Newyddion diweddaraf am weithgareddau prosiect ECHOES

Uchafbwyntiau Ionawr – Iau 2021

Yn yr e-bost hwn: 

  • Gylfinirod dirgel, grwpiau ffocws a digonedd o faw gwydd – mae hi wedi bod yn chwe mis cyffrous!
  • Dilyn trywydd y gylfinir yn Ynys Môn. 
  • Gwyddau talcen-wen yr Ynys Las: Casglu llysdyfiant a gwastraff ysgarthol 
  • Llwyfan Gwe ECHOES – offeryn defnyddiol i unrhyw un sy’n rheoli tir arfordirol 
  • Diwrnod y Gylfinir Byd-Eang 
  • ECHOES yn cyrraedd cynulleidfa o 1,500 o blant yn nigwyddiad Green Schools Ireland 
  • Cloddio am anifeiliaid di-asgwrn-cefn 
  • Cwrdd â’r tîm 

Gylfinirod dirgel, grwpiau ffocws a digonedd o faw gwydd – mae hi wedi bod yn chwe mis cyffrous!

Er gwaethaf y cyfyngiadau a osodwyd arnom yn ystod pandemig Covid-19, rydym yn falch iawn i adrodd ar nifer o ddatblygiadau newydd a chyffrous dros y chwe mis diweddaraf! O gydweithio gyda hapddalwyr yn Iwerddon yn casglu deunydd ysgarthol o Wyddau Gwynion yr Ynys Las, i fodrwyo gylfinirod yn Ynys Môn cyn iddynt adael am y tymor bridio. Rydym eisoes wedi gweld rhai canlyniadau hynod ddiddorol o’r wybodaeth a gasglwyd (gwelwch isod).

Rydym wedi cael sylw ar deledu a radio yng Nghymru ac Iwerddon yn ddiweddar, felly mae hi wedi bod yn gyfnod prysur ar am ein tîm ymgysylltu â hapddalwyr, heb sôn am yr holl waith o amgylch trefnu ein digwyddiad ar gyfer Diwrnod y Gylfinir Byd-Eang a oedd yn hynod bleserus – rydym yn ddiolchgar i’r holl gyfranwyr!

Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi mwynhau cwrdd â rheolwyr prosiectau Rhaglen INTERREG Iwerddon-Cymru. Er ein bod wedi cyfarfod ar-lein, rwy’n edrych ymlaen at ddigwyddiadau wyneb-wrth-wyneb yn fuan unwaith eto.

Diolch yn fawr am eich diddordeb yn ein prosiect a gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen ein Cylchlythyr. Cadwch mewn cysylltiad i dderbyn y newyddion ddiweddaraf am ein cynlluniau cyffrous a datblygiadau dros y misoedd nesaf.


Dilyn trywydd y gylfinir yn Ynys Môn

Y gaeaf hwn, tagiwyd (gyda modrwyau GPS) chwe gylfinir yn gaeafu o amgylch yr Afon Cefni ar Ynys Môn gan bartner ECHOES – yr Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig (BTO) yng Ngymru. Mae’r weithgaredd hon yn allweddol er mwyn deall sut mae’r adar dirgel hyn yn defnyddio’r tir arfordirol o amgylch y Môr Gwyddelig.

Mae’r modrwyau yn caniatau i ni adnabod pa ardaloedd a chynefinoedd sy’n bwysig i’r adar, mewn ffordd mwy manwl a chyson nag y gall arsylwadau maes yn unig eu datgelu. Mae’r modrwyau GPS yn gweithio bob awr or dydd, felly gallwn ddarganfod gweithgareddau’r adar yn ystod y llanw, trwy’r ddydd a nos, ac mewn lleoedd anodd eu cyrraedd fel gwastadeddau llaid.

Yn mis Rhagfyr, defnyddwyd modrwyau cylch-goes ar dri aderyn gwryw a thair benyw. Nid ywr modrwyau ynghlwm yn barhaol, ond byddant yn cwympo pan fydd yr adar yn colli eu plu ar ôl tymor bridio 2021.

