Aoife Corcoran
Swyddog Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Coleg Prifysgol Cork
Mae Aoife yn cynorthwyo’r tîm trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, casglu manylion ar gyfer grwpiau ffocus WP7, a trwy ymgysylltu ag ysgolion yn Iwerddon.
Mae gan Aoife gefndir mewn ymchwil cancr clinigol a cyfarthrebu technegol ar gyfer y sectorau academaidd, busnesau bach a chanolig, ag elusennol. Mae hi nawr yn Swyddog Cyfarthrebu yn Athrofa Ymchwil Amgylcheddol UCC, ble mae hi yn edrych ar ol sianeli cyfarthrebu mewnol ag allanol. Mae hi hefyd yn cynorthwyo ymchwilwyr gyda gweithgareddau allgymorth (outreach), addysg ag ymgysylltu â’r cyhoedd.
Mae gan Aoife ddiddordeb cryf mewn bywyd gwyllt a chadwraeth. Mae hi yn ysgrifennu grantiau ar gyfer Wildlife Rehabilitation Ireland, ac yn aelod o grwp Earth Aware o fewn y Cork Social & Health Education Project. Pan nad yw hi’n teipio fel y gwynt, mae Aoife yn mwynhau rhedeg neu yn gwneud celf.
Darllenwch mwy
Dr Crona Hodges
Rheolwr Prosiect ECHOES
Arwain ar Becyn Gwaith 1 – Rheoli a Llywodraethu’r Prosiect
Crona yw Rheolwr Prosiect ECHOES. Mae hi hefyd yn rheoli ei thîm yn Geo Smart Decisions, cwmni ymgynghori geo-ofodol, o’i swyddfa gartref yng Ngwynedd. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn defnyddio delweddau synhwyro o bell ar gyfer mapio a monitro llystyfiant lled-naturiol y gwlypdir a chwblhaodd ei gwaith ymchwil ar safle RSPB Insh Marshes yn yr Alban.
Mae ganddi radd Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Amgylcheddol o Brifysgol Stirling ac, ar ôl pedair blynedd yn gweithio i gwmni ymgynghori amgylcheddol mawr yng Nghaeredin, sefydlodd ei busnes yn 2011 ac mae wedi bod yn gweithio ar ystod eang o brosiectau yn y DU a thramor ers hynny.
Mae sgiliau a phrofiad proffesiynol Crona yn ymwneud â’r defnydd o ddadansoddi data gofodol, Arsylwi’r Ddaear gan ddefnyddio lloeren, a data maes er mwyn darparu sylfaen ar gyfer rheoli a monitro’r amgylchedd naturiol. Felly, mae gwahanol agweddau ar y prosiect ECHOES o ddiddordeb mawr i Crona ac mae'n mwynhau'n cyfle i roi ei phrofiad a’i sgiliau rheoli prosiect ar waith i lywio prosiect ECHOES tuag at lwyddiant.
Darllenwch mwy
Peter Dennis
Darllenydd Ecoleg Ecosystemau Pori, Prifysgol Aberystwyth
Arwain ar Becynnau Gwaith 3 a 4
Mae Peter yn cydlynu’r wyddoniaeth yn ymwneud â modelu dosbarthiad rhywogaethau ac arolygon maes ecolegol o boblogaethau Gwyddai Talcen Wen yr Ynys Las a’r Gylfinir dros y gaeaf ar ran prosiect ECHOES (pecynnau gwaith 3 a 4). Mae’n arbennig o gyffrous o gael y cyfle i weithio gyda phartneriaid cadwraeth sy’n ymchwilio ar hyn o bryd i gynefinoedd allweddol yr adar hyn mewn aberoedd a gwlypdiroedd arfordirol ar hyd Môr Iwerddon ac i ragweld effeithiau’r argyfwng hinsawdd.
Mae Peter wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 2006. Mae bellach yn Ddarllenydd yng Ngrŵp Ecoleg, IBERS, gydag arbenigeddau mewn ecoleg ecosystemau pori a monitro ac asesu bioamrywiaeth mewn amgylchedd sy'n newid.
Mae Peter wedi ysgrifennu 46 o bapurau mewn cylchgronau gwyddonol a 77 o benodau llyfrau, adroddiadau a phapurau trafodion. Mae wedi gweithio fel golygydd/golygydd cyswllt ar wahanol gylchgronau ymchwil rhyngwladol ac ar bwyllgorau gwyddonol, e.e., Ysgrifennydd Pwyllgor Gwyddor Bioamrywiaeth y DU (y Gymdeithas Frenhinol), 2012-2016.
