Lansiad prosiect

23 Gorffennaf 2020

Digital launch of the ECHOES project. Hear how the ECHOES project will help climate change adaptation along the Irish Sea.
Lansiad digidol prosiect ECHOES. Cyfle i glywed sut y bydd prosiect ECHOES yn helpu i addasu i’r newid yn yr hinsawdd ar hyd Môr Iwerddon.

Lansiad Digidol prosiect ECHOES

Pryd: 23 Gorffennaf 2020, 2.30-4.30pm

Lleoliad: Gweminar ZOOM ar-lein

Cyfle i glywed am brosiect ECHOES a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd yn trafod ein hadnoddau naturiol gwerthfawr, effeithiau newid yn yr hinsawdd ar hyd Môr Iwerddon a chyfleoedd i gydweithio er mwyn rheoli’r heriau yr ydym yn eu hwynebu.

Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. Cofrestrwch eich lle drwy glicio yma.

Darllenwch ein canllawiau gweminar cyn mynychu.

Siaradwyr

Lesley Griffiths MS

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Mae cyfrifoldebau presennol Lesley yn cynnwys mesurau trawsbynciol yn ymwneud â lliniaru ac addasu mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys dŵr; draeniad tir; llifogydd a pherygl i'r arfordir; rheoli llygredd morol a llygredd aer; polisi Bioamrywiaeth; gan gynnwys gweithredu'r Cynllun Adfer Natur. Cafodd ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2007 a bu'n gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau'r Cynulliad. Cyn hynny, bu Lesley yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam am 20 mlynedd. Mae Lesley a'i theulu yn byw yn Wrecsam.

MP Ben Lake

Magwyd Ben Lake yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. Graddiodd o Goleg y Drindod, Rhydychen gyda gradd israddedig mewn Hanes a Gwleidyddiaeth, a gradd Meistr mewn Hanes Modern Prydain ac Ewrop. Aeth ymlaen i weithio fel Swyddog Ymchwil yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn cyfnod byr yn gweithio i Elin Jones AS dros Geredigion. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Geredigion yn 2017, AS ieuengaf Cymru ac AS ieuengaf Plaid Cymru erioed.

Ar hyn o bryd, Ben yw llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan dros yr Economi, yr Amgylchedd, Bwyd, Materion Gwledig, Addysg, Sgiliau, Iechyd, Cymunedau, Llywodraeth Leol, Diwylliant, y Cyfryngau, Chwaraeon a Materion Cyfansoddiadol; fe'i penodwyd yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig ym mis Medi 2017. Enillodd ben wobr Dewis y Bobl ar gyfer AS Newydd y Flwyddyn yn 2019. Mae'r wobr yn dathlu gwaith Aelodau Seneddol o bob rhan o'r DU sy'n gweithio gyda chymunedau difreintiedig sy’n cael eu tan-gynrychioli ledled y DU.

Professor Elizabeth Treasure

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth  

Penodwyd yr Athro Elizabeth Treasure yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2017. Cyn hynny, roedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd lle'r oedd yn gyfrifol am brosiectau strategol gan gynnwys y rhaglen gyfalaf, recriwtio myfyrwyr, staffio a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'n aelod annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn aelod o fwrdd cyfryngau UCAS ac o bwyllgor cyllid UCAS.

Dr Peter Dennis PhD

Darllenydd mewn Ecoleg Ecosystemau sy'n cael eu Pori

Mae Peter wedi bod gyda Phrifysgol Aberystwyth ers mis Medi 2006 ac ar hyn o bryd mae'n Ddarllenydd o fewn y Grŵp Ecoleg, IBERS. Mae'n arbenigo mewn ecoleg ecosystemau sy'n cael eu pori a monitro ac asesu bioamrywiaeth mewn amgylchedd sy'n newid. Mae Peter wedi ysgrifennu 46 o bapurau mewn cyfnodolion gwyddonol a 77 o benodau llyfrau, adroddiadau a phapurau achos, ac wedi gwasanaethu fel golygydd/golygydd cysylltiol ar amrywiol gyfnodolion ymchwil rhyngwladol ac ar bwyllgorau gwyddonol, e.e. Ysgrifennydd Pwyllgor Gwyddoniaeth Bioamrywiaeth y DU (y Gymdeithas Frenhinol), 2012-16.

Peter yw Prif Ymchwilydd Prifysgol Aberystwyth ar brosiect ECHOES ac mae Prifysgol Aberystwyth yn Bartner Arweiniol ar y prosiect. Mae Peter yn cydlynu’r agwedd wyddonol ar fodelu dosbarthiad rhywogaethau ac arolwg maes ecolegol o boblogaethau Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las a’r Gylfinir sy’n gaeafu. Mae’n arbennig o gyffrous o gael y cyfle i weithio gyda phartneriaid cadwraeth presennol i ymchwilio i gynefinoedd allweddol yr adar hyn mewn aberoedd a gwlypdiroedd arfordirol ar hyd Môr Iwerddon ac i ragweld effeithiau’r argyfwng hinsawdd.