Cawsom ddata rheolaidd o’r modrwyau GPS nes ir adar gychwyn symud i’w cynefinoedd bridio. Erbyn diwedd mis Mawrth, dim ond un aderyn oedd ar ôl, er bod yr arhoswr hwyr hwn yn dechrau gwneud siwrneiau dyddiol o amgylch arfordir Cymru. Rydym nawr yn canolbwyntio ar ddysgu cymaint ag y gallwn o’r 41,000 o leoliadau GPS a fesuriwyd (tua 3,400 mesuriad o bod aderyn).

Rydym yn creu mapiau fel y rhai isod, sy’n dangos gwerth wythnos o ddata ar gyfer ddau aderyn. Ar y chwith mae aderyn a arhosodd yn bennaf yn yr aber, tra ar y dde mae gennym ddarganfyddiad newydd mae’r aderyn yn symud tu hwnt i ddyffryn Cefni dros nos.

Yn nesaf, byddwn yn dechrau gweithio ar yr hyn sy’n sbarduno yr adar i symud (golau, llanw, rhywbeth arall?) a pha gynefinoedd a oedd yn eu denu fwyaf.

Byddwn hefyd yn ymchwilio gwahaniaeth ymddygiad rhwng unigolion, gwrywod a benywod, a rhwng gweithgareddau y mae’r adar yn cyflawni gyda’r dydd a nos.

Bydd tîm ECHOES yn dechrau datblygu’r modelau cynefin a newid yn yr hinsawdd ac yn edrych ymlaen at ehangu ein gwybodaeth yng Nghymru a Lloegr dros nifer o flynyddoedd. Mae’r adar wedi’u marcio gyda modrwy cylch-goes lliw unigryw, felly bydd unrhyw arsylwad o’r adar hyn yn ychwanegu at ein gwybodaeth o sut mae’r gylfinirod yn defnyddio’r Môr Iwerddon.

Os gwelwch Gylfinir gyda modrwy lliw, byddem yn gwerthfawrogi pe gallech wneud nodyn o’r liw a ble ar eu coesau mae’r fodrwy, ac anfonwch e-bost atom: info@echoesproj.eu

Plea about ringed curl


Gwyddau talcen-wen yr Ynys Las: casglu llysdyfiant a gwastraff ysgarthol 

Gwyddau talcen-wen yr Ynys Las: casglu llysdyfiant a gwastraff ysgarthol.

Ar ddechrau mis Ebrill, ymfudodd Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las o Ynys-Hir i Wlad yr Iâ mewn dau grŵp; y grŵp cyntaf yn cynnwys pymtheg o adar, a’r ail yn cynnwys naw aderyn. Ymhlith y grŵp cyntaf roedd hefyd tri Gwydd Talcen-wen Ewropeaidd. Rydym yn ansicr a wnaethant barhau ymlaen i Wlad yr Iâ neu mynd i’r dwyrain i’w lleoedd bridio yn Rwsia a Siberia.

Casglwyd samplau ysgarthol terfynol ar gyfer y tymor ychydig cyn iddynt adael, ac yn fuan wedyn casglwyd samplau llystyfiant gan ein tîm o Brifysgol Aberystwyth. Mae trefnu a dadansoddi’r samplau cyntaf eisoes wedi cychwyn, a bydd canlyniadau’r profion hyn yn dechrau dod i’r amlwg yn fuan.

Bydd hi’n ddiddorol iawn gweld os yw gwerth maethol planhigion bwyd Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn newid yn sylweddol trwy gydol eu harhosiad. Mae arsylwadau maes diweddar a wnaed gan y tîm casglu sampl llysdyfiant yn dangos bod y tywydd yn effeithio ar ansawdd eu bwyd y gwanwyn oer eleni a arweiniodd at y llif o dwf newydd ar ôl i’r gwyddau fudo.