Darllenwch mwy
Rachel Taylor
Senior Ecologist, British Trust for Ornithology (BTO)
Mae Rachel yn cydlynu'r gweithgareddau olrhain adar ar gyfer prosiect ECHOES yn Iwerddon a Chymru (Pecyn Gwaith 3). Mae’n treulio gweddill ei hamser yn arwain ar ddatblygu proffil gwyddonol y BTO yng Nghymru - datblygu prosiectau rhanbarthol addas a rheoli prosiectau lleol o fewn yr ardal.
Mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â setiau data ar osod modrwyau hirdymor i fonitro goroesiad adar rhydio; dangosyddion bioffisegol o gyflwr corfforol ac amgylcheddol adar; a defnyddio technoleg olrhain i astudio defnydd unigolion o dirweddau cymhleth megis ffermio’r ucheldir.
Mae gan Rachel hefyd gefndir mewn ymchwil i fodelu allyriadau nwyon tŷ gwydr a dal a storio carbon mewn systemau amaethyddol, sy’n helpu i lywio gwaith BTO ar oblygiadau ehangach dulliau o reoli’r dirwedd ar wasanaethau ecosystem o ran bioamrywiaeth a chynhyrchiant amaethyddol.
Mae Rachel hefyd yn gosod modrwyau ar adar hirgoes, adar morol a golfanod, yn ogystal ag artist gwydr lliw talentog iawn.
Darllenwch mwy
Fiona Cawkwell
Darlithydd mewn Ecoleg a Chadwraeth, Prifysgol College Cork
Arwain ar Becyn Gwaith 5
Fiona sy'n cydlynu'r gwaith ar ddelweddau lloeren ar gyfer y prosiect ECHOES. Nod y gwaith hwn yw creu mapiau cynefinoedd a gorchudd tir ar gyfer safleoedd yr arolwg adar yn Iwerddon a Chymru, a bydd yn helpu i ddeall sut mae'r gorchudd tir wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, a sut y gallai esblygu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae Fiona hefyd yn cynrychioli Coleg y Brifysgol Cork, Iwerddon ar Fwrdd Rhaglen ECHOES.
Mae Fiona wedi bod yn ymwneud ag arsylwi’r Ddaear gyda lloeren ers dros 20 mlynedd, ac mae wedi archwilio rhanbarthau mor eang â llen iâ’r Ynys Las, llosgfynydd yn Chile, gwastadedd llaid yn Lloegr a choedwig yn Iwerddon.
Yn sail i'w holl waith synhwyro o bell mae diddordeb ac awydd i ddeall mwy am sut mae’r rhanbarth a’r amgylchedd penodol hwnnw yn newid mewn ymateb i amrywiadau naturiol mewn systemau ffisegol, a’r newidiadau sy’n deillio o weithgareddau dynol, yn enwedig o ran newid yn yr hinsawdd sy’n deillio o weithgaredd dynol, rheolaeth ddynol a phenderfyniadau polisi. Dim ond trwy allu mapio, mesur a chofnodi'r newidiadau hyn y gallwn werthfawrogi a rhagamcanu sut y bydd yr amgylchedd a'r rhai sy'n byw ynddo (bodau dynol ac endidau byw eraill) yn parhau i esblygu o dan wahanol amodau, thema sy'n yn greiddiol i brosiect ECHOES. Yn ogystal â bod yn rhan o dîm ECHOES, mae Fiona yn treulio ei hamser yn addysgu myfyrwyr ar lefel prifysgol ac yn cefnogi amrywiaeth o waith ymchwil yn Iwerddon ac mewn ardaloedd eraill.
Darllenwch mwy
Gareth Thomas
Uwch Ecolegydd Maes, Prifysgol Aberystwyth
Mae Gareth wedi ymuno â thîm ECHOES fel Uwch Ecolegydd Maes tymhorol rhan-amser (Pecyn Gwaith 4). Bydd Gareth yn gweithio ar astudiaeth o'r defnydd o gynefinoedd dwy rywogaeth o adar sy'n dibynnu ar aber Dyfi yn ystod y gaeaf. Y rhywogaethau hyn yw'r Gylfinir a Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las.
Mae Gareth wedi gweithio i'r RSPB, Birdwatch Ireland, Scottish Natural Heritage ac yn fwyaf diweddar fel ymgynghorydd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn wedi cynnwys monitro adar, gyda rhywfaint o ymgysylltu ag ymwelwyr a rhanddeiliaid, ac mae wedi mynd ag ef ledled Prydain ac Iwerddon mewn rolau amrywiol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y Gwyddau Talcen Wen ar ôl astudio'r rhywogaeth hon ar y Ddyfi ers sawl blwyddyn ac mae ganddo ddiddordeb mewn unrhyw beth a allai hybu cadwraeth y rhywogaeth.
