Rhodri Kemp
Technegydd Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth
Un o brif agweddau’r Prosiect ECHOES yw pennu pa rywogaethau o blanhigion y mae Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las yn eu bwyta mewn amryw o safleoedd gaeafu.
Bydd gwerth maethol y planhigion bwyd hynny’n cael ei ddadansoddi ac mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar gyflwr y gwyddau pan fyddant yn cychwyn mudo tua’r gogledd yn ystod y gwanwyn.
Mae archwilio llenyddiaeth sy’n berthnasol i’r rhywogaeth hon o wyddau wedi ein galluogi i wneud rhestr o’r rhywogaethau o blanhigion y maen nhw wedi cael eu gweld yn bwyta mewn amryw o safleoedd yn y gorffennol. Rhoddodd hyn fan cychwyn arbennig o ran dynodi pa rywogaethau o blanhigion ddylem ni eu samplu, yn ogystal â pha rannau penodol o’r planhigion y mae Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las yn eu bwyta.
Cyn hir, bydd metagodio deunydd ysgarthol Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las yn ein galluogi i ddynodi pa rywogaethau o blanhigion maen nhw’n eu bwyta. Fodd bynnag, yn ystod y tymor samplu cyntaf hwn, gyda diffyg gwybodaeth o’r fath, penderfynwyd y dylem ni ymweld ag ardaloedd bwydo hysbys a chasglu samplau o blanhigion y mae’r gwyddau’n debygol o’u bwyta yn seiliedig ar y rhestr o rywogaethau planhigion bwyd hanesyddol. Casglwyd y samplau hyn yn ystod tri chyfnod gwahanol dros y gaeaf. Roedd hyn yn ein galluogi i weld a oedd unrhyw newidiadau yng ngwerthoedd maethol y planhigion hynny.
Roedd y sesiynau samplu cyntaf o gwmpas Aber Dyfi i fod i ddigwydd yn fuan ar ôl i’r haid o Wyddau Talcen Wen yr Ynys Las gyrraedd ar ddechrau’r hydref. O ganlyniad i’r pandemig Covid-19, bu’n rhaid i ni ohirio’r sesiynau tan fis Rhagfyr.
Digwyddodd yr ail gasgliad yng nghanol y gaeaf a bydd y drydydd casgliad yn digwydd yn fuan ar ôl i’r gwyddau adael er mwyn mudo tua’r gogledd. Roedd yn rhaid i ni sicrhau nad oeddem yn tarfu ar y gwyddau ar unrhyw achlysur pan oeddem yn ymweld â’r safleoedd i gasglu deunydd.
Hyd yn hyn, mae’r ddau gyfnod samplu wedi eu cwblhau’n llwyddiannus yng Nghymru gan dîm a oedd yn cynnwys Peter Dennis (Arweinydd y Prosiect), Danny Thorogood (Botanegwr) a Rhodri Kemp (Technegydd Ymchwil) gyda chyfarwyddyd gan Gareth Thomas (Adaregwr y Prosiect).
Yn Iwerddon, mae Gemma Beatty (Biolegydd Moleciwlaidd) wedi cydlynu dyblygiad y gwaith maes hwn yng Ngwarchodfa Adar y North Slobs, Llwch Garmon tra bod Dominic Berridge (Warden Gwarchodfeydd; Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol a Bywyd Gwyllt, Iwerddon) wedi casglu deunydd ysgarthol a samplau llystyfiant o brif safle gaeafu Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las.
Yng Nghymru, cyfunodd Peter y samplau o lystyfiant gyda’r casgliad o ddeunydd ysgarthol y gwyddau a ddaw o’r ardaloedd lle maent yn pori yn ystod y dydd ar hyn o bryd, tra bod Danny a Rhodri wedi casglu samplau o leoliadau gyda llystyfiant addas nad oedd yn cael eu pori gan Wyddau Talcen Wen yr Ynys Las ar hyn o bryd.
Roedd mewnbwn Gareth yn hanfodol gan ei fod yn treulio llawer o’i amser yn monitro’r haid o Wyddau Talcen Wen yr Ynys Las yn fanwl ac o ganlyniad, mae wedi canfod gwybodaeth hynod o fanwl ar symudiadau dyddiol a hoff safleoedd bwydo tymhorol y gwyddau. Hefyd, rhybuddiodd Rhodri’r tîm gwaith maes i ffoi pe bai’r gwyddau’n dechrau hedfan tuag atynt
Hyd yma, mae dros 106 sampl o lystyfiant wedi cael eu casglu ar draws pob un o’r safleoedd astudiaeth achos yng Nghymru ac Iwerddon ar gyfer dadansoddi a chymharu pellach.
Ar hyn o bryd, mae’r samplau yn cael eu glanhau, eu trefnu a’u sychu yn barod ar gyfer cam nesaf y broses – sef dadansoddi maethol ac rydym ni’n rhagweld y byddwn yn darganfod gwybodaeth newydd am anghenion dietegol y Gwyddau prin.