Categorïau
Blog

Tagio ac olrhain y Gylfinir yn Iwerddon

Luke Lambert

Cynorthwydd Ymchwil, University College Cork

Pan ddaeth Fiona Cawkwell, aelod o dîm ECHOES, ataf i drafod y prosiect, roedd yn gyfle na allwn ei wrthod. Nid yn unig y byddwn yn gweithio ar brosiect a oedd yn cynnwys fy angerdd am gadwraeth adar, ond byddwn hefyd yn gweithio ar brosiect yn fy sir enedigol o Wexford.

Ymunais â phrosiect ECHOES yn wythnos olaf mis Hydref, ac nid oedd yn hir cyn i mi fod yn brysur yng nghanol gwaith maes.Fy swydd gyntaf oedd cynorthwyo i ddal a thagio gylfinirod yn Ballyteige Burrow, gwarchodfa natur ar arfordir de Wexford.

Yn wythnos gyntaf mis Tachwedd, cyrhaeddodd tîm o'r BTO, gan gynnwys aelodau tîm ECHOES Rachel Taylor a Callum McGregor, i Wexford gyda'r nod o ddal a thagio deg aderyn.

Trwy fonitro'r tagiau GPS, gallwn ddarganfod pa gynefinoedd mae’r adar yn ffafrio, a deall eu cyflenwad bwyd mewn cynefinoedd fel gwastadeddau llaid, morfa heli a phorfeydd.

Mae dilyn yr adar hefyd yn ein helpu i ddeall pa mor ddetholus a symudol ywr adar, yn enwedig lle maent yn defnyddio cynefinoedd anghyson a lle mae pwysau allanol fel aflonyddwch a chylchoedd llanw yn effeithio ar eu hymddygiad.

Nid oes prinder gylfinirod yn Ballyteige dros y gaeaf, gyda channoedd yn treulio'u hamser rhwng yr aber a'r caeau cyfagos. Er hyn, maent yn anodd eu dal, gan eu bod yn wyliadwrus iawn o fodau dynol a'u hamgylchedd yn gyffredinol. Roedd hyn yn golygu rhaid bod yn amyneddgar ac arsylwi'r ardal yn ofalus em mwyn ddarganfod y safleoedd gorau i ddal y gylfinirod.

Roedd fy nhrefn ddyddiol yn golygu deffro am 5 o’r gloch y bore cyn beicio 25 km o gartref ar ffyrdd gwledig Wexford; profiad na anghofiaf yn fuan! Ar ôl rhai diwrnodau aflwyddiannus, fe wellodd y tywydd, a llwyddon ni i ddal naw aderyn gwryw mewn un bore ac un aderyn fenywaidd y bore canlynol. Roedd y tîm o'r BTO yn brysur yn pwyso, mesur a gosod modrwyau gyda chod unigryw ar goesau’r adar er mwyn cofnodi pob unigolyn. Yna fe wnaethant osod tagiau lloeren ysgafn (sydd yn hollol ddiogel a diniwed) ar gefnau'r adar.

iage of a sateliite tag that is to be fitted to a Curlew
Y tagiau lloeren a osodwyd ar gefn pob gylfinir a ddaliwyd.
Picture of a curlew with a glue mounted GPS tracker on its back
Mae'r tag lloeren yn eistedd yn gyffyrddus rhwng adenydd y Gylfinir.

Ar ôl rhyddhau'r adar a dagiwyd, y cam nesaf oedd sefydlu tair gorsaf GPS mewn lleoliadau addas. Mae'r gorsafoedd hyn yn cyfathrebu â'r tagiau lloeren ac yn dilyn symudiadau'r adar pan fyddant o fewn radiws o un cilomedr. Fy swydd i yw ymweld â'r gorsafoedd GPS a chasglu'r data ddwywaith yr wythnos cyn ei anfon i'w brosesu gan Katharine Bowgen, dadansoddwr ymchwil BTO ac aelod o dîm ECHOES.

Picutre of a base station on a pole with estuary in background and blue sky
Gorsaf GPS yn agos at yr aber. Mae'n gwynebu i'r de er mwyn cynhyrchu trydan o olau'r haul.
Luke Lambert gathering data from base station
Casglu'r data sy’n olrhain adar o un o'r tair gorsaf GPS.

Mae'r canlyniadau cyntaf yn dangos bod y gylfinirod yn ffafrio cynefinoedd ger yr aber a'r caeau cyfagos yn ystod y dydd a’r nos. Ond mae gwybodaeth mwy diweddar yn dangos bod rhai adar wedi dechrau symud ymhellach i’r mewndiroedd i ymweld â chaeau penodol o amgylch pentref Rathangan.

A map showing the movements of the tagged Curlew in the Ballyteige Burrow area.
Map yn dangos symudiadau'r Gylfinir sydd wedi eu tagio yn ardal Ballyteige Burrow.

Byddaf yn parhau i gasglu data o bob gorsaf GPS dros y gaeaf. Mae Ballyteige Burrow yn ardal hyfryd i weithio ynddi, gyda tirwedd hynod ddiddorol o systemau twyni tywod, gwastadeddau llaid a chorsydd halen. Mae'r cyffiniau hefyd yn un o'r ardaloedd mwyaf heulog ledled Iwerddon.

Mae yna rhywbeth doddorol i'w weld bob tro y byddaf yn casglu data, gan gynnwys adar fel y Cudyll Bach, Tylluan Glustiog a Hwyaden Ddanheddog. Byddwn yn parhau i gasglu data ddiddorol o symudiadau dyddiol y Gylfinir a fydd o ddefnydd mawr i wyddonwyr a rheolwyr tir er mwyn amddiffyn cynefinoedd pwysig a sicrhau poblogaethau adar iach a hyfyw.

a Merlin sits in long grass on the ground
Cudyll Bach yn gorffwys ar dwmpath, un o'r adar ysglyfaethus niferus sy'n ymgartrefu yn Ballyteige Burrow dros y gaeaf. Yn ffodus, mae’r gylfinirod yn rhy fawr iddyn nhw geisio dal!
photo of distant curlew flying in the sky
Wrth olrhain symudiadau'r Gylfinir trwy gydol y gaeaf, bydd prosiect ECHOES yn rhoi mewnwelediadau allweddol i'r cynefinoedd sy'n cael eu ffafrio gan adar yn ardal Ballyteige Burrow yn ystod y dydd a'r nos.