Croeso i newyddlen prosiect ECHOES!

Yn y newyddlen hon: 

  • Diweddariadau ar Brosiect ECHOES
  • Canu i’r Adar – noson o gerddoriaeth, barddoniaeth a gwyddoniaeth
  • Taith gerdded a siarad yn Aber Blackrock, Corc
  • Tudalen Adnoddau Ar-lein
  • Llwyfan Gwe ECHOES: Offer ar gyfer rheolwyr tir
  • Pam rydyn ni’n defnyddio tagiau lloeren a sut ydyn ni’n gwneud hynny?
  • Diweddariadau Ymchwil
  • Cyfarfod Consortiwm
  • ECHOES yn y Wasg
  • ECHOES Dramor
  • Cwrdd â’r Tîm

Diweddariadau ar Brosiect ECHOES

Croeso eto i Gylchlythyr ECHOES, a diolch i chi am ddangos diddordeb yn ein prosiect. Nid yw tîm ECHOES wedi stopio er gwaethaf yr heriau yr ydym wedi gwynebu yn ystod y pandemig o ran anawsterau theithio, argaeledd adnoddau labordy a ffliw adar, i enwi rhai! Wrth i ni symud i mewn i Wanwyn 2022, mae’r cyfyngiadau wedi’u codi ac rydym wedi gallu mwynhau digwyddiadau gwyneb-i-wyneb, gan gynnwys dod at ein gilydd fel tîm ECHOES, gyda llawer ohonom yn cyfarfod yn bersonol am y tro cyntaf erioed.

Rydym wedi parhau i hyrwyddo gwaith y prosiect ar draws cyfryngau gwahanol, gan gynnwys ar sioe radio boblogaidd ‘Mooney Goes Wild’ yn Iwerddon ac mae ein gwyddonwyr wedi bod yn brysur yn dadansoddi’r data cyffroes a ddaw o’r tagiau GPS ar ein Gylfinir Ewrasiaidd a Gwyddau Talcenwen yr Ynys Las. Wrth i’r prosiect ddirwyn i ben dros y 12 mis nesaf, byddwn yn ceisio lledaenu ein canfyddiadau’n ehangach yn ogystal â chwblhau’r gwaith datblygu platfform, gan adael ar ôl offer a all helpu rheolwyr tir a defnyddwyr eraill i fordwyo effeithiau posibl yr newid yn yr hinsawdd ar hyd arfordir Môr Iwerddon.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r eitemau newyddion isod. Cofiwch gysylltu â ni i glywed mwy o fanylion neu i ddargandod sut y gallwch gymryd rhan o hyd!

Crona Hodges – Rheolwr Prosiect


Fideo am waith ECHOES gyda Gylfinir gaeafol. © ECHOES
Diolch i Scott Waby am ffilm aber Dyfi.

Canu i’r Adar – noson o gerddoriaeth, barddoniaeth a gwyddoniaeth

Nôl ym mis Medi 2021, cynhaliom ein digwyddiad cyntaf yn amgylchoedd hardd RSPB Ynys Hir, mewn cydweithrediad â Celtic Neighbours. Dechreuodd y noson gyda sgwrs gan ymchwilydd ECHOES, Peter Dennis o Brifysgol Aberystwyth (llun isod), o’r enw Rhagolygon Hinsawdd ac Arfordir ar gyfer Adar Dŵr a Phobl, yn canolbwyntio ar Aber Afon Dyfi. Dilynwyd hyn gan berfformiadau cerdd a barddoniaeth yn Ngaeleg a Chymraeg.


Taith gerdded a siarad yn Aber Blackrock, Cork

Ar brynhawn bendigedig ym mis Mawrth 2022, arweiniodd Luke Lambert, Fiona Cawkwell a Paul Holloway o dîm ECHOES yn UCC, grŵp o 27 o bobl am dro a sgwrs o amgylch aber Blackrock. Trefnwyd y digwyddiad gyda Rhwydwaith Natur Cork. Fe wnaeth y sgwrs ryngweithiol ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys effeithiau rhagamcanol newid yn yr hinsawdd ar leoliadau aberol fel Blackrock, adnabod adar lleol a llwybrau gyrfa mewn ymchwil gwyddonol.


Ar hyn o bryd rydym yn cynllunio digwyddiadau ar gyfer yr haf, gan gynnwys ger ein safle astudiaeth yn Nyffryn Cefni, Ynys Môn. Os hoffech i ni drefnu sgwrs ar gyfer eich ysgol neu grŵp cymunedol, cysylltwch â info@echoesproj.eu.


Tudalen Adnoddau Ar-lein

Ym mis Chwefror, fe wnaethom gyhoeddi tudalen Adnoddau ar wefan ECHOES. Mae hwn yn crynhoi fideos, adnoddau addysgu ac erthyglau am y Gylfinir, Gŵydd Talcenwen yr Ynys Las, bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd. Gallwch archwilio’r adnoddau isod.


