Canllawiau gweminar ar gyfer mynychwyr

A fyddwch chi'n ymuno â gweminar ECHOES yn y dyfodol agos? Gwych, rydym ni'n edrych ymlaen at eich croesawu!

A fyddwch chi'n ymuno â gweminar ECHOES yn y dyfodol agos? Gwych, rydym ni'n edrych ymlaen at eich croesawu!

Mae yna ychydig o bethau defnyddiol y dylech wybod ymlaen llaw ynglŷn â gweminarau. Cymerwch olwg ar yr adran Holi ac Ateb isod, fel eich bod chi'n gwybod beth i'w ddisgwyl.

HOLI AC ATEB

Pa blatfform fyddwn ni’n ei ddefnyddio?

Zoom - adnodd gweminar ychwanegol.

Sut ydych chi'n ymuno â'r weminar?

Ar ôl i chi gofrestru i ymuno â'r weminar, anfonwyd e-bost atoch gyda dolen a chyfrinair. I ymuno â'r weminar, cliciwch ar y ddolen a rhowch eich cyfrinair. Sylwch fod y ddolen hon yn bersonol i chi ac ni ddylid ei rhannu gydag unrhyw un arall.

Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n rhoi'r cyfrinair?

Byddwch yn cael eich rhoi mewn 'ystafell aros' nes bydd y sawl sy’n cynnal y weminar yn agor yr ystafell ac yn eich gadael i mewn. Anelwch at ymuno â'r ystafell aros ddeng munud cyn y bydd y weminar yn dechrau.

A all y mynychwyr weld neu glywed ei gilydd?

Na. Mae hwn yn blatfform ar gyfer gwylio'n unig, ac ni all y bobl sy’n bresennol weld na chlywed ei gilydd, ac ni all y sawl sy’n cynnal y weminar weld y mynychwyr chwaith. Pan fyddwch yn mynd i mewn i'r weminar, cewch eich tawelu yn awtomatig.

A oes modd i mi ofyn cwestiynau i’r cyflwynwyr?

Rydym ni’n annog mynychwyr i ofyn cwestiynau gan ddefnyddio’r adnodd holi ac ateb. Ni fydd y cwestiynau’n ddienw; bydd modd i bob mynychwr weld pob cwestiwn, a bydd modd i chi bleidleisio i wthio cwestiwn yn uwch tuag at frig y rhestr.

A allaf siarad gyda’r mynychwyr eraill?

Ni fyddwch yn gallu anfon negeseuon preifat 1:1 ond byddwch yn gallu rhoi sylwadau yma a bydd y cyflwynydd ac aelodau’r panel yn gallu eu gweld.

Beth am breifatrwydd? A fydd fy llun / enw yn ymddangos yn unrhyw le wedyn?

Ni ellir gweld fideos mynychwyr yn ystod y weminar er y bydd enwau yn ymddangos ar y 'rhestr presenoldeb'. Os byddwch yn gofyn cwestiwn, bydd eich enw yn cael ei restru wrth ymyl y cwestiwn gan na fydd modd gofyn cwestiynau’n ddienw.

A fydd y digwyddiad yn cael ei recordio?

Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio a'i bostio ar y we ar ôl gorffen. Bydd manylion yn cael eu darparu ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

A fydd y cynnwys yn cael ei gyfieithu i'r Gymraeg?

Mae’r prosiect ECHOES yn gobeithio trawsgrifio'r digwyddiad wedi hynny a chael hwn wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg. Bydd y trawsgrifiad ar gael ar ein gwefan a bydd dolenni'n cael eu hyrwyddo trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Os bydd y dechnoleg yn caniatáu, rydym hefyd yn gobeithio ychwanegu is-deitlau at ein recordiad o'r digwyddiad. Fel yr uchod, bydd hyn yn cael ei hyrwyddo ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Cysylltwch â ni ar info@echoesproj.eu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.