This event has now passed.
The recording can be viewed below.
21 Ebrill 2021
13:00-14:30
Mae astudiaeth o Ylfinirod Ewrasia sy’n gaeafu ar hyd arfordir Môr Iwerddon yn rhan hanfodol o brosiect ECHOES. Yn y weminar hon, bydd ein hymchwilwyr yn rhannu gwybodaeth am ein gwaith ymchwil a’r hyn yr ydym wedi’i ddarganfod hyd yn hyn.
Ceir sesiwn holi ac ateb byw, cerddoriaeth wych, a byddwn yn cyhoeddi enillwyr ein cystadleuaeth Tynnu Llun Gylfinir.
Siaradwyr
Mick Green
Gylfinirod yn Aber yr Afon Dyfi - yr hyn yr ydym ni’n ei wybod a’r hyn sydd angen i ni ei ddarganfod
Mae Mick wedi bod yn ymwneud ag arolygon ac astudiaethau ar ylfinirod ers dros 25 mlynedd, yng Nghymru a ledled y byd. Ar ran prosiect ECHOES, mae Mick yn helpu i gydlynu ein harolygon a’n hastudiaethau modrwyo ar yr Afon Dyfi a’r cynefinoedd cyfagos.
Rachel Taylor
Data Tagio o Ddyffryn Cefni - a all gylfinirod addasu i’r newidiadau hinsoddol?
Mae Rachel yn cydlynu’r gweithgareddau tracio adar ar ran prosiect ECHOES yng Nghymru ac Iwerddon. Mae’n treulio gweddill ei hamser yn arwain ar ddatblygiad proffil gwyddonol Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) yng Nghymru - gan ddatblygu prosiect rhanbarthol addas a rheoli prosiectau lleol yn y Dywysogaeth.
Katharine Bowgen
Uno’r dotiau: Mae tagiau’n adrodd hanes crwydro dros y gaeaf
Mae Katharine yn ecolegydd ymddygiadol ac yn fodelydd sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain. Ar ran prosiect ECHOES, mae Katharine yn dadansoddi data olrhain o brosiectau tagio a gwaith modelu poblogaethau. Fel un sydd â thrwydded i fodrwyo adar, bydd hi hefyd yn cynorthwyo gyda’r gwaith tagio yn y maes a rheoli’r data a sy’n cael ei lawr lwytho o’r tagiau a ddefnyddiwyd.
Walther Camaro
Cynefinoedd gylfinirod: Golygfa o’r gofod
Mae Walther yn Ymchwilydd ôl-ddoethurol wedi’i leoli yng Ngholeg Prifysgol Cork, ac mae’n rhan o’r tîm sy’n mapio cynefinoedd a gorchudd tir o fewn prosiect ECHOES. Gan ddefnyddio technoleg Arsylwi’r Ddaear, bydd Walther yn creu set o fapio cynefinoedd a gorchudd tir ar gyfer ardaloedd allweddol yn Iwerddon a Chymru.
Sesiwn Holi ac Ateb byw
Bydd Rachel Taylor, Katharine Bowgen a Walther Camaro yn ateb eich cwestiynau’n fyw.
Tynnu llun Gylfinir - cyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth
Cyn Diwrnod Gylfinir y Byd, lansiodd ECHOES gystadleuaeth tynnu llun ar gyfer plant ar hyd arfordir Môr Iwerddon. Bydd pedwar enillydd yn cael eu cyhoeddi.
Méabh Ní Bheaglaoich:
Glaoch an Chúirliúin (The Curlew’s Call)
Mae Meabh yn gerddor sydd wedi’i lleoli yng Ngorllewin Iwerddon. Mae’n rhain o grŵp Barddair an Cheoil - grŵp bach o feirdd a cherddorion sy’n ymroddedig i gydweithio, ysgrifennu a pherfformio yn eu mamiaith - Gwyddeleg a Chymraeg.Fel themâu, maen nhw wedi dewis y môr ac aberoedd, y newidiadau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd, a’r creaduriaid sydd dan fygythiad o ganlyniad i’r newidiadau. Mae Meabh wedi bod yn ddigon caredig i chwarae un o’i chaneuon i ni. Os ydych chi’n hoffi’r hyn yr ydych chi’n ei glywed, gallwch ymuno â gig Barddair ân Cheoil yn ddiweddarach ar Ddiwrnod Gylfinir y Byd. Am ragor o fanylion, ewch i: amam.cymru/cultur
Gwybodaeth allweddol
Hyd: 1.5 awr gan gynnwys sesiwn holi ac ateb
Bydd camerâu a meicroffonau mynychwyr wedi’u diffodd yn awtomatig - dim ond gwylio’r weminar y bydd modd i chi ei wneud.
Bydd cwestiynau’n cael eu cyflwyno’n ysgrifenedig.
Bydd y weminar yn cael ei recordio.
Sut mae’n gweithio
Mae’r weminar yn cael ei chynnal ar Zoom ac mae’n rhaid archebu lle.
Mae angen cyfeiriad e-bost dilys er mwyn archebu gan y bydd y ddolen i gysylltu â’r weminar yn cael ei hanfon at y cyfeiriad hwnnw.Un archeb yn unig a ganiateir fesul cyfeiriad e-bost.
Byddwch fel arfer yn derbyn hysbysiad gennym 1 diwrnod ac 1 awr cyn i’r digwyddiad gymryd lle.
Bydd yr hysbysiad hwn yn cynnwys dolen Zoom i’r weminar. Cliciwch ar y ddolen ychydig cyn i’r weminar ddechrau.
Peidiwch â rhannu eich dolen e-bost gyda defnyddwyr eraill. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar y weminar a bydd pob dolen yn rhoi mynediad i un defnyddiwr yn unig.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu.
E-bost: info@echoesproj.eu