Yr gwaith nesaf yw arolwg manwl o blanhigion sy’n targedu’r ardaloedd y mae’r gwyddau yn eu mynychu. Bydd canfyddiadau’r arolwg yma yn cael eu darparu i’n tîm yng Ngholeg Prifysgol Corc er mwyn graddnodi delweddau lloeren o Aber Dyfi a’r caeau cyfagos. Mae hwn yn brosiect diddorol ynddo’i hun; bydd yn galluogi defnyddio delweddau lloeren i arolygu a monitro safleoedd heb yr angen am waith maes sy’n cymeryd llawer mwy o amser. Bydd DNA hefyd yn cael ei dynnu o’r samplau ysgarthol gyda’r bwriad o ddarganfod yn union pa blanhigion y mae’r gwyddau yn bwyta.

Darllenwch fwy am ein hymchwil gaeafol o Wyddau Talcen-wen yr Ynys Las isod: 

Casglu a dadansoddi planhigion
Blog gan ECHOES Technegydd Ymchwil Rhod Kemp

Ymwelwyr yr Aber
Blog gan Ecolegydd ECHOES Gareth Thomas. Ysgrifennwyd ar gyfer Pennal 2050


Llwyfan Gwe ECHOES – offeryn defnyddiol i unrhyw un sy’n rheoli tir arfordirol 

Yn ystod prosiect ECHOES, bydd partner ECHOES, Compass Informatics, yn datblygu offer gwe hawdd eu defnyddio i ragweld sut y bydd cynefinoedd adar o amgylch Môr Iwerddon yn newid dros amser, yn seiliedig ar senarios newid hinsawdd tebygol. Bydd yr offer hyn yn cyflwyno ein data, ynghyd â data ffynhonnell agored a rhagamcanion newid yn yr hinsawdd.

Manteisio ar wybodaeth ECHOES 
Mae partner ECHOES, Compass Informatics, yn datblygu’r platfform we wrth i wybodaeth newydd ymddangos o dimau ymchwil Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO), Prifysgol Aberystwyth (PA) a Choleg Prifysgol Corc (UCC). Yn bresennol, maent yn gweithio gyda data sy’n dangos dosbarthiad gylfinirod a gŵyddau talcen-wen yr Ynys Las mewn ardaloedd o amgylch Môr Iwerddon, a gynhyrchwyd gan ein tîm Modelu Dosbarthiad Rhywogaethau yn PA. Mae map gorchudd tir Corine (Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd) eisoes wedi’i ddarparu ac mae mapiau rhagfynegol o ddosbarthiad rhywogaethau hefyd yn cael eu datblygu. Draw yn UCC, mae ein tîm Mapio Cynefinoedd a Gorchudd Tir ar hyn o bryd yn dadansoddi data modelau hinsawdd a fydd yn cael ei ychwanegu at yr llwyfan we. Mae yna gynlluniau hefyd i gynnwys data cyffrous, a gynhyrchwyd gan ein tîm BTO, i olrhain rhywogaethau gan ddefnyddio lloerennau. 

Casglu adborth gan ddefnyddwyr 
Yn bresennol, rydym yn cynnal grwpiau ffocws gyda hapddalwyr yng Nghymru a Iwerddon i gasglu gofynion defnyddwyr. Mae’r hapddalwyr yn cynnwys pobl sy’n berchen neu’n rheoli tir arfordirol o gwmpas Môr Iwerddon – megis rheolwyr gwarchodfeydd natur, ffermwyr a llunwyr polisi. Amcan y grwpiau ffocws yw sicrhau bod y gwaith a wnaed hyd yma yn dilyn anghenion y defnyddwyr, a nodi’r set nesaf o nodweddion dymunol i’w datblygu’n ymhellach. Hyd yma, mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae llawer o adborth gwerthfawr wedi ei gasglu. Mae nifer o’r nodweddion a awgrymir yn ymwneud ag Arsylwi’r Ddaear, er enghraifft, olrhain llifogydd neu ymyrraeth dŵr hallt mewn i ardaloedd penodol. Mae’r nodweddion hyn yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. 

Os hoffech ymuno ag un o’n grwpiau ffocws (am awr a hanner), e-bostiwch info@echoesproj.eu a byddwn yn cysylltu â chi gyda’r dyddiadau nesaf sydd ar gael. 


