymryd rhan yn ystod y blynyddoedd nesaf.