Categorïau
Blog

Datgelu gwybodaeth gyffrous am y gwyddau o’r data cyntaf ar gyfer y gaeaf

Callum Macgregor
Ecolegydd Ymchwil, Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain (BTO)

Ar ddiwedd mis Ionawr 2021, gosododd tîm prosiect ECHOES goleri tracio GPS ar dair o Wyddau Talcen-wen yr Ynys Las.

Bob gaeaf, mae niferoedd bach iawn o'r isrywogaeth prin yma sy'n mynd yn brinnach yn dewis treulio’r misoedd oeraf yng Nghymru (gyda niferoedd mwy yn Iwerddon sydd hefyd yn ganolbwynt prosiect ECHOES). Mae'r fflyd fwyaf adnabyddus, ar Aber Afon Dyfi, lle mae tua 12 o adar bellach: tra adroddir bod ail grŵp (ni wyddom faint y fflyd) i’w weld bryd i'w gilydd ar Ynys Môn.

Mae'r rhywogaeth yma’n arbennig o gyfrinachol ac yn sensitif iawn i unrhyw darfu gan bobl, felly i ddysgu mwy am eu hymddygiad, aethom ati i ddefnyddio system tagio lloeren. Trwy osod coler ysgafn o amgylch gwddf yr ŵydd, mae modd i ni wybod eu lleoliad ar y Ddaear bob 15 munud i'r 20m agosaf fwy neu lai (mae technoleg debyg hefyd yn cael ei defnyddio i dracio’r Gylfinir fel rhan o brosiect ECHOES, ond bod y tagiau’n cael eu gosod ar gefn yr adar hynny).

Trwy broses chwilio ddwys daethpwyd o hyd i fflyd o 18 o adar ar Ynys Môn ym mis Rhagfyr 2020, a llwyddodd y tîm maes, dan arweiniad yr Uwch Ecolegydd Ymchwil Dr Rachel Taylor, i ddal wyth o'r adar a gosod tagiau tracio lloeren ar dri ohonynt yn ystod mis Ionawr.

Mae'n ddyddiau cynnar o ran y gwaith ar Wyddau Talcen-wen yr Ynys Las ym mhrosiect ECHOES. Casglwyd gwerth dau fis o ddata cyn i'r gwyddau adael i fynd i’r Ynys Las i diroedd bridio dros yr haf a bellach mae’r data wrthi'n cael ei ddadansoddi. Mae pawb yn croesi eu bysedd, pan fydd y fflyd yn dychwelyd yn ddiweddarach yr hydref yma, y bydd yr adar gafodd eu tagio yn dal i fod yn eu plith. Os ydyn nhw, byddwn yn gallu lawrlwytho a dadansoddi llawer iawn o ddata ychwanegol sy'n dangos eu taith o Ynys Môn i'r Ynys Las ac yn ôl, yn ogystal â gwybodaeth hanfodol am sut y maen nhw’n treulio'r diwrnodau cyntaf tyngedfennol ar ôl cyrraedd yn ôl i Ynys Môn. Yn ogystal â’r data yma rydym yn bwriadu cael data am adar sy'n gaeafu yn Iwerddon, i weld a yw'r un ffactorau'n effeithio ar unrhyw fflyd sy'n byw y naill ochr i Fôr Iwerddon.

Serch hynny, mae'r tri aderyn rhyfeddol yma eisoes yn rhoi cipolwg newydd ar sut y gallai Ynys Môn edrych drwy lygaid gŵydd. Treuliodd y tri aderyn y rhan fwyaf o’r amser yn agos at ei gilydd, er eu bod nhw ar wahân ond yn achlysurol. Mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn yr oeddem eisoes yn ei wybod am y fflyd, sydd i raddau helaeth yn cadw at ei gilydd ond weithiau'n rhannu o leiaf yn ddau grŵp teuluol gwahanol. Mae ein data felly'n awgrymu ein bod wedi tagio adar yn y ddau grŵp (gyda lwc, efallai y gallwn gadarnhau hyn unwaith y bydd yr adar yn dychwelyd o’u taith).

