Mae ECHOES (Effaith newid hinsawdd ar gynefinoedd adar o amgylch Môr Iwerddon) yn ceisio mynd i'r afael â sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gynefinoedd adar arfordirol ym Môr Iwerddon, a pha effaith y gallai hyn ei chael ar ein cymdeithas, ein heconomi, ac ecosystemau cyffredin.
Byddwn yn defnyddio dulliau gwyddonol arloesol i fodelu ymddygiad a dosbarthiadGwyddau Talcen-wen yr Ynys Las a'r Gylfinir Ewrasiaidd. Byddwn hefyd yn datblygu adnoddau a gwasanaethau ar-lein i helpu rheolwyr safleoedd i ddeall y ffordd orau o liniaru effeithiau posibl newid hinsawdd ar eu safleoedd.
Bydd prosiect ECHOES yn hyrwyddo’r broses o addasu i'r newid yn yr hinsawdd, atal risg cysylltiedig, a rheoli drwy ddarparu gwybodaeth ymarferol ar gyfer defnyddwyr tir. Bydd hyn yn eu galluogi i ddeall y newid yn yr hinsawdd a'i effaith bosibl ar y safle ac ar lefel ranbarthol.
Agwedd bwysig ar brosiect ECHOES fydd ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol – y rheini sy’n gyfrifol am reoli neu fonitro cynefinoedd arfordirol a phoblogaethau adar cysylltiedig, yn ogystal â chymunedau lleol a'u hymwelwyr – y rhai sy'n mwynhau amgylchedd yr arfordir.
Bydd codi ymwybyddiaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd a sut y gallwn fonitro, rheoli ac addasu i'r effeithiau hyn yn flaenoriaeth allweddol i ni.
