Callum Macgregor
Ecolegydd Ymchwil, Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain (BTO)
Ar ddiwedd mis Ionawr 2021, gosododd tîm prosiect ECHOES goleri tracio GPS ar dair o Wyddau Talcen-wen yr Ynys Las.
Bob gaeaf, mae niferoedd bach iawn o'r isrywogaeth prin yma sy'n mynd yn brinnach yn dewis treulio’r misoedd oeraf yng Nghymru (gyda niferoedd mwy yn Iwerddon sydd hefyd yn ganolbwynt prosiect ECHOES). Mae'r fflyd fwyaf adnabyddus, ar Aber Afon Dyfi, lle mae tua 12 o adar bellach: tra adroddir bod ail grŵp (ni wyddom faint y fflyd) i’w weld bryd i'w gilydd ar Ynys Môn.
Mae'r rhywogaeth yma’n arbennig o gyfrinachol ac yn sensitif iawn i unrhyw darfu gan bobl, felly i ddysgu mwy am eu hymddygiad, aethom ati i ddefnyddio system tagio lloeren. Trwy osod coler ysgafn o amgylch gwddf yr ŵydd, mae modd i ni wybod eu lleoliad ar y Ddaear bob 15 munud i'r 20m agosaf fwy neu lai (mae technoleg debyg hefyd yn cael ei defnyddio i dracio’r Gylfinir fel rhan o brosiect ECHOES, ond bod y tagiau’n cael eu gosod ar gefn yr adar hynny).
Trwy broses chwilio ddwys daethpwyd o hyd i fflyd o 18 o adar ar Ynys Môn ym mis Rhagfyr 2020, a llwyddodd y tîm maes, dan arweiniad yr Uwch Ecolegydd Ymchwil Dr Rachel Taylor, i ddal wyth o'r adar a gosod tagiau tracio lloeren ar dri ohonynt yn ystod mis Ionawr.
Mae'n ddyddiau cynnar o ran y gwaith ar Wyddau Talcen-wen yr Ynys Las ym mhrosiect ECHOES. Casglwyd gwerth dau fis o ddata cyn i'r gwyddau adael i fynd i’r Ynys Las i diroedd bridio dros yr haf a bellach mae’r data wrthi'n cael ei ddadansoddi. Mae pawb yn croesi eu bysedd, pan fydd y fflyd yn dychwelyd yn ddiweddarach yr hydref yma, y bydd yr adar gafodd eu tagio yn dal i fod yn eu plith. Os ydyn nhw, byddwn yn gallu lawrlwytho a dadansoddi llawer iawn o ddata ychwanegol sy'n dangos eu taith o Ynys Môn i'r Ynys Las ac yn ôl, yn ogystal â gwybodaeth hanfodol am sut y maen nhw’n treulio'r diwrnodau cyntaf tyngedfennol ar ôl cyrraedd yn ôl i Ynys Môn. Yn ogystal â’r data yma rydym yn bwriadu cael data am adar sy'n gaeafu yn Iwerddon, i weld a yw'r un ffactorau'n effeithio ar unrhyw fflyd sy'n byw y naill ochr i Fôr Iwerddon.
Serch hynny, mae'r tri aderyn rhyfeddol yma eisoes yn rhoi cipolwg newydd ar sut y gallai Ynys Môn edrych drwy lygaid gŵydd. Treuliodd y tri aderyn y rhan fwyaf o’r amser yn agos at ei gilydd, er eu bod nhw ar wahân ond yn achlysurol. Mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn yr oeddem eisoes yn ei wybod am y fflyd, sydd i raddau helaeth yn cadw at ei gilydd ond weithiau'n rhannu o leiaf yn ddau grŵp teuluol gwahanol. Mae ein data felly'n awgrymu ein bod wedi tagio adar yn y ddau grŵp (gyda lwc, efallai y gallwn gadarnhau hyn unwaith y bydd yr adar yn dychwelyd o’u taith).