Treuliodd y grŵp y rhan fwyaf o'u hamser rhwng dwy ardal yng nghanol Ynys Môn, ac un o’r llefydd yma oedd gwarchodfa Cors Ddyga yr RSPB. Wrth i ni ffarwelio â mis Chwefror a chroesawu mis Mawrth, daethant yn fwy sefydlog gan dreulio eu hamser ar ardal lai yn un o'r safleoedd hynny. Gwyddom fod yr adar yma weithiau i’w gweld ar safleoedd eraill yn Ynys Môn, ond arhosodd yr adar dan sylw ar y ddau safle yma’n unig yn ystod y ddau fis ar ôl iddynt gael eu tagio y gwanwyn yma. Mae'n bosibl eu bod yn symud i wahanol safleoedd ar wahanol adegau yn ystod y gaeaf er mwyn manteisio ar y tir bwydo gorau, felly dyma gwestiwn arall y gellid ei ddatrys unwaith y bydd yr adar yn dychwelyd y gaeaf yma ac yn rhoi mwy o ddata i ni!

Mae paru gosodiadau GPS â data cynefinoedd yn datgelu patrwm clir o’r dydd a’r nos gan ddangos lle mae'r gwyddau'n dewis treulio eu hamser. Treulir yr holl ddiwrnod fwy neu lai ar dir pori - ar borfa o'r radd flaenaf lle gall y gwyddau fwydo faint a fynnont. Ar ôl iddi dywyllu, roedd y gwyddau’n dychwelyd bob nos i un o ddau gorff dŵr mawr, gan nythu ar ddŵr dwfn (yn ôl pob tebyg i leihau’r risg gan ysglyfaethwyr). Bydd dadansoddiad pellach yn ein helpu i ddeall yn fanylach pam eu bod nhw’n dewis gwneud hyn – yma mha gaeau maen nhw’n hoffi bwydo orau, a beth yw nodweddion y caeau yma? Pam maen nhw bob amser yn clwydo ar y ddau gorff dŵr yma, yn hytrach nag unrhyw ddyfroedd llonydd eraill yn yr ardal? At hyn, rydym yn gobeithio deall pa ffactorau sy'n dylanwadu ar ddewis yr adar i dreulio amser ym mhob safle, ac yn enwedig pa ffactorau sy'n peri iddynt ddefnyddio eu hegni gwerthfawr i newid o un safle i'r llall - rhywbeth oedd yn digwydd bron bob dydd yn ystod un wythnos benodol ddiwedd mis Chwefror.

Ymhlith y posibiliadau, byddwn yn ymchwilio i newidynnau sy'n ymwneud ag amodau hinsoddol - ffocws allweddol ar gyfer prosiect ECHOES, sy'n ceisio deall sut y bydd newid parhaus yn yr hinsawdd yn effeithio ar Wyddau Talcen-lawen yr Ynys Las a’r Gylfinir o amgylch Môr Iwerddon. Mae'r amgylchiadau eithriadol o gynnal y gwaith yma yn ystod y pandemig hefyd wedi cynnig cyfle cwbl unigryw i ni gysylltu newidiadau mewn ymddygiad gwyddau â dyddiadau allweddol - fel 13 Mawrth, pan newidiodd cyfyngiadau yng Nghymru o "aros gartref" i "aros yn lleol". Credir yn gyffredinol bod y gwyddau yma’n osgoi pobl gymaint ag y gallant, felly a wnaeth y cynnydd mewn gweithgarwch hamdden tua'r dyddiad yma - yn enwedig yng Nghors Ddyga yr RSPB - ddylanwadu ar eu hymddygiad? Gwyliwch y gofod yma, i gael atebion i hyn a mwy!

Mae'r map isod yn dangos sut y rhannodd ein fflyd o Wyddau Talcen-wen yr Ynys Las eu hamser rhwng dau leoliad yn Ynys Môn. Treuliodd y tri aderyn tua 95% o'u hamser o fewn yr ardaloedd yn y ddau gylch glas, a 50% o'u hamser o fewn y cylchoedd melyn llai.

Categorïau
Blog

Casgliad a dadansoddiad maes o’r planhigion

Rhodri Kemp
Technegydd Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth

Un o brif agweddau’r Prosiect ECHOES yw pennu pa rywogaethau o blanhigion y mae Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las yn eu bwyta mewn amryw o safleoedd gaeafu.

