Drwy gydol prosiect ECHOES, bydd y tîm yn estyn allan at y rhai sy'n mwynhau, yn byw ac yn gweithio ger safleoedd yr astudiaeth a'r rheini sy'n rhan o gymunedau arfordirol ar hyd arfordir Môr Iwerddon.
Un o nodau cyffredinol y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o effeithiau posibl newid hinsawdd a'r heriau a'r cyfleoedd yr ydym yn eu rhannu. Bydd tîm ECHOES yn ceisio ymgysylltu â grwpiau sy'n bodoli eisoes gan ddefnyddio technoleg, digwyddiadau a gweithdai o ysgolion i grwpiau gwirfoddol i greu darlun o'n cyd-ddealltwriaeth bresennol ac i roi gwybod i bawb sut y mae'r prosiect yn mynd a'r hyn yr ydym yn ei ganfod ar hyd y ffordd.
Yn y cyflwyniad isod, mae’r Rheolwr Gweithrediadau, Crona Hodges, yn cyflwyno prosiect ECHOES a’i randdeiliaid.
Os hoffech chi gydweithio gyda ni, e-bostiwch info@echoesproj.eu