Mae prosiect ECHOES yn fenter drawsffiniol wirioneddol, gyda chyfraniadau penodol sy’n ategu ei gilydd gan y gwahanol bartneriaid.
Iwerddon

Rhagamcanion ar gyfer newid yn yr hinsawdd, adnoddau cefnogi penderfyniadau a llwyfannau gwybodaeth ar-lein, mapio cynefinoedd, modelu arwynebedd tir rhanbarthol, dadansoddi data cerbydau awyr di-griw a GIS.

Rheoli data, dysgu peirianyddol, Arsyllu’r Ddaear, mapio cynefinoedd, gwyddor dinasyddion ac adnoddau ar-lein a datblygu llwyfan.
Cymru

Gweinyddu prosiectau a ariennir gan yr UE, modelu dosbarthiad rhywogaethau, ecoleg morfeydd heli a fflatiau llaid, arolygon adar, mapio cynefinoedd, modelu arwynebedd tir rhanbarthol, arolygon cerbydau awyr di-griw, Arsyllu’r Ddaear. Y nhw hefyd yw'r partner arweiniol.

Rheoli a chydlynu'r prosiect, mapio cynefinoedd gan ddefnyddio Arsylwaeth Ddaear, adnoddau ar-lein a datblygu llwyfan, gwyddor dinasyddion, dadansoddi data cerbydau awyr di-griw, GIS, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cynllunio cadwraeth, allgymorth a chyfathrebu.