Dr Clive Walmsley

Prif Gynghorydd Newid yn yr Hinsawdd Cyfoeth Naturiol Cymru

Clive sy'n darparu'r arweiniad swyddogaethol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ar faterion strategol yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Mae wedi cyfrannu at y canllawiau ar addasu i newid yn yr hinsawdd o fewn y DU, ac yn rhyngwladol ar gyfer y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Mae Clive wedi bod yn gyfrifol am amrywiaeth o fentrau monitro amgylcheddol, gan gynnwys cynhyrchu adroddiad The Living Environment of Wales report.

Dan Rouse

Cyflwynydd, Cadwraethwr Bywyd Gwyllt ac Adarwr

Mae Dan yn gadwraethwr brwd, gyda diddordeb brwd mewn adareg. Ar ôl byw ar arfordir De Cymru, mae ganddi ddiddordeb mawr mewn gwlypdiroedd, adar a bywyd gwyllt arfordirol, ac mae'n teithio'r byd yn rheolaidd gan rannu ei hangerdd drwy ysgrifennu a chreu fideos. Mae ei phrosiect Wild Space (a lansiwyd yn 2017) wedi arwain at lwyddiant fel cyflwynydd ac arbenigwr ar deledu a radio cenedlaethol ac yn rhyngwladol ar-lein. Mae Dan a'r prosiect hefyd yn teithio i wyliau ar draws y wlad i ddangos sut y gall pob un ohonom gymryd rhan a gofalu am y bywyd gwyllt yn ein gerddi.

Dave Wall

Swyddog Gwyddor Dinasyddion yn y Ganolfan Ddata Bioamrywiaeth Genedlaethol

Mae Dave yn cydlynu dau arolwg gwyddor dinasyddion yn canolbwyntio ar rywogaethau gwas y neidr a mursen, ac ar rywogaethau morol. Mae ganddo radd mewn Gwyddorau Naturiol ac mae wedi treulio'r 24 mlynedd diwethaf yn gweithio ym maes ecoleg a chadwraeth. Mae'n rhedeg cwmni ymgynghori ecolegol sy'n canolbwyntio ar ecoleg ddaearol a monitro a lliniaru mamaliaid morol. Mae Dave wedi cydlynu arolygon Gwyddor Dinasyddion ar gyfer grŵp Morfilod a Dolffiniaid Iwerddon ers 2001. Cyn ei rôl bresennol gyda’r Ganolfan Ddata Bioamrywiaeth Genedlaethol, roedd yn gweithio fel Swyddog Moroedd Byw ar ran Ulster Wildlife.

Dr Crona Hodges

Rheolwr Gweithredol ECHOES, Geo Smart Decisions

Mae Crona yn rheoli ei thîm yng nghwmni ymgynghori geo-ofodol Geo Smart Decisions, o’i swyddfa yn ei chartref yng Ngwynedd, ac mae’n Gydlynydd ar Brosiect ECHOES. Mae ganddi ddoethuriaeth PhD mewn defnyddio delweddau synhwyro o bell ar gyfer mapio a monitro llystyfiant lled-naturiol y gwlypdir, ac fe gwblhaodd ei gwaith ymchwil ar safle RSPB Insh Marshes yn yr Alban. Mae gan Crona radd Dosbarth Cyntaf mewn gwyddor Amgylcheddol o Brifysgol Stirling ac, ar ôl pedair blynedd yn gweithio i gwmni ymgynghori amgylcheddol mawr yng Nghaeredin, sefydlodd ei busnes yn 2011 ac mae wedi bod yn gweithio ar ystod eang o brosiectau yn y DU a thramor byth ers hynny. Mae sgiliau a phrofiad proffesiynol Crona yn ymwneud â’r defnydd o ddadansoddiad data gofodol, arsylwi’r Ddaear gan ddefnyddio technoleg Lloeren, a data maes yn y fan a’r lle er mwyn llywio'r broses o reoli a monitro'r amgylchedd naturiol; mae gwahanol agweddau ar y prosiect ECHOES felly o ddiddordeb mawr i Crona ac mae hi wrth ei bodd yn cael y cyfle i roi ei phrofiad a’i sgiliau rheoli prosiect ar waith i lywio prosiect ECHOES tuag at lwyddiant. in situ Mae sgiliau a phrofiad proffesiynol Crona yn ymwneud â’r defnydd o ddadansoddi data gofodol, Arsylwi’r Ddaear gan ddefnyddio lloeren, a data maes er mwyn darparu sylfaen ar gyfer rheoli a monitro’r amgylchedd naturiol. Felly, mae gwahanol agweddau ar y prosiect ECHOES o ddiddordeb mawr i Crona ac mae'n mwynhau'n cyfle i roi ei phrofiad a’i sgiliau rheoli prosiect ar waith i lywio prosiect ECHOES tuag at lwyddiant.