Bydd gwerth maethol y planhigion bwyd hynny’n cael ei ddadansoddi ac mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar gyflwr y gwyddau pan fyddant yn cychwyn mudo tua’r gogledd yn ystod y gwanwyn.

Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Mae archwilio llenyddiaeth sy’n berthnasol i’r rhywogaeth hon o wyddau wedi ein galluogi i wneud rhestr o’r rhywogaethau o blanhigion y maen nhw wedi cael eu gweld yn bwyta mewn amryw o safleoedd yn y gorffennol. Rhoddodd hyn fan cychwyn arbennig o ran dynodi pa rywogaethau o blanhigion ddylem ni eu samplu, yn ogystal â pha rannau penodol o’r planhigion y mae Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las yn eu bwyta.

Cyn hir, bydd metagodio deunydd ysgarthol Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las yn ein galluogi i ddynodi pa rywogaethau o blanhigion maen nhw’n eu bwyta. Fodd bynnag, yn ystod y tymor samplu cyntaf hwn, gyda diffyg gwybodaeth o’r fath, penderfynwyd y dylem ni ymweld ag ardaloedd bwydo hysbys a chasglu samplau o blanhigion y mae’r gwyddau’n debygol o’u bwyta yn seiliedig ar y rhestr o rywogaethau planhigion bwyd hanesyddol. Casglwyd y samplau hyn yn ystod tri chyfnod gwahanol dros y gaeaf. Roedd hyn yn ein galluogi i weld a oedd unrhyw newidiadau yng ngwerthoedd maethol y planhigion hynny.

Roedd y sesiynau samplu cyntaf o gwmpas Aber Dyfi i fod i ddigwydd yn fuan ar ôl i’r haid o Wyddau Talcen Wen yr Ynys Las gyrraedd ar ddechrau’r hydref. O ganlyniad i’r pandemig Covid-19, bu’n rhaid i ni ohirio’r sesiynau tan fis Rhagfyr.

Digwyddodd yr ail gasgliad yng nghanol y gaeaf a bydd y drydydd casgliad yn digwydd yn fuan ar ôl i’r gwyddau adael er mwyn mudo tua’r gogledd. Roedd yn rhaid i ni sicrhau nad oeddem yn tarfu ar y gwyddau ar unrhyw achlysur pan oeddem yn ymweld â’r safleoedd i gasglu deunydd.

Collecting plant samples on Dyfi Estuary
Rhodri Kemp yn casglu samplau yn ardal Aber Dyfi.

Hyd yn hyn, mae’r ddau gyfnod samplu wedi eu cwblhau’n llwyddiannus yng Nghymru gan dîm a oedd yn cynnwys Peter Dennis (Arweinydd y Prosiect), Danny Thorogood (Botanegwr) a Rhodri Kemp (Technegydd Ymchwil) gyda chyfarwyddyd gan Gareth Thomas (Adaregwr y Prosiect).

Yn Iwerddon, mae Gemma Beatty (Biolegydd Moleciwlaidd) wedi cydlynu dyblygiad y gwaith maes hwn yng Ngwarchodfa Adar y North Slobs, Llwch Garmon tra bod Dominic Berridge (Warden Gwarchodfeydd; Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol a Bywyd Gwyllt, Iwerddon) wedi casglu deunydd ysgarthol a samplau llystyfiant o brif safle gaeafu Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las.

Yng Nghymru, cyfunodd Peter y samplau o lystyfiant gyda’r casgliad o ddeunydd ysgarthol y gwyddau a ddaw o’r ardaloedd lle maent yn pori yn ystod y dydd ar hyn o bryd, tra bod Danny a Rhodri wedi casglu samplau o leoliadau gyda llystyfiant addas nad oedd yn cael eu pori gan Wyddau Talcen Wen yr Ynys Las ar hyn o bryd.