Diwrnod y Gylfinir Byd-Eang 


Llun gan kristian, 11 mlynedd

Mae Diwrnod y Gylfinir Byd-Eang yn canolbwyntio ar yr aderyn hardd hwn a oedd ar un adeg yn olygfa gyffredin o amgylch Môr Iwerddon.

Ar gyfer Diwrnod y Gylfinir Byd-Eang 2021, cynhaliodd ECHOES weminar boblogaidd, gyda’n hymchwilwyr yn trafod digwyddiadau diweddar, gan gynnwys sesiwn fyw holi-ac-ateb. Fe wnaethom hefyd gynnal cystadleuaeth arlunio gyda phlant o amgylch Môr Iwerddon a fu’n lwyddiant mawr.

Recordiad Gweminar ar Ddiwrnod Byd-Eang y Gylfinir

Cystadleuaeth Arlunio y Gylfinir – pob cystadleuydd


ECHOES yn cyrraedd cynulleidfa o 1,500 o blant yn nigwyddiad Green Schools Ireland 

Roedd Gemma Beatty (Ecolegydd Maes a Chadwraeth ECHOES) yn brysur yn diddanu dros 60 o ysgolion yn ystod Wythnos y Môr, digwyddiad ar-lein a drefnwyd gan Green Schools Ireland. Wrth drafod ei hoff bwnc – Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las a’u bwyd (a’u baw!), cipiodd Gemma ddychymyg dros 1,500 o blant ysgolion cynradd ac uwchradd. 


Cloddio am anifeiliaid di-asgwrn-cefn 

Yn mis Mehefin, roedd tîm Ymgysylltu â Hapddalwyr ECHOES yn ymweld a ysgol yn Machynlleth, Cymru (mae Covid-19 wedi atal hyn rhag digwydd o’r blaen). Yn ystod yr ymweliad, roedd yr plant yn cloddio am anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac adrodd yr hyn a ddarganfyddwn i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) fel rhan o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion. Roedd ecolegwyr maes ECHOES hefyd yn darparu fideos i egluro i’r plant am ein hymchwil ar dir yr ysgol ac yn yr aber gerllaw.


Cwrdd â’r tîm 

Dros ddwy wlad a phum partner, mae ECHOES yn cynnwys staff eang o gefndiroedd proffesiynol. Yn mhob cylchlythyr newydd, byddwn yn cyflwyno dau aelod newydd o staff ECHOES. Y tro hwn, byddwn yn dod i adnabod Katharine a Walther.

Katharine Bowgen, Ecolegydd Ymchwil Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO)

Rwy’n Ecolegydd Ymchwil yn swyddfa Gymraeg yr Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig (BTO) sydd wedi’i lleoli ym Mangor, Cymru. Rwyf hefyd yn rhan o Dîm Ymchwil Cefnforoedd a Gwlyptiroedd BTO.

Fy mhrif swydd yw dadansoddi data sy’n dod i mewn o brosiectau Cymreig a phrosiectau gwlyptir ar draws y BTO, gyda’r nod o ddeall mwy am boblogaethau adar trwy eu hymddygiad a’u defnydd o gynefin.

Ar prosiect ECHOES, rydw i’n defnyddio fy sgiliau mewn dadansoddi symudiadau i dynnu gwybodaeth o’r data a gasglwn o’r modrwyau GPS a ddefnyddir ar y Gylfinir Ewrasiaidd a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las sydd yn nythu ar Ynys Môn. Bydd canlyniadau’r gwaith hwn, megis ardaloedd gweithgaredd adar ac ystodau cartref, yn cael eu defnyddio ynghyd ag ymchwil ECHOES eraill i ddeall pa gynefinoedd y mae’r adar yn eu defnyddio ac i ddod o hyd i ardaloedd addas eraill.

Mae gennyf gefndir academaidd mewn ecoleg ymddygiadol; ar ôl dechrau astudio sŵoleg ar gyfer fy BSc, gwnes MSc mewn bioleg anifeiliaid trwy ymchwilio i gadwraeth poblogaeth o ymagwedd o’r brig i lawr.

