Categorïau
Blog

Gwaith maes botanegol ar y corsydd

By Holly Sayer, Field Botanical Surveyor.

Fel botanegydd, mae’r rhan fwyaf o fy ngwaith yn canolbwyntio ar fisoedd y gwanwyn a’r haf, felly mae cymryd rhan mewn prosiect lle mae tirfesur yn canolbwyntio dros gyfnod y gaeaf yn wahanol. Fodd bynnag, mae’n dod â’i set ei hun o heriau. Mewn amgylchedd tymherus fel y DU, mae planhigion a glaswelltau gan amlaf yn segur yn ystod tymor y gaeaf. Mae hyn yn gwneud eu hadnabod yn fwy heriol gan fod y rhan fwyaf o’r dail a’r rhannau blodeuol naill ai’n llai gweladwy neu ddim yn bodoli. Ychwanegwch at hynny'r glaw llorweddol a’r gwelededd o 20 metr sy’n gyffredin ar gorsydd arfordirol Gorllewin Cymru yn y gaeaf, ac mae gennych yr hyn yr ydym yn hoffi cyfeirio ato fel newidynnau allanol.

Holly Holly yn didoli samplau o lystyfiant yn y labordy ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae gwaith maes prosiect ECHOES yr wyf yn ei wneud yn canolbwyntio ar y glaswelltir gwlyb a morfeydd heli o amgylch Ynys Hir ar Aber yr Afon Dyfi. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio o asesu a allai codiad yn lefel y môr effeithio ar fannau bwydo gaeaf y boblogaeth warchodedig o Wyddau Talcenwyn yr Ynys Las. I wneud hyn, rwy‘n mynd allan i’r corsydd i gasglu samplau o’u planhigion bwyd. Mae’r samplau hyn yn cael eu cymryd yn ôl i’r labordy ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle rwy’n sychu a didoli’r deunydd cyn eu hanfon i’w dadansoddi am faeth yn y labordy biocemeg.

Yr unig olion traed a welaf ar y morfeydd heli yw fy rhai i a’r gwyddau.

Y cyfnod byr hwn rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth, pan fydd y gwyddau’n bresennol ar y corsydd, sy’n diffinio fy amserlen arolygu gaeaf. Rwy’n dewis dyddiau gorau’r wythnos a gyda fy GPS, bagiau sampl a fflasg o goffi poeth, yn dechrau ar y daith gerdded o faes parcio Ynys Hir at y mannau samplu. Unwaith y byddwch chi’n croesi’r rheilffordd o’r Borth i Aberystwyth rydych chi yn y morfeydd heli, sydd ddim yn hygyrch i‘r cyhoedd, felly'r unig olion traed a welaf yma yw fy rhai i a’r gwyddau.

o’r rheilffordd

Mae’r arwahanrwydd hwn oddi wrth bobl eraill oherwydd y llanw ddwywaith y dydd yn rhoi i’r morfeydd heli eu harddwch etheraidd ac anghysbell. Wrth i chi fordwyo ar draws rhwydwaith eang o sianeli’r aber sydd wedi eu cerfio gan y llanw sy’n cilio, mae eich ffocws ar aros yn unionsyth yn y mwd aberol siltaidd. Mae’r distawrwydd yn cael ei atalnodi o bryd i’w gilydd gan y galwadau atmosfferig sydd ond i’w clywed gan adar y gwlypdir, megis y Gylfinir, y Pibydd Coesgoch, y gwyddau a’r rhediad annhebygol o drên Aberystwyth i’r Borth yn y pellter.

o geg yr Afon Cletwr ar drai

Cynlluniwyd y gwaith maes o amgylch planhigion bwyd hysbys y Gwyddau Talcenwyn Ynys Las (GTYL), i geisio deall pam mae GTYL yn dewis ardal benodol, er mai’r un planhigion bwyd sydd ar gael mewn ardaloedd eraill o’r gors. Rydym yn casglu planhigion bwyd hysbys y GTYL o drawstoriad o gynefinoedd o fewn y corsydd er mwyn gweld a oes gwahaniaeth yn y gwerth maethol o fewn math penodol o gynefin neu ardal o’r morfa heli. A allai’r gwyddau fod yn dewis y caeau hyn dro ar ôl tro oherwydd bod y planhigion sydd ynddynt yn fwy dwys o ran maeth, neu a oes ffactorau eraill ar waith?

