PECYN GWAITH 3
Ein bwriadau
Mae Modelu Dosbarthiad Rhywogaethau (SDM) yn fodd i asesu'n feintiol y berthynas rhwng rhywogaethau a data amgylcheddol trwy ddefnyddio gwahanol fframweithiau modelu i ddeall a rhagfynegi dosbarthiad rhywogaethau yng nghyd-destun daearyddol heddiw a’r dyfodol. Mae ystadegwyr ac ecolegwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n gweithio gyda System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), ac arbenigwyr dadansoddi gofodol yng Ngholeg Prifysgol Cork yn gwneud gwaith modelu ar nifer o setiau data. Mae'r data yma yn cynnwys arolygon cenedlaethol, prosiectau gwyddor dinasyddion, a data telemetreg a gasglwyd fel rhan o brosiect ECHOES ar gyfer y Gylfinir Ewrasiaidd a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las.
Trwy Fodelu Dosbarthiad Rhywogaethau gallwn weld y ffordd y mae dosbarthiad y ddwy rywogaeth o adar yn amrywio ar draws ystod o newidynnau geo-ofodol. Hefyd, rydym yn casglu data arolwg maes ar gyfer y ddwy rywogaeth gan gynnwys gwybodaeth ofodol am eu deiet sy'n galluogi gwyddonwyr i greu modelau SDM a fydd yn dweud wrthym pa gynefin y mae’r rhywogaethau hyn yn eu dewis ar hyd yr arfordir. Trwy gynnwys senarios rhagfynegi'r hinsawdd a newid mewn arwynebedd tir â’r modelau SDM, bydd modd i ni sefydlu sut y gall dosbarthiadau gofodol a thymhorol y rhywogaethau newid dros gyfnod o sawl degawd.
Arweinydd: Prifysgol Aberystwyth
Process and results
See below for presentation by Dr Kim Kenobi, Aberystwyth University, and Dr Paul Holloway, University College Cork, from the ECHOES Project Closure Conference held on 9 March 2023.
Poster showcasing the statistical distribution modelling work carried out by Dr Kim Kenobi, Dr Warren Read et al. This poster was presented at the British Ecological Society AGM in Edinburgh, December 2022.
See Research Publications to view other posters showcasing ECHOES research.