Roedd mewnbwn Gareth yn hanfodol gan ei fod yn treulio llawer o’i amser yn monitro’r haid o Wyddau Talcen Wen yr Ynys Las yn fanwl ac o ganlyniad, mae wedi canfod gwybodaeth hynod o fanwl ar symudiadau dyddiol a hoff safleoedd bwydo tymhorol y gwyddau. Hefyd, rhybuddiodd Rhodri’r tîm gwaith maes i ffoi pe bai’r gwyddau’n dechrau hedfan tuag atynt

Hyd yma, mae dros 106 sampl o lystyfiant wedi cael eu casglu ar draws pob un o’r safleoedd astudiaeth achos yng Nghymru ac Iwerddon ar gyfer dadansoddi a chymharu pellach.

Grass samples being prepared for analysis.
Gwaith trafferthus! Pentyrrau o samplau gwahanol o ddiet y Gwyddu wedi’u gwahaniaethu yn barod ar gyfer dadansoddi.

Ar hyn o bryd, mae’r samplau yn cael eu glanhau, eu trefnu a’u sychu yn barod ar gyfer cam nesaf y broses – sef dadansoddi maethol ac rydym ni’n rhagweld y byddwn yn darganfod gwybodaeth newydd am anghenion dietegol y Gwyddau prin.

Categorïau
Blog

Prosiectau INTERREG Iwerddon-Cymru yn cwrdd i drafod cydweithio

Representatives from 15 INTERREG Ireland-Wales projects met on the 9th Rhagfyr 2020 i gyflwyno eu hunain a’u prosiectau yn ein Fforwm Materion Gweithredol cyntaf. O’r 21 o bobl a oedd yn bresennol, roedd y mwyafrif ohonynt yn Rheolwyr Gweithredol. Roedd Prif Ymchwilwyr, Rheolwr Ymchwil ac Arweinwyr Cyfathrebu hefyd wedi yn ymuno â’r grŵp.

Roedd prosiectau’n amrywio o rai a oedd wedi dechrau o fewn y flwyddyn i brosiectau a oedd yn agosáu tuag at ddirwyn i ben, a chytunwyd bod cyfle sylweddol yma i elwa o brofiad eraill ac i rannu arfer da. Cawsom glywed gan bob un o’r mynychwyr a nodwyd amrywiaeth y prosiectau o fewn y grŵp yn ogystal â mannau lle mae prosiectau’n gorgyffwrdd a’r meysydd o ddiddordeb cyffredin.

Yn ystod y sesiynau ar wahân, trafodwyd pwrpas y fforwm at y dyfodol, yn ogystal â rhai materion logisteg; pa mor aml y dylid trefnu cyfarfodydd er enghraifft. Cyflwynwyd adroddiad cryno o’r trafodaethau hyn i’r grŵp llawr ar y diwedd, ac anfonwyd manylion pellach dros e-bost at drefnydd y fforwm, Crona Hodges. Casglodd Crona yr holl ganlyniadau o’r trafodaethau cychwynnol hyn ynghyd â’u rhannu gyda’r grŵp.

Nodwyd fod canfod meysydd lle byddai modd cydweithio yn y dyfodol yn rhywbeth yr oedd pawb yn awyddus i’w archwilio ymhellach, ynghyd â’r cyfle i ddod ynghyd a rhannu syniadau a phrofiadau. Nodwyd hefyd yr angen i ganfod meysydd o ddiddordeb cyffredin a chanolbwyntio ar y meysydd hynny yn ystod y cyfarfodydd.

Gallai diddordebau cyffredin gynnwys cyhoeddusrwydd, caffael, estyniadau, ymdopi gyda Covid-19hawliadau, dirwyn prosiectau i ben, ymgysylltu gyda’r gymuned, gwerthusiadau allanol a’r cyfryngau cymdeithasol. Trafodwyd hyrwyddo digwyddiadau rhwng y grwpiau a negeseuon y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y trafodaethau agored, ac mae’r gwaith wedi dechrau i sicrhau bod pawb yn derbyn dolenni i wefannau pob un o’r prosiectau, ynghyd â manylion Twitter, er mwyn i hyn allu digwydd yn ehangach yn y dyfodol.