Cyrs mewn ffosydd ar hyd y glaswelltiroedd gwlyb

Mae cynnydd yn lefel y môr yn gwneud yr ardaloedd arfordirol hyn yn arbennig o agored i golli cynefinoedd. Os bydd y GTYL yn dewis yr union feysydd hyn am reswm penodol, a allai hyfywedd y boblogaeth fod mewn perygl os bydd rhai ardaloedd o’r gors yn cael eu colli?

tywydd cyfnewidiol ar draws y Ddyfi 

Mae’r tiroedd gaeafu hyn yn gynefin hanfodol i’r gwyddau faethu a chael eu hunain mewn cyflwr da ar gyfer y daith lafurus yn ôl i’w tiroedd bridio haf yng ngorllewin yr Ynys Las. Trwy ddeall gwerth maethol y ffynonellau bwyd ar draws y gors, mae prosiect ECHOES yn gobeithio y gall y wybodaeth hon fod o gymorth i reolwyr tir addasu i gynnydd yn lefel y môr a sicrhau bod cynefinoedd addas ar gael.

Awyr las yn adlewyrchu dros y morfa heli.

Wrth fynd yn ôl at y car ar ôl diwrnod hir o samplu gyda naws a chymeriad y dydd, sy’n newid yn barhaus, yn cael eu hadlewyrchu oddi ar fflatiau llaid, rwyf yn cael fy atgoffa o ba mor bwysig yw’r cynefinoedd unigryw hyn.

Yr unig olion traed a welaf ar y morfeydd heli yw fy rhai i a’r gwyddau.
Categorïau
Blog

Apêl i wylwyr adar: Rhowch wybod am Ylfinirod wedi’u modrwyo

Erbyn hyn rhoddwyd modrwyau Ymddiriedolaeth Adareg Prydain ar y grŵp cyntaf o’r gylfinirod sy’n gaeafu ar Aber Afon Dyfi ynghyd â modrwyau lliw unigol adnabyddadwy fel rhan o ymchwil newydd. Bydd y prosiect ECHOES yn astudio dosbarthiad y gylfinir dros y gaeaf a pha mor fregus ydyn nhw i’r newid yn yr hinsawdd yng ngorllewin Cymru.

Apêl yw hon i wylwyr adar, ac yn enwedig y rhai sydd â diddordeb mewn adar môr, i fynd ati’n ofalus i gofnodi lliw a lleoliad unrhyw fodrwyau lliw (gan gynnwys lle bynnag y bo'n bosibl y cod dau ddigid ar fodrwyau lliw mawr) ar y gylfinirod a welir yn ardaloedd rhynglanw aberoedd, corsydd halen a thir fferm cyfagos ar hyd yr arfordir, a rhoi gwybod i midwales.ringing@btinternet.com

Bydd eich cofnodion o weld yr adar hyn sydd wedi'u marcio'n unigol yn hanfodol i'n helpu i werthfawrogi cyflwr gylfinirod sy’n cadw at yr un safleoedd drwy gydol y gaeaf, ac i nodi lle mae'r adar yn bwydo, yn clwydo ac yn gorffwys amlaf. Bydd hyn yn helpu i ganfod cynefinoedd hollbwysig ar yr arfordir sy'n cefnogi'r rhywogaeth hon o bryder cadwraethol sylweddol.

Gylfinir â modrwy liw. Llun: Tony Cross, ECHOES, Prifysgol Aberystwyth