Llwyfan Gwe ECHOES: Offer ar gyfer rheolwyr tir

Mae’r tîm yn Compass Informatics, un o’r partneriaid yn y prosiect ECHOES, ar hyn o bryd yn adeiladu llwyfan ar-lein sydd wedi’i gynllunio i gefnogi rheolwyr tir arfordirol a llunwyr polisïau. Mae fersiwn demo o’r platfform wedi’i gwblhau’n ddiweddar, ac mae rhanddeiliaid yn ei brofi ar hyn o bryd.

Rydym wedi bod yn ymgysylltu â defnyddwyr posibl y platfform yng Nghymru ac Iwerddon ers dechrau 2021, ac yn parhau i wneud hynny tan fis Gorffennaf 2022 er mwyn casglu gofynion ac adborth defnyddwyr.

Os hoffech chi ddysgu mwy am y platfform neu gymryd rhan yn y profion, cysylltwch â ni yn info@echoesproj.eu.


Pam rydyn ni’n defnyddio tagiau lloeren a sut ydyn ni’n gwneud hynny?

Trwy ddefnyddio tagiau lloeren ar yr adar, gallwn leihau aflonyddwch tra’n cadw llygad barcud ar ba gynefinoedd sydd orau gan yr adar a deall yn well eu cyflenwad bwyd o fewn cynefinoedd fel gwastadeddau llaid, morfa heli, a phorfeydd.

Mae olrhain adar hefyd yn ein helpu i ddeall pa mor ddetholus a symudol yw adar, yn enwedig lle maent yn defnyddio cynefinoedd anghyson a lle mae pwysau allanol fel aflonyddwch a chylchoedd llanw yn effeithio ar eu hymddygiad.

Darllenwch y blog llawn ar y ddolen yma:
Tagio a chasglu data olrhain y Gylfinir yn Iwerddon (Saesneg)
Blog gan Luke Lambert, Cynorthwydd Ymchwil, University College Cork


Os gwelwch Gylfinir gyda modrwy lliw, byddem yn gwerthfawrogi pe gallech wneud nodyn o’r liw a ble ar eu coesau mae’r fodrwy, ac anfonwch e-bost atom: info@echoesproj.eu


Diweddariadau Ymchwil

Dros y misoedd diwethaf, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio’n galed ar y fframwaith modelu a mapiau tebygolrwydd ar gyfer gweld y gylfinir, sydd bellach wedi’i ymestyn i gynnwys nifer y dyddiau o rew daear. Hyd yn hyn rydym wedi canfod bod rhew y ddaear yn effeithio’n sylweddol ar y tebygolrwydd o weld y gylfinir yn ystod misoedd y gaeaf, gyda llai o gylfinirod i’w gweld mewn ardaloedd sydd yn profi lefelau uwch o rew daear.

Parhaodd y gwaith o gasglu deunydd carthion GWfG ar safle Aber Dyfi drwy’r gaeaf, ynghyd â chasglu deunydd planhigion dietegol. Roedd hyn yn cynnwys rhywfaint o waith maes anodd yn ystod y nos gan ein hecolegwyr! Yna aethpwyd â’r samplau planhigion i’r labordy, lle cynhaliwyd metabarcod DNA a chyfrifwyd gwerth maethol pob math o ddosbarth gorchudd tir ar gyfer lleoliad gaeafu Gwyddau’r Ynys Las.

Gohiriwyd rhai agweddau ar y gwaith hwn oherwydd problemau cyflenwad byd-eang o’r offer labordy sydd eu hangen ar gyfer metabarcodio, gan fod rhywfaint o’r pecyn sydd ei angen hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu profion PCR ar gyfer Covid-19. Mae’r materion hyn bellach wedi’u datrys ac mae gwaith yn mynd rhagddo.

Yn y llun uchod: Syrfëwr Maes Botanegol Holly Sayer wrth ei gwaith yn casglu samplau

Cyfarfod Consortiwm

Ym mis Ebrill, llwyddodd llawer ohonom o’r diwedd i gwrdd yn bersonol ar gyfer cyfarfod Consortiwm ECHOES, gydag eraill yn ymuno ar-lein. Cynhaliwyd y cyfarfod yng Ngwesty’r Marine yn Aberystwyth ac yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Dyfi, ac roedd yn cynnwys ymweliad safle â RSPB Ynys Hir yn Aber Afon Dyfi – un o safleoedd astudio’r prosiect.


ECHOES yn y Wasg

Ym mis Mawrth, cafodd Fiona Cawkwell sylw ar y sioe radio boblogaidd Mooney Goes Wild ar RTE Radio 1. Roedd y cyfweliad eang yn ymdrin â dosbarthiad, ymddygiad a diet y Gylfinir, eu hoff gynefinoedd a sut mae newid yn ur hinsawdd yn debygol o effeithio ar eu cynefinoedd arfordirol.
Gwrandewch ar y sioe.