Darllenwch mwy
Holly Griffiths
Swyddog Cymorth Gweinyddol, Geo Smart Decisions
Mae Holly yn cefnogi’r Cydlynydd Prosiect ac yn darparu pob math o gefnogaeth weinyddol ar gyfer y prosiect. Mae hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Swyddog Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn gwneud amrywiaeth o dasgau gan gynnwys ymchwilio i randdeiliaid posibl ar gyfer y prosiect, y gwaith angenrheidiol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ymchwil ar bolisïau a gweithdrefnau ac mae'n darparu cymorth ar gyfer rheoli a gweinyddu digwyddiadau.
Mae Holly wedi treulio nifer o flynyddoedd hapus mewn gwahanol ardaloedd prydferth ar draws y byd fel Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored. Mae hefyd wedi hyfforddi fel athrawes ysgol gynradd ac mae'n awyddus i ddefnyddio'r sgiliau hyn fel rhan o waith ymgysylltu prosiect ECHOES. Mae Holly hefyd yn frwdfrydig i fod yn rhan o brosiect sy'n ysbrydoli eraill i werthfawrogi ein hamgylchedd a dysgu sut i'w werthfawrogi a'i warchod.
Darllenwch mwy
Dr Katharine Bowgen
Dadansoddwr Ymchwil ar gyfer data olrhain a phoblogaeth, Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain
Mae Katharine yn ecolegydd ymddygiadol ac yn fodelydd sy'n gweithio i Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain (BTO). Gan ei bod yn rhan o'u Tîm Gwlypdiroedd a Morol, mae wedi'i lleoli yn swyddfa BTO Cymru ac mae'n rhannu ei hamser rhwng prosiectau yng Nghymru a gweddill y DU.
Mae Katharine yn rhan o Becyn Gwaith 3 (modelu dosbarthiad rhywogaethau adar). Mae Katharine yn dadansoddi ystod o ddata biolegol, ond yn bwysig ar gyfer prosiect ECHOES, mae ganddi brofiad o ddadansoddi data olrhain yn seiliedig ar brosiectau tagio a modelu’r boblogaeth. Mae ganddi drwydded i osod modrwyau ar adar, a bydd yn cynorthwyo gyda’r gwaith tagio yn y maes a rheoli data o’r wybodaeth sy’n cael ei lawr lwytho o’r tagiau a ddefnyddir.
Mae Katharine yn gyffrous iawn i fod yn rhan o brosiect mor arloesol a chydweithredol ag ECHOES. Bydd dysgu mwy am sut mae dwy rywogaeth adar yn rhyngweithio â chynefinoedd o amgylch môr Iwerddon yn hynod ddiddorol.
Darllenwch mwy
Gemma Beatty
Ecolegydd Maes a Chadwraeth, Prifysgol Aberystwyth
Mae Gemma yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi’n arbenigo mewn geneteg esblygol a phoblogaeth. O fewn y prosiect ECHOES, mae'n ymwneud â'r gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud fel rhan o Becyn Gwaith 4 (Olrhain adar ac arolygon llystyfiant cysylltiedig). Bydd y gwaith ymchwil hwn yn defnyddio sgiliau moleciwlaidd Gemma, wrth gyflawni prosesau fel meta codio bar.
Ers cwblhau ei PhD, mae ymchwil Gemma wedi canolbwyntio ar faes geneteg cadwraeth. Defnyddir canlyniadau'r gwaith ymchwil hwn i lywio strategaethau rheoli ar gyfer llawer o rywogaethau prin a rhai sydd dan fygythiad. Mae gan Gemma ddiddordeb hefyd mewn ymateb esblygol poblogaethau naturiol i newid byd-eang. Mae hyn yn amrywio o ddefnyddio dulliau daearyddiaeth hanesyddol i egluro ymateb rhywogaethau i newidiadau blaenorol yn yr hinsawdd, i ddefnyddio dulliau dilyniannu’r genhedlaeth nesaf (NGS) i ganfod y potensial i boblogaethau allu ymateb i’r newid yn yr hinsawdd at y dyfodol.
