Cystadleuaeth Tynnu Llun y Gylfinir 2021
- CYFLWYNIAD
1.1. Mae’r telerau ac amodau hyn yn cyflwyno’r rheolau sy’n llywodraethu Cystadleuaeth Tynnu Llun y Gylfinir ECHOES.
1.2. Gallwch gysylltu â ni yn info@echoesproj.eu
- CYMRYD RHAN YN Y GYSTADLEUAETH
2.1. Mae’r gystadleuaeth arlunio yn agored i blant (Ymgeiswyr) rhwng 6 ac 11 oed sy’n byw ar hyd arfordir Môr Iwerddon. Gweler yr ardaloedd mewn gwyn ar y map isod.
2.2. I gymryd rhan yn y Gystadleuaeth, dylai rhieni neu warcheidwaid yr Ymgeiswyr sicrhau y caiff llun yr Ymgeisydd ei gyflwyno erbyn 9pm 18 Ebrill 2021.
2.3. Gall Ymgeiswyr gymryd rhan yn y Gystadleuaeth drwy e-bostio sgan neu ffotograff o ansawdd uchel o’r gwaith arlunio at info@echoesproj.eu gyda’r llinell pwnc CYSTADLEUAETH TYNNU LLUN GYLFINIR
2.4. Wrth gyflwyno’r cais i’r gystadleuaeth, rhaid i rieni neu warcheidwaid Ymgeiswyr roi enw cyntaf ac oedran yr Ymgeisydd. Mae angen enw llawn y rhiant neu’r gwarcheidwad a manylion cyswllt (e-bost a chyfeiriad cartref) y sawl sy’n anfon y llun ar ran yr Ymgeisydd.
2.5. Dim ond un cais y caiff pob ymgeisydd ei gyflwyno i’r Gystadleuaeth.
2.6. Nid yw gweithwyr ECHOES a’u teuluoedd yn gymwys i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth.
- DEWIS Y CEISIADAU BUDDUGOL
3.1. Tîm ECHOES fydd yn dewis yr enillwyr. Bydd dau gategori oedran yng Nghymru ac yn Iwerddon: 6–8 a 9–11 oed. Bydd pedwar enillydd i gyd.
3.2. Y ceisiadau buddugol fydd y rhai o’r rhestr hir y mae tîm ECHOES yn ystyried yw’r rhai gorau i’w gweithredu, gan ystyried oedran. Bydd y panel dethol yn chwilio am y delweddau sy’n cynrychioli’r Gylfinir orau.
3.3. Cyhoeddir y pedwar enillydd yn ystod Digwyddiad Diwrnod Gylfinir y Byd ECHOES ar 21 Ebrill. Byddwn hefyd yn cysylltu â’u rhieni neu warcheidwaid 19–20 Ebrill.
- EIN DEFNYDD NI O’CH CAIS
Bydd y ceisiadau buddugol yn cael eu cyhoeddi ar Twitter (@ECHOESproj), Facebook a gwefan ECHOES (echoesproj.eu/cy) ar Ddiwrnod Gylfinir y Byd 21 Ebrill.
4.2. Yr Ymgeiswyr sy’n berchen ar yr hawlfraint i’w cais i’r Gystadleuaeth fel ei awdur.
- CYDSYNIAD
5.1. Pan fydd rhieni neu warcheidwaid Ymgeiswyr yn cyflwyno cais i’r Gystadleuaeth, maen nhw a’r Ymgeisydd yn rhoi i ECHOES: 1) Drwydded drosglwyddadwy fyd-eang ddi-dâl, ddiwrthdro, anghyfyngol, i ddefnyddio, atgynhyrchu, cyhoeddi, dosbarthu ac arddangos y cais (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol neu mewn unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo y byddwn efallai yn eu cynhyrchu o bryd i’w gilydd; a 2) Yr hawl i ddefnyddio enw cyntaf ac oedran yr Ymgeisydd at y diben penodol o adnabod yr Ymgeisydd fel awdur y cais.
5.2. Cawn ddefnyddio, atgynhyrchu, cyhoeddi, dosbarthu neu arddangos unrhyw gais, naill ai’r cais buddugol neu unrhyw gais arall.
- GWOBRAU
6.1. Bydd yr ymgeisydd buddugol yn cael 20 o gardiau cyfarch ac amlenni gyda’u dyluniad ar y blaen.
6.2. Bydd rhieni neu warcheidwaid yr enillwyr yn cael eu hysbysu drwy e-bost ar 21 Ebrill.
6.3. Caiff pob ymdrech resymol ei gwneud i anfon y gwobrau at yr enillwyr drwy’r post erbyn diwedd Mai 2021.
6.4. Ni fydd yr ymgeisydd buddugol yn ysgwyddo unrhyw gostau ychwanegol wrth hawlio gwobr.
6.5. Ni ellir ad-dalu’r prisiau ac ni ellir eu cyfnewid am wobr arall, cynnyrch gwahanol nac arian parod.
- EICH DATA PERSONOL
7.1. Mae eich preifatrwydd a’ch gwybodaeth bersonol yn bwysig i ni. Ymdrinnir ag unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni yn unol â’n Polisi Preifatrwydd, sy’n esbonio pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu gennych, sut a pham rydym yn casglu, storio, defnyddio a rhannu gwybodaeth o’r fath, eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol a sut i gysylltu â ni ac awdurdodau goruchwylio os oes gennych ymholiad neu gŵyn am y defnydd o’ch gwybodaeth bersonol. Mae ein Polisi Preifatrwydd i’w weld yma: echoesproj.eu/privacy-policy
- CYFFREDINOL
8.1. Bydd penderfyniad ECHOES mewn perthynas â’r holl faterion sy’n ymwneud â’r Gystadleuaeth yn derfynol ac ni fyddwn yn cymryd rhan mewn unrhyw ohebiaeth.
8.2. Nid yw’r Gystadleuaeth hon yn cael ei noddi, ei chymeradwyo na’i gweinyddu mewn unrhyw ffordd, ac nid yw’n gysylltiedig â Twitter neu Facebook nac unrhyw rwydwaith Cyfryngau Cymdeithasol arall.
8.3. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch gwybodaeth gyswllt.
8.4. Mae ECHOES yn cadw’r hawl i addasu, canslo, terfynu neu atal y Gystadleuaeth, a’r telerau ac amodau hyn, yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar unrhyw adeg yn ôl ein disgresiwn llwyr.
8.5. Nid yw amser yn hanfodol mewn perthynas â chyflawni unrhyw rwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn. Byddwn yn ymdrechu’n rhesymol i fodloni’r holl amserlenni perfformiad a bennir yn y telerau ac amodau hyn, ond brasamcan yn unig yw unrhyw ddyddiadau o’r fath.