Rhannwyd gwybodaeth ynglŷn â digwyddiad Datganiadau Ardaloedd Morol CNC a gynhelir ym mis Ionawr gyda phawb cyn y cyfarfod, ynghyd â dolen i’r ddogfen Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru: Fframwaith. Bydd y fforwm yn cwrdd unwaith eto ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd.


 

Categorïau
Blog

Darlunio prosiect ECHOES

Laura Sorvala
Illustrator at Laura Sorvala Illustration & Graphic Recording

Pan gysylltodd Crona Hodges, Rheolwr Prosiect ECHOES â mi ynglŷn ag ECHOES, teimlais yn gyffrous gan fod cyfle i mi weithio ar rywbeth sy'n ymwneud â newid hinsawdd a natur. Mae’n debyg bod a wnelo hyn yn rhannol â’r ffaith bod un ochr o fy nheulu’n dod o’r Ffindir - mae gennym gysylltiad dwfn â natur, ac rwy'n tueddu i gael fy nenu at gyfleoedd i ddarlunio anifeiliaid a phlanhigion a sut mae pethau wedi'u cydgysylltu. Rwyf hefyd yn hoff o ddulliau amlddisgyblaethol ac rwyf wedi cynhyrchu darluniau ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil sy'n cyfuno gwahanol ddisgyblaethau academaidd.

Fel arfer, dechreuodd fy mhroses gyda thrafodaeth yn archwilio'r hyn a allai weithio orau i'r prosiect. Y nod oedd creu delweddau diddorol ar gyfer lansio'r prosiect digidol, yn ogystal â meddwl am set o ddelweddau yn y dyfodol a allai helpu i ddarlunio gwaith y prosiect ECHOES. Penderfynwyd gweithio ar sleidiau cyflwyno, gan ganolbwyntio ar bum maes allweddol y prosiect.

Illustrations depicting some of the ECHOES activities. Clockwise from top left: Web platform tool, bird tracking, stakeholder engagement and vegetation surveys.

Dewisais nifer cyfyngedig o liwiau yn seiliedig ar balet lliw prosiectau ECHOES. Yna, brasluniais syniadau cychwynnol a addaswyd gennym i sicrhau y byddai'r cysyniadau a'r cysylltiadau mwy haniaethol yn cael eu cyfleu. Hefyd creais eiconau a delweddau sgwâr i wneud y defnydd gorau posibl ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol.

einconau ECHOES

Mae meddwl yn weledol fel ail natur i mi, ond mae i bob prosiect ei heriau ei hun. Er enghraifft: sut i ddarlunio trefn y cynnwys, tôn llais, ethnigrwydd a chydbwysedd rhywiau yn briodol. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'n arw barodrwydd cleientiaid i ymddiried ynof tra bydda i’n meddwl am syniadau ynglŷn â’r ffordd orau i gyfleu'r briff. Gwnaed nifer o newidiadau i rai manylion er mwyn mireinio'r pwyntiau gwyddonol. Pan oedd y brasluniau i gyd yn barod, gwneuthum y gwaith celf terfynol yn Procreate ar iPad Pro – fy nghyfrwng gwaith presennol ar gyfer digwyddiadau o bell a chomisiynau.

Roedd yn wych bod yn rhan o'r lansiad a gweld y delweddau'n cael eu defnyddio yn y sleidiau cyflwyno. Roedd yn braf darlunio’r siaradwyr a'u negeseuon a chreu crynodeb gweledol. Yr oedd pawb mor frwdfrydig ynglŷn â phosibiliadau'r gwaith cydweithredol, rhyngddisgyblaethol hwn o'n blaenau. Rwy’n falch iawn bod y darluniau'n cyfleu ymdeimlad o egni ac angerdd pobl sy'n cysylltu â natur mewn gwahanol ffyrdd. Mwynheais hefyd gynnwys cysyniadau mawr fel newid hinsawdd yn ogystal â dulliau gwyddonol manwl – fel y dadansoddiad DNA.