Mae Gemma yn gobeithio y bydd y gwaith ymchwil y bydd hi a’i chydweithwyr yn ei gwblhau fel rhan o’r prosiect ECHOES yn cynnig buddion hirdymor - nid ar gyfer ein rhywogaethau targed yn unig, ond hefyd ar gyfer y cynefinoedd lle maen nhw’n byw a’r cymunedau sy’n ddibynnol arnynt.
Darllenwch mwy
Gearóid Ó Riain
Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd, Compass Informatics
Arwain ar Becyn Gwaith 7
Gearóid Ó Riain sy'n arwain y gwaith ar Blatfform Gwe ECHOES. Mae hefyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar Compass Informatics, cwmni a sylfaenodd ar y cyd dros ugain mlynedd yn ôl. Mae Compass Informatics yn defnyddio sgiliau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), dadansoddi a TG i greu ffyrdd o reoli ein hamgylchedd a'n hadnoddau naturiol; gwella cludiant, cynllunio a threftadaeth; a sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol mewn meysydd fel cyfleustodau.
Mae gweithgareddau'r cwmni bob amser wedi caniatáu i Gearóid gyfuno diddordeb mewn creu cwmnïau cynaliadwy a masnachol lwyddiannus – gan gynnwys cyflogaeth o safon - a'i ddiddordeb oes ym mhopeth o adnoddau naturiol i gymunedau cryf.
Mae'r prosiect ECHOES yn rhoi cyfle i greu platfform gwe ardderchog ac i wneud y gorau o sgiliau GIS, arsylwi’r ddaear a sgiliau technegol yng nghyd-destun rheoli effaith newid yn yr hinsawdd.
Darllenwch mwy
Kim Kenobi
Ymchwilydd Ystadegau ar fodelu dosbarthu rhywogaethau, Prifysgol Aberystwyth
Mae Kim yn gweithio fel darlithydd ystadegau yn yr adran fathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn 2014 ar ôl cwblhau dau gymhwyster ôl-ddoethurol mewn prosiect planhigion amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Nottingham. Mae gan Kim PhD mewn dadansoddi siâp ystadegol.
Mae gan Kim ddiddordeb mawr mewn modelu dosbarthiad rhywogaethau ac mae’n cydweithio’n barhaus gyda Chanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion. Mae Kim yn rhan o Becyn Gwaith 5 (Mapio Cynefinoedd a Gorchudd Tir). Ymunodd â phrosiect ECHOES gan ei fod yn cael ei ddenu gan y cyfle i ehangu ar ei ddealltwriaeth ynglŷn â sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ddosbarthiad rhywogaethau, yn ogystal â’r cyfle i weithio gyda thîm amlddisgyblaethol a rhyngwladol. Mae Kim wrth ei fodd yn canolbwyntio ar y Gylfinir a Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las fel dwy enghraifft o adar a allai gael eu heffeithio gan y newid yn yr hinsawdd.
Darllenwch mwy
Marcus Parsley
Dylunydd UI/UX a Phrofwr, Compass Informatics
Marcus sy'n dylunio'r rhyngwyneb defnyddiwr a phrofiad y defnyddiwr ar gyfer meddalwedd Platfform y We. Bydd y dyluniad a phrofiad y defnyddiwr yn seiliedig ar adborth gan Reolwyr Safle a darpar ddefnyddwyr y feddalwedd.
Mae gan Marcus brofiad blaenorol o UI/UX a phrofi ar ôl bod yn gweithio ar brosiectau niferus gyda Compass Informatics. Mae'n edrych ymlaen yn arbennig at ddylunio meddalwedd effeithlon, hawdd ei ddefnyddio yn ogystal â meddalwedd bwerus ar gyfer rheolwyr safle a defnyddwyr eraill sydd am ddeall a rheoli eu safleoedd yn well.
Mae Marcus yn gyffrous iawn o fod yn cydweithio â phartneriaid yng Nghymru a Chymru ar brosiect a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a chanlyniadau hirdymor yn y dyfodol.
Darllenwch mwy
Mark Scott
Cynorthwy-ydd Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth
Bydd Mark yn helpu prosiect ECHOES gyda'r arolwg llystyfiant yn edrych ar yr ardaloedd sy’n cael eu pori gan Wyddau Talcen Wen yr Ynys Las (Pecyn Gwaith 4).
Graddiodd Mark o Brifysgol Cymru, Aberystwyth (fel yr oedd ar y pryd) ym maes Rheoli Cefn Gwlad. Mae Mark wedi bod yn gweithio i IGER, ac wedi hynny i IBERS, Prifysgol Aberystwyth er 2004. Mae ei waith yn ymwneud yn bennaf â gwaith maes, ar hyn o bryd ar y prosiect Prosoil Plus, lle maent yn ymchwilio i wahanol fathau o gnydau porthiant a chymysgeddau gyda gwahanol drefniadau rheoli er mwyn sicrhau hyfywedd, cynhyrchiant ac effaith ar iechyd y pridd. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys cyfrif poblogaeth planhigion, a chynnal profion gwahanu botanegol ar samplau wedi’u torri.