O amgylch Diwrnod y Gylfinir y Byd ym mis Ebrill, siaradodd aelod o dîm ECHOES, Rachel Taylor, â Country Focus ar BBC Radio Wales ynghylch Vincent the Curlew, gwaith ECHOES ar gaeafu’r Gylfinir, a’i gobeithion am oroesiad y rhywogaeth. Roedd Mick Green o ECHOES a Chymdeithas Adaryddol Cymru hefyd yn ran o’r sioe.


ECHOES Dramor

Mis yma, bydd Walther Camaro a Fiona Cawkwell o UCC yn cyflwyno poster ar ‘Ddull Arsylwi’r Ddaear ar gyfer monitro a mapio dosbarthiad gofodol cynefinoedd adar o amgylch Môr Iwerddon‘ yn Living Planet Symposium yr European Space Agency yn Bonn, yr Almaen. Mae’r papur yn seiliedig ar waith a wnaed fel rhan o ECHOES.

Yn yr hydref, rhoddodd Katharine Bowgen o BTO gyflwyniad o’r enw ‘Crwydrau Gaeafol Gylfinir Cymreig’ i’r International Wader Study Group a’r East Asian-Australasian Flyway Network. Roedd y cynulleidfaoedd yn cynnwys unigolion o Gorea, Awstralia a Tsieina, yn ogystal â rheini yn Ewrop.


Cyfarfod y Tîm! 

Mae aelodau prosiect ECHOES yn dod o ddwy genedl a phum partner, ac yn cynnwys unigolio o ystod eang o gefndiroedd proffesiynol. Gyda phob cylchlythyr, rydym yn eich cyflwyno i rai o aelodau ein tîm. Dewch i adnabod Rachel, Peter a Fiona isod.

Rachel Taylor, Uwch Ecolegydd, British Trust for Ornithology (BTO)

Mae Rachel yn cydlynu’r gweithgareddau tracio adar ar gyfer y prosiect ECHOES yng Nghymru ag Iwerddon. Mae hi’n treulio gweddill ei hamser yn arwain datblygiad proffil gwyddonol BTO yng Nghymru – gan ddatblygu prosiectau rhanbarthol priodol a rheoli prosiectau lleol.

Mae Rachel hefyd yn adar hirgoes, adar môr a modrwywr passerine gweithredol, ac yn artist gwydr lliw dawnus iawn.

Mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â defnyddio setiau data modrwyo hirdymor i fonitro goroesiad adar hirgoes, dangosyddion bioffisegol o amodau amgylcheddol adar, a’r defnydd o dechnoleg olrhain i astudio’r ffordd y mae adar yn defnyddio tirweddau gofodol gymhleth fel tir fferm yr ucheldir.

Peter Dennis, Darllenydd mewn Ecoleg Ecosystemau Pori, Prifysgol Aberystwyth (PA)

Mae Peter yn cydlynu’r modelu gwyddoniaeth ar ddosbarthiad rhywogaethau ac arolwg ecolegol maes o boblogaethau gaeafu Gwyddau Talcen-wyn yr Ynys Las a’r Gylfinir ar gyfer prosiect ECHOES.

Mae Peter wedi gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 2006. Mae bellach yn Ddarllenydd o fewn y Grŵp Ecoleg, IBERS, gydag arbenigeddau mewn ecoleg ecosystemau pori a monitro ac asesu bioamrywiaeth mewn amgylchedd newidiol.

Fiona Cawkwell

Fiona sy’n cydlynu’r gwaith ar ddelweddaeth lloeren ar gyfer y prosiect ECHOES. Bwriad y gwaith hwn yw creu mapiau cynefinoedd a gorchudd tir ar gyfer y safleoedd arolygu adar yng Nghymru a Iwerddon. Mae hyn yn ein helpu i ddeall sut mae’r gorchudd tir wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf a sut y gallai esblygu ymhellach o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae Fiona hefyd ar Fwrdd Rhaglen ECHOES, yn cynrychioli Coleg Prifysgol Cork, Iwerddon.

Yn sail i’w gwaith synhwyro o bell mae diddordeb a chais i ddeall mwy am sut mae’r rhanbarth a’r amgylchedd penodol hwnnw’n newid mewn ymateb i amrywiadau naturiol mewn systemau ffisegol, a newid sy’n deillio o weithgareddau dynol, yn enwedig mewn perthynas â newid hinsawdd anthropogenig, rheolaeth ddynol a pholisi. penderfyniadau. Dim ond trwy allu mapio, mesur a chofnodi’r newidiadau hyn y gallwn werthfawrogi a rhagweld sut y bydd yr amgylchedd a’r rhai sy’n byw ynddo (yn endidau dynol ac yn endidau byw eraill) yn parhau i esblygu o dan amodau gwahanol, thema sef yn greiddiol i brosiect ECHOES.


Mawr obeithiwn eich bod wedi mwynhau’r newyddlen hon gan brosiect ECHOES.  Cadwch mewn cysylltiad â ni ar Twitter a Facebook.  
 
A hoffech chi gydweithio gyda ni?  Anfonwch e-bost at 
info@echoesproj.eu a gallwn drafod syniadau.