Olrhain adar ac arolygon llystyfiant cysylltiedig

PECYN GWAITH 4

Ein bwriadau

Mae olrhain adar yn ein helpu i ddeall symudiadau adar a’r cynefinoedd y maent yn eu dewis, yn enwedig cynefinoedd penodol a ddefnyddir a rhai lle mae pwysau o'r tu allan e.e. tarfu a chylchoedd llanw yn effeithio ar eu hymddygiad. Fe wnaeth BTO arwain prosiect olrhain adar ECHOES, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid. Fe wnaethon nhw dagio ac olrhain dwy rywogaeth: y Gylfinir Ewrasiaidd sy'n bwydo ar infertebratau, a'r Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las (Gwyddau) sy’n pori, yng Nghymru ac Iwerddon.

Trwy’r dull hwn, roeddem yn medru tarfu llai ar yr adar tra roeddem yn gwylio pa gynefinoedd sydd orau ganddynt ac, yn bwysig, i ddeall eu cyflenwad bwyd yn well mewn cynefinoedd fel fflatiau llaid, morfeydd heli a phorfeydd. Trwy’r data ar y tagiau a thrwy arsyllu uniongyrchol, fe wnaeth y biolegwyr moleciwlaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth gasglu baw gwyddau i'w ddadansoddi gyda metacodiobar DNA i ganfod y rhywogaethau planhigion y mae’r gwyddau unigol yn eu dewis.

Fe wnaeth botanegwyr maes o Brifysgol Aberystwyth gynnal arolwg o’r planhigion sy'n rhan o ddeiet y Gwyddau a chasglu tystiolaeth o rannau planhigion penodol y maent yn eu bwyta yn y lleoliadau pori, ar sail y wybodaeth olrhain a’r arsylwadau maes ohonynt. Cafodd gwerth maethol samplau o bob math o ddeunydd planhigion gael eu dadansoddi gan ddefnyddio technegau biocemegol. Cafodd infertebratau yn eu harchwilio mewn fflatiau llaid a phridd i gael gwybodaeth debyg ar gyfer y Gylfinir.

Bydd y wybodaeth a geir drwy brosiect ECHOES yn ddefnyddiol iawn i reolwyr safle a gwyddonwyr er mwyn deall lleoliad, graddau a chyfraniad y gwahanol gynefinoedd i’w deiet. Bydd yn fodd i ni wybod beth yw’r ffordd orau o reoli'r llystyfiant er mwyn helpu i sicrhau poblogaethau iach a hyfyw o'r adar gaeafol yma, ac i liniaru'r effeithiau ar gynefinoedd rhynglanwol allweddol a allai gael eu heffeithio gan y cynnydd rhagamcanol yn lefel y môr.

Arweinydd: Prifysgol Aberystwyth

Proses a Chanlyniadau

See below for presentations from the Project Closure Conference held on 9 March 2023, along with research posters produced for conferences.

Below is a poster presented by Dr Katharine Bowgen at the International Wader Study Group Conference in Szeged, Hungary in 2022.

The presentation (slides only) below on Analysis of bird tracking data recorded in Ireland and Wales was given by Dr Callum Macgregor at the ECHOES Closure Conference.

The following talk on Field Ecology and Greenland White-fronted Goose diet was given by Dr Peter Dennis at the ECHOES Closure Conference.

The poster below was presented by Dr Peter Dennis at the British Ecological Society’s Annual General Meeting in Edinburgh, December 2022.

See Research Publications to view other posters showcasing ECHOES research.