Mae gan Mark brofiad yn y labordy hefyd wedi iddo dreulio peth amser mewn amgylchedd labordy moleciwlaidd, yn edrych ar effaith dietegol gwahanol fwydydd ar gyfer poblogaethau microbaidd mewn anifeiliaid cnoi cil.
Darllenwch mwy
Raghnall O’Donoghue
Reolwr Datblygu Cynnyrch, Compass Informatics
Mae Raghnall yn Reolwr Datblygu Cynnyrch gyda Compass Informatics, ble mae ganddo ffocws penodol ar amaethyddiaeth a chynaliadwyedd. Ar gyfer y prosiect ECHOES, mae Raghnall yn cyfrannu at ddylunio datrysiadau yng nghyd-destun datblygu cynnyrch, gan helpu i adeiladu llwyfan sy'n cefnogi nodau ymchwil y prosiect ac yn helpu i amlygu'r canlyniadau a gynhyrchwyd. Mae gan Raghnall ddiddordeb penodol mewn daearyddiaeth ffisegol. Mae ganddo radd mewn Cyfrifiadureg, ynghyd â MSc mewn Gwyddoniaeth Daear. Ei nod yw darparu llwyfan sy'n ein galluogi i ddweud y stori o sut mae'r rhywogaethau a'r cynefinoedd rydym yn eu hastudio yn cael eu heffeithio mewn hinsawdd sydd yn newid.
Darllenwch mwy
Dr Paul Holloway
Darlithydd yn yr Adran Ddaearyddiaeth a Phrif Ymchwilydd, Sefydliad Ymchwil Amgylcheddol, Coleg Prifysgol Cork
Mae Paul yn ymgymryd yn bennaf â gwaith ymchwil sy’n defnyddio gwyddor gwybodaeth ddaearyddol (GIS) a dadansoddiad gofodol i fynd i’r afael â materion ecolegol, amgylcheddol a daearyddol, gan ganolbwyntio’n benodol ar fodelu dosbarthiad rhywogaethau (SDM) ac ecoleg symud.
O fewn prosiect ECHOES, bydd yn cefnogi’r gwaith ymchwil ar fodelu dosbarthiad rhywogaethau ar nifer o raddfeydd gofodol ac amserol, yn ogystal â datblygu dulliau o ymgorffori data telemetreg yr adar mewn fframwaith SDM (Pecyn Gwaith 5). Bydd hyn yn gwella ein dealltwriaeth o’r patrymau chwilota ar raddfa fanwl o fewn cynefinoedd gaeaf a sut all symudiadau ar raddfa eang o ran newid yn yr hinsawdd a defnydd tir effeithio ar eu dosbarthiad ar lefel ryngwladol.
Mae Paul yn edrych ymlaen yn fawr at weithio ar brosiect sy'n dod ag arbenigwyr o nifer eang o sefydliadau ynghyd, gan fynd i'r afael â materion perthnasol iawn ar gyfer rhywogaethau dan bwysau.
Darllenwch mwy
Dr Pete Bunting
Darllenydd mewn Synhwyro o Bell, Prifysgol Aberystwyth
Rôl Pete ar y prosiect ECHOES yw darparu mewnbwn a chynnig gwelliannau er mwyn defnyddio systemau monitro sy’n seiliedig ar synwyryddion o bell trwy ei feddalwedd EODataDown (Pecyn Gwaith 5).
Mae ymchwil Pete yn ymwneud â phrosesu data gofodol yn gyfrifiadurol, yn bennaf ar gyfer mapio arwynebau tir a phriodoleddau bioffiseg. Mae ei ymchwil yn cynnwys datblygu technegau newydd ac awtomataidd ar gyfer echdynnu gwybodaeth o setiau data delwedd a 3D ar y cwmwl.
Un o’r meysydd y mae’n canolbwyntio arno ar hyn o bryd yw mapio maint coedwigoedd mangrof a’r newid yn fyd-eang. Mae setiau data o’r gwaith ymchwil hwn yn sylfaen i’r setiau data cefndir allweddol ar gyfer ymgyrch Global Mangrove Watch.
