Olrhain adar ac arolygon llystyfiant cysylltiedig

PECYN GWAITH 4

Mae olrhain adar yn ein helpu i ddeall symudiadau adar a’r cynefinoedd y maent yn eu dewis, yn enwedig cynefinoedd penodol a ddefnyddir a rhai lle mae pwysau o'r tu allan e.e. tarfu a chylchoedd llanw yn effeithio ar eu hymddygiad. Bydd Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn arwain prosiect olrhain adar ECHOES, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid a byddant yn tagio ac yn olrhain dwy rywogaeth: y Gylfinir Ewrasiaidd sy'n bwydo ar infertebratau a'r Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las (Gwyddau) sy’n pori, yng Nghymru ac Iwerddon.

Trwy’r dull hwn, byddwn yn tarfu llai ar yr adar tra byddwn yn cadw llygad barcud ar ba gynefinoedd sydd orau ganddynt ac, yn bwysig, i ddeall eu cyflenwad bwyd yn well mewn cynefinoedd fel fflatiau llaid, morfeydd heli a phorfeydd. Trwy’r data ar y tagiau a thrwy arsyllu uniongyrchol, bydd y biolegwyr moleciwlaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn casglu baw gwyddau i'w ddadansoddi gyda metacodiobar DNA i ganfod y rhywogaethau planhigion y mae’r gwyddau unigol yn eu dewis.

Mae botanegwyr maes o Brifysgol Aberystwyth yn cynnal arolwg o’r planhigion sy'n rhan o ddeiet y Gwyddau ac yn casglu tystiolaeth o rannau planhigion penodol y maent yn eu bwyta yn y lleoliadau pori, ar sail y wybodaeth olrhain a’r arsylwadau maes ohonynt. Bydd gwerth maethol samplau o bob math o ddeunydd planhigion yn cael ei ddadansoddi gan ddefnyddio technegau biocemegol yn labordai Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth. Bydd infertebratau yn cael eu harchwilio mewn fflatiau llaid a phridd i gael gwybodaeth debyg ar gyfer y Gylfinir.
Bydd y wybodaeth a geir drwy brosiect ECHOES yn ddefnyddiol iawn i reolwyr safle a gwyddonwyr er mwyn deall lleoliad, graddau a chyfraniad y gwahanol gynefinoedd i’w deiet. Bydd yn fodd i ni wybod beth yw’r ffordd orau o reoli'r llystyfiant er mwyn helpu i sicrhau poblogaethau iach a hyfyw o'r adar hyn sy'n gaeafu, ac i liniaru'r effeithiau ar gynefinoedd rhynglanwol allweddol a allai gael eu heffeithio gan y cynnydd rhagamcanol yn lefel y môr.

Arweinydd: Prifysgol Aberystwyth