Luke Lambert
Cynorthwydd Ymchwil, University College Cork
Pan ddaeth Fiona Cawkwell, aelod o dîm ECHOES, ataf i drafod y prosiect, roedd yn gyfle na allwn ei wrthod. Nid yn unig y byddwn yn gweithio ar brosiect a oedd yn cynnwys fy angerdd am gadwraeth adar, ond byddwn hefyd yn gweithio ar brosiect yn fy sir enedigol o Wexford.
Ymunais â phrosiect ECHOES yn wythnos olaf mis Hydref, ac nid oedd yn hir cyn i mi fod yn brysur yng nghanol gwaith maes.Fy swydd gyntaf oedd cynorthwyo i ddal a thagio gylfinirod yn Ballyteige Burrow, gwarchodfa natur ar arfordir de Wexford.
Yn wythnos gyntaf mis Tachwedd, cyrhaeddodd tîm o'r BTO, gan gynnwys aelodau tîm ECHOES Rachel Taylor a Callum McGregor, i Wexford gyda'r nod o ddal a thagio deg aderyn.
Trwy fonitro'r tagiau GPS, gallwn ddarganfod pa gynefinoedd mae’r adar yn ffafrio, a deall eu cyflenwad bwyd mewn cynefinoedd fel gwastadeddau llaid, morfa heli a phorfeydd.
Mae dilyn yr adar hefyd yn ein helpu i ddeall pa mor ddetholus a symudol ywr adar, yn enwedig lle maent yn defnyddio cynefinoedd anghyson a lle mae pwysau allanol fel aflonyddwch a chylchoedd llanw yn effeithio ar eu hymddygiad.
Nid oes prinder gylfinirod yn Ballyteige dros y gaeaf, gyda channoedd yn treulio'u hamser rhwng yr aber a'r caeau cyfagos. Er hyn, maent yn anodd eu dal, gan eu bod yn wyliadwrus iawn o fodau dynol a'u hamgylchedd yn gyffredinol. Roedd hyn yn golygu rhaid bod yn amyneddgar ac arsylwi'r ardal yn ofalus em mwyn ddarganfod y safleoedd gorau i ddal y gylfinirod.
Roedd fy nhrefn ddyddiol yn golygu deffro am 5 o’r gloch y bore cyn beicio 25 km o gartref ar ffyrdd gwledig Wexford; profiad na anghofiaf yn fuan! Ar ôl rhai diwrnodau aflwyddiannus, fe wellodd y tywydd, a llwyddon ni i ddal naw aderyn gwryw mewn un bore ac un aderyn fenywaidd y bore canlynol. Roedd y tîm o'r BTO yn brysur yn pwyso, mesur a gosod modrwyau gyda chod unigryw ar goesau’r adar er mwyn cofnodi pob unigolyn. Yna fe wnaethant osod tagiau lloeren ysgafn (sydd yn hollol ddiogel a diniwed) ar gefnau'r adar.
Ar ôl rhyddhau'r adar a dagiwyd, y cam nesaf oedd sefydlu tair gorsaf GPS mewn lleoliadau addas. Mae'r gorsafoedd hyn yn cyfathrebu â'r tagiau lloeren ac yn dilyn symudiadau'r adar pan fyddant o fewn radiws o un cilomedr. Fy swydd i yw ymweld â'r gorsafoedd GPS a chasglu'r data ddwywaith yr wythnos cyn ei anfon i'w brosesu gan Katharine Bowgen, dadansoddwr ymchwil BTO ac aelod o dîm ECHOES.
Mae'r canlyniadau cyntaf yn dangos bod y gylfinirod yn ffafrio cynefinoedd ger yr aber a'r caeau cyfagos yn ystod y dydd a’r nos. Ond mae gwybodaeth mwy diweddar yn dangos bod rhai adar wedi dechrau symud ymhellach i’r mewndiroedd i ymweld â chaeau penodol o amgylch pentref Rathangan.
Byddaf yn parhau i gasglu data o bob gorsaf GPS dros y gaeaf. Mae Ballyteige Burrow yn ardal hyfryd i weithio ynddi, gyda tirwedd hynod ddiddorol o systemau twyni tywod, gwastadeddau llaid a chorsydd halen. Mae'r cyffiniau hefyd yn un o'r ardaloedd mwyaf heulog ledled Iwerddon.
Mae yna rhywbeth doddorol i'w weld bob tro y byddaf yn casglu data, gan gynnwys adar fel y Cudyll Bach, Tylluan Glustiog a Hwyaden Ddanheddog. Byddwn yn parhau i gasglu data ddiddorol o symudiadau dyddiol y Gylfinir a fydd o ddefnydd mawr i wyddonwyr a rheolwyr tir er mwyn amddiffyn cynefinoedd pwysig a sicrhau poblogaethau adar iach a hyfyw.