Darllenwch mwy
Fergal Doyle
Datblygwr Gwe, Compass Informatics
Mae Fergal yn gweithio fel Datblygwr Gwe gyda Compass Informatics. Ers mis Hydref 2020, mae'n rhan o'r tîm sy’n gweithio ar ddatblygu offer ar gyfer Platfform y We ECHOES (Pecyn Gwaith 7).
Dyfarnwyd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i Fergal mewn Technoleg Gwybodaeth ar gyfer Busnes gan Sefydliad Technoleg Galway-Mayo.
Dechreuodd Fergal ei yrfa yn Hewlett-Packard, gan ddatblygu rhaglenni gwe ac offer ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol. Ymunodd â Compass Informatics yn 2019 a bu’n gweithio yn y Sefydliad Morol yn Galway ar brosiect i ddatblygu delweddau ar gyfer data morol (siartio a mapiau ymhlith pethau eraill).
Mae gan Fergal brofiad o ddatblygu ASP.NET, Angular, Cyrraedd a Vue.js. Mae hefyd wedi datblygu rhaglenni ar gyfer Android ac iOS.
Mae Fergal yn edrych ymlaen at weithio ar set ddefnyddiol o offer i helpu i ddarlunio effeithiau newid hinsawdd ar gynefinoedd.
Darllenwch mwy
Dr Hannah Hereward
Ecolegydd Ymchwil, Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain (BTO)
Mae Hannah yn ecolegydd ar gyfer BTO Cymru ac yn gweithio ar brosiectau amrywiol i ddeall poblogaethau adar Cymru, er mwyn llywio ymdrechion cadwraeth. Roedd ei hymchwil blaenorol yn cyfuno technegau monitro traddodiadol a modern (gan gynnwys tracio GPS) i ddeall ymddygiad adar a bygythiadau posibl yn well, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd.
Mae Hannah yn rhan o Becyn Gwaith 3 (modelu dosbarthiad rhywogaethau adar) ac mae’n cymhwyso ei gwybodaeth flaenorol o ddadansoddi tracio GPS i asesu symudiadau Gwyddau Talcenwen yr Ynys Las a’r Gylfinir i ddeall yn well eu hoff gynefinoedd ar draws y dirwedd.
I Hannah, mae’n bleser bod yn rhan o gydweithrediad mor eang rhwng pobl ac arbenigedd. Yn benodol, fel ecolegydd, mae’n fraint cael cipolwg ar ble mae’r rhywogaethau swil yma’n mynd, a deall pa gynefinoedd y maent yn eu defnyddio, er mwyn cynorthwyo ymdrechion cadwraeth ymhellach ar draws y ddwy ochr i Fôr Iwerddon.
Darllenwch mwy
Dr Callum Macgregor
Ecolegydd Ymchwil, Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain (BTO)
Mae Callum yn ecolegydd o fewn swyddfa BTO Cymru, yn gweithio ar brosiectau amrywiol i ddeall a gwarchod adar Cymru. Mae ei ymchwil blaenorol yn ceisio deall sut mae newid amgylcheddol a achosir gan bobl yn effeithio unigolion, polblogaethau a cymunedau o organebau, yn debyg at beth mae ECHOES yn ei wneud.
O fewn ECHOES, mae Callum yn gweitho ar ddadansoddi data ar adar sydd wedi’u tagio. Mae e’n ffocysi ar Gwyddau Talcenwen yr Ynys Las, er mwyn deall yn well eu dewisiadau o ran cynefin a sut mae’n nhw’n defnyddio’r tirwedd. Mae Callum hefyn yn cynorthwyo’r ymchwil maes trwy ategu tagiau newydd.
I Callum, mae ECHOES yn brosiect arbennig o gyffroes gan fod y gwaith tagio yn galluogi gwell ddealltwriaeth o ddau rywogaeth sydd yn enwog am fod yn anodd i arsylwi a sensitif at aflonyddwch. Gydag ychydig o lwc, bydd hyn yn cynhyrchu mwy o wybodaeth ar sut i warchod y rhywogaethau yma a’u cynefinoedd yng Nhgymru ag Iwerddon.
Darllenwch mwy
Jyoti Upadhyay
Swyddog Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Geo Smart Decisions
Mae Jyoti yn cefnogi gweithgareddau cyhoeddus ECHOES. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu gyda rhanddeiliaid trwy weithdai, cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau eraill i godi ymwybyddiaeth, gan gynnwys datblygu deunyddiau am y prosiect.
