Mae ein Tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid wedi bod yn cynnal digwyddiadau ar gyfer ysgolion, grwpiau pobl ifanc a grwpiau cymunedol eraill.
Isod rydym yn rhestru rhai o'n digwyddiadau cyhoeddus, gan gynnwys ein digwyddiad ar-lein terfynol. Gobeithiwn eich gweld yno.
Prosiect ECHOES: Canlyniadau a Myfyrfodau - Digwyddian Ar-lein
Ymunwch â Prosiect ECHOES ar gyfer y digwyddiad terfynol i glywed am weithgareddau ymchwil, canlyniadau a myfyrdodau’r tîm.
8ed Mehefin 2023, 10.30yb - 12.30yh
Cynhadledd Clo Prosiect ECHOES
Mae ECHOES yn brosiect 3.5 mlynedd sy’n ceisio deall effaith newid hinsawdd ar gynefinoedd adar o amgylch Môr Iwerddon. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddwy rywogaeth o wlyptir: y Gylfinir a Gŵydd Talcen-wen yr Ynys Las.
9ed Marth 2023
Ymunwch â ni yn bersonol ar gyfer Cynhadledd Clo Prosiect ECHOES yn Aberystwyth, Cymru. Byddwn yn cyflwyno canlyniadau ymchwil o Brosiect ECHOES, ac yn arddangos Platfform ECHOES.
Gweminar – Cyflwyniad i'r Llwyfan ECHOES: Offer ar gyfer Rheolwyr Tir a Gwneuthurwyr Polisi
Ydych chi'n rheolwr tir neu'n wneuthurwr polisi? Darganfyddwch sut y gall Llwyfan ECHOES eich helpu i ddelweddu newidiadau i'ch gwefan yng nghyd-destun newid hinsawdd, ac i gynllunio camau lliniaru.
30ain Tachwedd 2022
Ymunwch â Compass Informatics ar gyfer arddangosiad byw o Blatfform ECHOES.
Arddangosfa Prosiect yng Nghyngor Sir Wexford
Darganfyddwch y gwaith mae ECHOES yn ei wneud yn ardal Wexford ar Ddiwrnod Ewrop
9ed Mai 2022
I nodi Diwrnod Ewrop 2022, rydym yn ymuno â phrosiectau eraill a ariennir gan raglen Interreg. Dysgwch fwy am offer gwe a gynlluniwyd i gefnogi rheolwyr tir a llunwyr polisi, a chwrdd ag aelodau o'n tîm.
Taith dywys gyda ECHOES yn Blackrock Estuary, Cork
Ymunwch ag ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Corc am daith gerdded Gwanwyn yma
5ed Mawrth 2022
Mae prosiect ECHOES yn partneru â Rhwydwaith Natur Cork ar gyfer Taith Gerdded a Sgwrs o amgylch Blackrock Estuary. Ymunwch ag ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Corc am daith gerdded dywys, er mwyn gweld adar y môr a dysgu mwy am y Gylfinir, Gŵydd Talcen-wen yr Ynys Las ac effeithiau rhagamcanol newid hinsawdd ar adar yr arfordir.
Darlith yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Dyfi
Ymunwch â Dr Peter Dennis o Brifysgol Aberystwyth i ddarganfod mwy am yr ymchwil y mae ECHOES yn ei wneud yn Aber Afon Dyfi – un o brif safleoedd astudio’r prosiect.
17ed Tachwedd 2021
Mae prosiect ECHOES yn ymchwilio ymddygiad y Gylfinir a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las sydd yn gaeafu yn Aber Afon Dyfi. Dysgwch mwy am eu deiet, eu hoff gynefinoedd a'u symudiadau o amgylch y Dyfi yn y sgwrs hon yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Dyfi. Gellir prynu tocynnau ar y noson, a bydd lluniaeth ar gael.
Canu i'r adar
Noson o wyddoniaeth, jazz sipsiwn, cerddoriaeth werin a barddoniaeth
15 Medi 2021
Mae prosiect ECHOES a Celtic Neighbours wedi dod ynghyd i gynnal digwyddiad cymunedol ar gyfer y teulu cyfan. Ymunwch â bwydlen flasus a ddarperir gan Tŷ Cemaeswrth fwynhau cerddoriaeth werin, jazz sipsiwn a barddoniaeth newydd, yn Gymraeg ac yn Wyddeleg, wedi'i hadeiladu o amgylch themâu newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau sydd dan fygythiad. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddysgu mwy am fywyd adar yn Aber Dyfi.
Gweminar Diwrnod Gylfinir y Byd
21 Ebrill 2021
I ddathlu Diwrnod Gylfinir y Byd, byddwn ni’n cyflwyno ein gwaith ymchwil diweddaraf ar Ylfinirod - o’r ymddygiad yn y maes i fapio cynefinoedd o’r gofod!
Ceir sesiwn holi ac ateb byw, cerddoriaeth wych, a byddwn yn cyhoeddi enillwyr ein cystadleuaeth Tynnu Llun Gylfinir. Cystadleuaeth Tynnu Llun y Gylfinir!
Cystadleuaeth Tynnu Llun y Gylfinir
Dyddiad cau: 18 Ebrill 2021
Yn arwain at Ddiwrnod Gylfinir y Byd, rydyn ni’n lansio cystadleuaeth arlunio!
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Gylfinir, sydd ar y rhestr goch, ac sy’n un o’r adar rydyn ni’n eu hastudio ym mhrosiect ECHOES, hoffem herio plant ar hyd arfordir Môr Iwerddon i anfon llun o’r Gylfinir atom ni! Bydd yr enillwyr yn cael 20 o gardiau rhodd gyda’u llun o’r Gylfinir wedi’i argraffu arnynt.
Lansio ECHOES
23 Gorffennaf 2020
Cyfle i glywed am brosiect ECHOES a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd yn trafod ein hadnoddau naturiol gwerthfawr, effeithiau newid yn yr hinsawdd ar hyd Môr Iwerddon a chyfleoedd i gydweithio er mwyn rheoli’r heriau yr ydym yn eu hwynebu.

Cynhadledd Clo Prosiect ECHOES
9ed Marth 2023
You can now register for our Closure Event in Aberystwyth. Join us to learn all about our research, tools, resources & methodologies we have developed in the project.