Dechreuais ymddiddori mewn adar ar ol gwaith ymarferol yn ystod y graddau hyn, cyn i mi dreulio nifer o flynyddoedd yn gweithio yn y maes fel chynorthwyydd ymchwil adaregol. Aeth y swyddi hyn â mi o amgylch Ewrop (a thu hwnt) gan astudio nifer o rywogaethau adar, megis adar y to, sglefrod môr Siberia, môr-wenoliaid, guillemots, rhostogion cynffon-ddu a pibyddion torchog.

Fe wnaeth gweithio’n dramor fy helpu i ddeall sut mae cadwraeth adar yn gysylltiedig â llawer o rywogaethau sy’n symud rhwng gwledydd a chyfandiroedd ar hyd lwybrau hedfan byd-eang. Yn ystod fy noethuriaeth, archwiliais sut y gallwn ddefnyddio data empirig i lywio modelau i ragfynegi effeithiau newid amgylcheddol ar rydwyr fel y Gylfinir.

Fe wnaeth yr holl waith yma fy arwain yn daclus i’m swydd heddiw yn y BTO ac rwy’n bwriadu dal ymlaen i ehangu fy ngwybodaeth am adar! Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau chwarae’r clarinét yn ogystal â mwynhau’r awyr agored trwy gerdded a modrwyo adar!

Walther Camaro – ymchwilydd ôl-ddoethurol yng Nghanolfan MaREI Coleg Prifysgol Corc (UCC)

Graddiais yn Pontificia Universidad Javeriana (Colombia) gyda BSc a Politecnico di Torino (yr Eidal) gyda gradd meistr mewn Peirianneg Sifil. Yn ystod y gradd meistr, datblygais ddiddordeb mewn dulliau rheoli amgylcheddol yn seiliedig ar Dechnoleg Gwybodaeth dros nifer o wledydd Ewropeaidd.

Ar ôl cwblhau’r cwrs meistr, dechreuais ddoethuriaeth mewn Diogelu’r Amgylchedd yn seiliedig ar Arsylwi’r Ddaear, yn Politecnico di Torino ac yn y gymdeithas ddi-elw ITHACA sydd wedi’i lleoli yn Turin, yr Eidal.

Roeddwn yn rhan o nifer o brosiectau i fonitro peryglon naturiol. Fe wnaeth y prosiectau hyn wella fy sgiliau mewn Arsylwi’r Ddaear a dadansoddi data hinsawdd gyda persbectif rhyngddisgyblaethol ar reoli’r amgylchedd.

Ar ôl bron i ddeng mlynedd yn yr Eidal, penderfynais gychwyn antur newydd a symudais i Iwerddon ac ymuno â’r Tîm EO yng Nghanolfan MaREI o dan brosiect a ariannwyd gan ESA. Yn 2018, ymunais â’r Tîm Addasu Hinsawdd ar y prosiect i diweddaru Adroddiad Statws Hinsawdd Iwerddon.

Y llynedd, ymunais â thîm ECHOES i weithredu dull dysgu peiriant i gynhyrchu mapiau cynefin ar gyfer ardaloedd allweddol ar draws Môr Iwerddon. Rwyf hefyd yn rhan o’r tîm amcanestyniadau hinsawdd, yn dadansoddi effaith newid yn yr hinsawdd ar ddosbarthiad cynefinoedd a rhywogaethau allweddol.

Rwy’n gobeithio y bydd y prosiect amlddisgyblaeth hwn yn annog mwy o bobl i weithredu ar addasu i newid yn yr hinsawdd.


Mawr obeithiwn eich bod wedi mwynhau’r newyddlen hon gan brosiect ECHOES.  Cadwch mewn cysylltiad â ni ar Twitter a Facebook, gan droi at y wefan am y newyddion diweddaraf. 
 
A hoffech chi gydweithio gyda ni? Anfonwch e-bost at info@echoesproj.eu a gallwn drafod syniadau.