Mae gan Jyoti gefndir mewn cyfathrebu o fewn cyrff anllywodraethol a'r sector gyhoeddus, yn rhyngwladol ac yn y DU. O fewn datblygiad rhyngwladol, mae hi wedi gweithio mewn adfocatiaeth, hyfforddiant a datblygiad gwledig yn Uganda a Nepal. Mae hefyd gan hi brofiad sylweddol gyda menterau busnes, rhedeg digwyddiadau, y wasg a marchnata. Yn 2014, fe sefydlodd hi (ac mae'n parhau i redeg) sefydliad sy'n creu cyflogaeth i grefftwyr gemwaith yn Nepal.
Mae Jyoti yn mwynhau rhedeg o amgylch bryniau canolbarth Cymru. Mae hi’n falch iawn i fod yn rhan o brosiect sy'n edrych ar effeithiau ymarferol a lleol newid yn yr hinsawdd o amgylch Môr Iwerddon.
Darllenwch mwy
Holly Sayer
Technegydd Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth
Mae Holly yn fotanegydd ac yn ecolegydd sy’n gweithio fel Technegydd Ymchwil i Brifysgol Aberystwyth fel rhan o Becyn Gwaith ECHOES 4. Mae ei ffocws ar blanhigion bwyd Gwyddau Talcenwen yr Ynys Las. Mae hi'n edrych ar sut y bydd effaith cynnydd yn lefel y môr yn effeithio ar hyfywedd cynefinoedd y planhigion hyn ac yna ar strategaethau bwydo Gwyddau'r Ynys Las yn y dyfodol.
Fel rhan o brosiect ECHOES, mae amser Holly yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y maes a'r labordy. Mae'n nodi, casglu a didoli samplau o lystyfiant ar gyfer dadansoddiad biocemegol. Bydd y dadansoddiad hwn yn rhoi dealltwriaeth ac yn cymharu’r lefelau maeth y mae GWfG yn ei gael o’u planhigion bwyd yn ystod eu hamser yn Iwerddon a Chymru dros y gaeaf. Mae Holly hefyd yn helpu i nodi cynefinoedd botanegol ar gyfer mapio gorchudd tir yn WP5, sy'n anelu at gynhyrchu mapiau cynefinoedd a gorchudd tir ar gyfer Iwerddon a Chymru gan ddefnyddio technolegau dysgu peirianyddol seiliedig ar bicseli.
Mae Holly yn hapus i weithio ar brosiect sy'n defnyddio planhigion i ddeall y defnydd o gynefinoedd gan adar gwlyptir, a rhagweld sut y gallai hynny newid yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr. Mae hi’n credu mai cryfder ECHOES yw ei ffocws ar realiti newid hinsawdd ym Môr Iwerddon, gan gynnig atebion ymarferol i reolwyr tir.
Darllenwch mwy
Walther Cámaro
Ymchwilydd Ôl-Ddoethurol, Coleg y Brifysgol Cork
Mae Walther yn rhan o'r tîm mapio cynefinoedd a gorchudd tir yn y prosiect ECHOES (Pecyn Gwaith 5). Mae’n rheoli gweithrediad ac awtomeiddio dull o ddysgu peirianyddol yn seiliedig ar bicseli i greu set o fapiau cynefin a gorchudd tir yn deillio o Arsylwi’r Ddaear ar gyfer ardaloedd allweddol yn Iwerddon a Chymru. Mae hefyd yn rhan o'r tîm amcanestyniadau hinsawdd (pecyn gwaith 6), gan oruchwylio dadansoddiad o effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd a ragwelir ar ddosbarthiad cynefinoedd a rhywogaethau allweddol.
Graddiodd Walther o Pontificia Universidad Javeriana (Bogotá, Colombia) gyda BSc ac o’r Politecnico di Torino (yr Eidal) gydag MSc mewn Peirianneg Sifil. Yn 2015, cwblhaodd PhD mewn Diogelu a Rheoli'r Amgylchedd yn Politecnico di Torino. Yn ystod ei brofiad fel ymchwilydd, mae wedi gweithio ar sawl prosiect sy'n gysylltiedig â synhwyro o bell, trychinebau naturiol, newid yn yr hinsawdd a dadansoddi data.
Mae Walther yn awyddus i weithio gyda grŵp o bobl amlddisgyblaethol a medrus fel tîm prosiect ECHOES. Mae'n gobeithio y bydd gwaith yn annog mwy o bobl i gymryd camau ar ymaddasu i'r newid yn yr hinsawdd.
