Digwyddiadau

Our Stakeholder Engagement Team frequently run events for schools, young people’s groups and other community groups. To organise interactive educational session, or a talk, please contact info@echoesproj.eu.

Below we list some of our public events. We hope to see you soon.

ECHOES Project Closure Conference

ECHOES is a 3.5 year project seeking to understand the effect of climate change on bird habitats around the Irish Sea. The project is focused on two wetland species: the Curlew and Greenland White-fronted Goose.

9th March 2023

Join us in person for the ECHOES Project Closure Conference in Aberystwyth, Wales. We will be presenting research results from the ECHOES Project, and showcasing the ECHOES Platform.

Webinar – An Introduction to the ECHOES Platform: Tools for Land Managers and Policy Makers

Are you a land manager or policy maker? Discover how the ECHOES Platform can help you to visualise changes to your site in the context of climate change, and to plan mitigating actions.

30th November 2022

Join Compass Informatics for a live demonstration of the ECHOES Platform.

Arddangosfa Prosiect yng Nghyngor Sir Wexford

Darganfyddwch y gwaith mae ECHOES yn ei wneud yn ardal Wexford ar Ddiwrnod Ewrop

9ed Mai 2022

I nodi Diwrnod Ewrop 2022, rydym yn ymuno â phrosiectau eraill a ariennir gan raglen Interreg. Dysgwch fwy am offer gwe a gynlluniwyd i gefnogi rheolwyr tir a llunwyr polisi, a chwrdd ag aelodau o'n tîm.


Taith dywys gyda ECHOES yn Blackrock Estuary, Cork

Ymunwch ag ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Corc am daith gerdded Gwanwyn yma

5ed Mawrth 2022

Mae prosiect ECHOES yn partneru â Rhwydwaith Natur Cork ar gyfer Taith Gerdded a Sgwrs o amgylch Blackrock Estuary. Ymunwch ag ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Corc am daith gerdded dywys, er mwyn gweld adar y môr a dysgu mwy am y Gylfinir, Gŵydd Talcen-wen yr Ynys Las ac effeithiau rhagamcanol newid hinsawdd ar adar yr arfordir.  


Darlith yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Dyfi

Ymunwch â Dr Peter Dennis o Brifysgol Aberystwyth i ddarganfod mwy am yr ymchwil y mae ECHOES yn ei wneud yn Aber Afon Dyfi – un o brif safleoedd astudio’r prosiect.

17ed Tachwedd 2021

Mae prosiect ECHOES yn ymchwilio ymddygiad y Gylfinir a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las sydd yn gaeafu yn Aber Afon Dyfi. Dysgwch mwy am eu deiet, eu hoff gynefinoedd a'u symudiadau o amgylch y Dyfi yn y sgwrs hon yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Dyfi. Gellir prynu tocynnau ar y noson, a bydd lluniaeth ar gael.

Canu i'r adar

Noson o wyddoniaeth, jazz sipsiwn, cerddoriaeth werin a barddoniaeth

15 Medi 2021

Mae prosiect ECHOES a Celtic Neighbours wedi dod ynghyd i gynnal digwyddiad cymunedol ar gyfer y teulu cyfan. Ymunwch â bwydlen flasus a ddarperir gan Tŷ Cemaeswrth fwynhau cerddoriaeth werin, jazz sipsiwn a barddoniaeth newydd, yn Gymraeg ac yn Wyddeleg, wedi'i hadeiladu o amgylch themâu newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau sydd dan fygythiad. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddysgu mwy am fywyd adar yn Aber Dyfi.

Gweminar Diwrnod Gylfinir y Byd

21 Ebrill 2021

I ddathlu Diwrnod Gylfinir y Byd, byddwn ni’n cyflwyno ein gwaith ymchwil diweddaraf ar Ylfinirod - o’r ymddygiad yn y maes i fapio cynefinoedd o’r gofod! 

Ceir sesiwn holi ac ateb byw, cerddoriaeth wych, a byddwn yn cyhoeddi enillwyr ein cystadleuaeth Tynnu Llun Gylfinir. Cystadleuaeth Tynnu Llun y Gylfinir!

Cystadleuaeth Tynnu Llun y Gylfinir

Dyddiad cau: 18 Ebrill 2021

Yn arwain at Ddiwrnod Gylfinir y Byd, rydyn ni’n lansio cystadleuaeth arlunio!

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Gylfinir, sydd ar y rhestr goch, ac sy’n un o’r adar rydyn ni’n eu hastudio ym mhrosiect ECHOES, hoffem herio plant ar hyd arfordir Môr Iwerddon i anfon llun o’r Gylfinir atom ni! Bydd yr enillwyr yn cael 20 o gardiau rhodd gyda’u llun o’r Gylfinir wedi’i argraffu arnynt.

Lansio ECHOES

23 Gorffennaf 2020

Cyfle i glywed am brosiect ECHOES a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd yn trafod ein hadnoddau naturiol gwerthfawr, effeithiau newid yn yr hinsawdd ar hyd Môr Iwerddon a chyfleoedd i gydweithio er mwyn rheoli’r heriau yr ydym yn eu hwynebu.

ECHOES Project Closure Conference

9th March 2023

You can now register for our Closure Event in Aberystwyth. Join us to learn all about our research, tools, resources & methodologies we have developed in the project.