Treuliodd y grŵp y rhan fwyaf o'u hamser rhwng dwy ardal yng nghanol Ynys Môn, ac un o’r llefydd yma oedd gwarchodfa Cors Ddyga yr RSPB. Wrth i ni ffarwelio â mis Chwefror a chroesawu mis Mawrth, daethant yn fwy sefydlog gan dreulio eu hamser ar ardal lai yn un o'r safleoedd hynny. Gwyddom fod yr adar yma weithiau i’w gweld ar safleoedd eraill yn Ynys Môn, ond arhosodd yr adar dan sylw ar y ddau safle yma’n unig yn ystod y ddau fis ar ôl iddynt gael eu tagio y gwanwyn yma. Mae'n bosibl eu bod yn symud i wahanol safleoedd ar wahanol adegau yn ystod y gaeaf er mwyn manteisio ar y tir bwydo gorau, felly dyma gwestiwn arall y gellid ei ddatrys unwaith y bydd yr adar yn dychwelyd y gaeaf yma ac yn rhoi mwy o ddata i ni!
Mae paru gosodiadau GPS â data cynefinoedd yn datgelu patrwm clir o’r dydd a’r nos gan ddangos lle mae'r gwyddau'n dewis treulio eu hamser. Treulir yr holl ddiwrnod fwy neu lai ar dir pori - ar borfa o'r radd flaenaf lle gall y gwyddau fwydo faint a fynnont. Ar ôl iddi dywyllu, roedd y gwyddau’n dychwelyd bob nos i un o ddau gorff dŵr mawr, gan nythu ar ddŵr dwfn (yn ôl pob tebyg i leihau’r risg gan ysglyfaethwyr). Bydd dadansoddiad pellach yn ein helpu i ddeall yn fanylach pam eu bod nhw’n dewis gwneud hyn – yma mha gaeau maen nhw’n hoffi bwydo orau, a beth yw nodweddion y caeau yma? Pam maen nhw bob amser yn clwydo ar y ddau gorff dŵr yma, yn hytrach nag unrhyw ddyfroedd llonydd eraill yn yr ardal? At hyn, rydym yn gobeithio deall pa ffactorau sy'n dylanwadu ar ddewis yr adar i dreulio amser ym mhob safle, ac yn enwedig pa ffactorau sy'n peri iddynt ddefnyddio eu hegni gwerthfawr i newid o un safle i'r llall - rhywbeth oedd yn digwydd bron bob dydd yn ystod un wythnos benodol ddiwedd mis Chwefror.
Ymhlith y posibiliadau, byddwn yn ymchwilio i newidynnau sy'n ymwneud ag amodau hinsoddol - ffocws allweddol ar gyfer prosiect ECHOES, sy'n ceisio deall sut y bydd newid parhaus yn yr hinsawdd yn effeithio ar Wyddau Talcen-lawen yr Ynys Las a’r Gylfinir o amgylch Môr Iwerddon. Mae'r amgylchiadau eithriadol o gynnal y gwaith yma yn ystod y pandemig hefyd wedi cynnig cyfle cwbl unigryw i ni gysylltu newidiadau mewn ymddygiad gwyddau â dyddiadau allweddol - fel 13 Mawrth, pan newidiodd cyfyngiadau yng Nghymru o "aros gartref" i "aros yn lleol". Credir yn gyffredinol bod y gwyddau yma’n osgoi pobl gymaint ag y gallant, felly a wnaeth y cynnydd mewn gweithgarwch hamdden tua'r dyddiad yma - yn enwedig yng Nghors Ddyga yr RSPB - ddylanwadu ar eu hymddygiad? Gwyliwch y gofod yma, i gael atebion i hyn a mwy!
Mae'r map isod yn dangos sut y rhannodd ein fflyd o Wyddau Talcen-wen yr Ynys Las eu hamser rhwng dau leoliad yn Ynys Môn. Treuliodd y tri aderyn tua 95% o'u hamser o fewn yr ardaloedd yn y ddau gylch glas, a 50% o'u hamser o fewn y cylchoedd melyn llai.