PECYN GWAITH 2
Ein bwriadau
Rhanddeiliaid y prosiect yw’r rhai sy’n mwynhau, yn byw ac yn gweithio ger ein safleoedd astudio, a’r rhai sy’n rhan o gymunedau arfordirol i fyny ac i lawr arfordir Môr Iwerddon. Fe wnaeth y tîm ymgysylltu â rhanddeiliaid gysylltu â nifer o'r grwpiau hyn, sy’n cynnwys (ond ddim yn gyfyngedig i) plant a phobl ifanc, sefydliadau sy’n ymwneud â rheoli a chadwraeth adar a chynefinoedd mewn safleoedd arfordirol, tirfeddianwyr, a’r rhai sydd â diddordeb achlysurol mewn adar neu fioamrywiaeth yn eu hardaloedd lleol.
Un o nodau cyffredinol y prosiect oedd codi ymwybyddiaeth o effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd a’r heriau a’r cyfleoedd a rennir gennym. Mae tîm ECHOES wedi ymgysylltu â grwpiau trwy gynnal digwyddiadau megis sgyrsiau a gweithdai, er mwyn adeiladu darlun o'n cyd-ddealltwriaeth gyfredol, ac i hysbysu rhanddeiliaid am weithgareddau a chanfyddiadau'r prosiect.
Mae'r tîm wedi ymgysylltu â defnyddwyr potensial platfform ECHOES, yn enwedig rheolwyr tir arfordirol ac unigolion a sefydliadau sy'n llunio polisïau i ddiogelu'r ardaloedd hyn. Mae'r tîm wedi cydweithio gyda Compass Informatics i gasglu syniadau a gofynion y grwpiau defnyddwyr hyn, er mwyn bwydo i men i'r offer a gwybodaeth sydd nawr yn ran o lwyfan ECHOES.
Arweinydd: Geo Smart Decisions
Proses a Chanlyniadau
Isod mae rhai o’r mathau o fentrau a digwyddiadau a gynhaliwyd fel rhan o ECHOES, i godi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd ac ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill.
- Gweithdai rhyngweithiol gyda phobl ifanc yng Nghymru ac Iwerddon




- Sgyrsiau a theithiau cerdded tywysedig gan ymchwilwyr


- Wythnos Wyddoniaeth Cork
- Erthyglau a nodweddion yj y cyfryngau
- Gweithdai gofynion defnyddwyr a gweminar gyda rheolwyr tir a llunwyr polisi ynghylch Platfform ECHOES
- Cynhadledd Clo - 8 Mawrth 2023
Gweler isod am gyflwyniad o’r Gynhadledd Cło a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023.