At ei gilydd, cefais bleser mawr bod yn rhan o greu asedau gweledol ar gyfer y prosiect ECHOES ac rwy’n gobeithio parhau i gymryd rhan yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Categorïau
Blog

Platfform y We – Offer, dylunio a datblygu

Cynnydd Hydref 2020

Dave Dallaghan
Rheolwr Datblygu Prosiect a Phlatfform, Compass Informatics

Diben Llwyfan y We ECHOES yw hybu ymwybyddiaeth, addasu, atal a rheoli newid yn yr hinsawdd. Gan weithio'n agos gyda'r Pecynnau Gwaith ECHOES eraill, mae Pecyn Gwaith 7 – sy'n cael ei arwain gan Compass Informatics – wrthi'n datblygu'r canlynol fesul cam:

  • Offer Llwyfan y We i hybu ymwybyddiaeth, addasu, atal a rheoli newid yn yr hinsawdd
  • Modelu newid hinsawdd ar gyfer cynefinoedd, effeithiau ac addasiadau
  • Rhaglen Rheoli Tir
  • Integreiddio â Setiau Data Arsyllu'r Ddaear a pheiriannau prosesu (Lloerenni Sentinel)
  • Delweddau o gynefinoedd rhywogaethau, mapio ac olrhain
  • Cyfres o offer ac apiau Gwyddor Dinasyddion
  • Cynnal llwyfan y system tra bydd y prosiect yn para
  • Datblygu a mabwysiadu cynllun gweithredu yn y dyfodol

Mae'r datblygiadau presennol yn cynnwys yr isod:

Arsyllu'r Ddaear/Synhwyro o bell:

Mae'r maes newydd cyffrous hwn yn datblygu'n gyflym ac mae'n dod yn adnodd hanfodol ar gyfer nodi a dadansoddi effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae delweddau a data synhwyro gan Asiantaeth Ofod Ewrop (Sentinel 1 a 2) yn cael eu prosesu o fewn Llwyfan y We ECHOES i gynhyrchu delweddau sy'n dangos effeithiau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.

FFfigur 1: Delwedd uniongyrchol wreiddiol gan Loeren Sentinel Asiantaeth Ofod Ewrop
Ffigur 2: Ar ôl i'r Ddelwedd Lloeren (Ffigur 1) gael ei phrosesu, dangosir y nodweddion dŵr.

Yn ogystal â hyn, mae'r ddelwedd a broseswyd isod wedi defnyddio golau is-goch i helpu i weld cyflwr y llystyfiant. Mae planhigion yn adlewyrchu golau is-goch ar wahanol lefelau yn dibynnu ar lefelau Cloroffyl. Gellir defnyddio hyn a ffactorau eraill i ddarganfod pa mor iach yw'r planhigion, er enghraifft, os ydynt yn dioddef o sychder.

Ffigur 3: Defnyddir golau is-goch i weld cyflwr y llystyfiant.  

Mae'r ddelwedd isod yn dangos sut mae data hanesyddol wedi'i uno â rhagfynegiadau yn y dyfodol i ddangos effaith newid yn yr hinsawdd dros gyfnod o gant o flynyddoedd. Gall defnyddiwr ddewis Glawiad, Cyflymder y Gwynt, Tymheredd a Lefel y Môr a gweld cofnodion hanesyddol ar gyfer y rhain, yn ogystal â rhagfynegiadau sut maen nhw'n debygol o newid wrth i'r hinsawdd newid. Dangosir y rhain ar gyfer ardal y defnyddwyr eu hunain.

Ffigur 4: Data hanesyddol wedi'i uno â rhagfynegiadau yn y dyfodol.

O ystyried bod achosion o dywydd eithafol yn digwydd yn amlach a’u bod yn fwy dwys oherwydd newid yn yr hinsawdd, mae Ap Rhybudd Tywydd yn cael ei ddatblygu i alluogi defnyddwyr i gynhyrchu rhybuddion. Bydd hyn yn eu helpu i gynllunio ar gyfer digwyddiadau eithafol yn eu hardaloedd. Bydd hefyd yn fodd iddynt osod eu terfynau a'u cyfuniadau eu hunain o newidynnau ar gyfer rhybuddion, er enghraifft: "Dywedwch wrthyf pryd y bydd gwynt uchel iawn ar y cyd â thymheredd uchel iawn."

Ffigur 5: Ap Rhybudd Tywydd gyda rhybuddion yn rhan ohono.