Darllenwch mwy
Warren Read
Cynorthwy-ydd Ymchwil — Modelu Dosbarthiad Rhywogaethau, Prifysgol Aberystwyth
Mae Warren yn rhan o Becyn Gwaith 3 (modelu dosbarthiad rhywogaethau adar). Mae Warren yn gweithio ar ddadansoddi sut mae dosbarthiad poblogaethau adar mudol yn ymwneud â newidynnau cynefinoedd ac amgylcheddol lleol y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt. Er bod llawer o ddata hanesyddol eisoes ar gael, ar niferoedd rhywogaethau a chynefinoedd lleol fel ei gilydd, bydd yn defnyddio data newydd a gynhyrchir gan gydweithwyr ECHOES i fireinio modelau, er enghraifft defnyddio data mudo mwy cywir o ganlyniad i dagio ac olrhain gyda thechnoleg lloeren.
Ymunodd Warren gyda phrosiect ECHOES am fod ganddo ddiddordeb mawr ym mhotensial ystadegau i ganfod sut mae ffactorau sy’n ymwneud â newid cynefinoedd yn effeithio ar hyfywedd hirdymor rhywogaethau, a sut mae’n gallu ymgorffori cynaliadwyedd i mewn i reoli cynefinoedd a phenderfyniadau polisi ehangach. Roedd ei draethawd ymchwil doethurol yn edrych ar ddulliau ystadegol newydd sy’n gysylltiedig â bioleg esblygol.
Mae chwilfrydedd Warren am yr amgylchedd naturiol yn ymestyn y tu hwnt i adar i aelodau eraill o’r we fwyd y mae adar yn rhan ohoni, gan gynnwys pryfed. Mae hefyd yn ymddiddori mewn ansawdd bwyd, amaethyddiaeth gynaliadwy ac adfer ecolegol. Yn ei fywyd proffesiynol diweddar, mae wedi gweithio fel peiriannydd gwybodaeth, datblygwr gwe a chemegydd cyfrifiadurol. Gan weithio i Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain, helpodd Warren i roi adroddiad yr Arolwg Adar Gwlypdir ar-lein am y tro cyntaf.
Darllenwch mwy
Robert O’Loughlin
Uwch Ddadansoddwr Data a Rheolwr Prosiect, Compass Informatics
Mae Robert yn ymwneud â arsylwi'r ddaear a dadansoddi data GIS ym mhrosiect ECHOES (Pecyn Gwaith 7). Mae ganddo gefndir cryf mewn GIS, dadansoddi data, ac arsylwi'r ddaear.
Mae e wedi gweithio fel rhan allweddol o dîm Compass Informatics ar brosiectau datblygu pwrpasol a dadansoddi gofodol ers 2013.
Mae gan Robert ddiddordeb ym mhob agwedd o’r byd naturiol. Gydag MSc mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol, ynghyd â Diploma Uwch mewn Dadansoddeg Data, mae Robert yn awyddus i ddod â data i'r amlwg i ddangos effeithiau newid yn yr hinsawdd ar yr amgylchedd ag ar rywogaethau adar.
Darllenwch mwy
Luke Lambert
Cynorthwydd Ymchwil, University College Cork
Mae Luke yn cynorthwyo gyda'r gwaith maes yn Wexford, gan gynnwys tagio Gylfinir a Gwyddau Talcenwen yr Ynys Las. Mae e hefyd yn helpu sefydlu’r gorsafoedd ymchwil, ac yn casglu’r data. Mae e hefyd yn chwarae rhan mewn ymgysylltu â'r gymuned yn yr Iwerddon, gan ryngweithio â'r rhanddeiliaid angenrheidiol, grwpiau amgylcheddol ac ysgolion.
Roedd Luke yn awyddus i gymryd rhan ym mhrosiect ECHOES oherwydd fod ganddo angerdd am adar. Yn fwy penodol, cafodd ei ddenu gan y cyfle i weithio ar brosiect sy’n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd arfordirol a bywyd adar yn ei ardal enedigol, sef Wexford.
Astudiodd Luke Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Cork, ble wnaeth e ddatblygu diddordeb mewn bio-dearyddiaeth, GIS a synhwyro o bell (remote sensing). Mae e’n hapus i fod yn defnyddio’r sgiliau yma allan yn y maes, ag I fod yn cynorthwyo gyda dadansoddiad y data.
Darllenwch mwy
James Fitton
Cymrawd Ymchwil, University College Cork
Mae James yn arwain y Grŵp Effeithiau ac Addasiadau o fewn MaREI, y Ganolfan ar gyfer Hinsawdd, Ynni, a Morol, a leolir yng Ngholeg Prifysgol Cork, Iwerddon. James yw’r ymchwilydd arweiniol ar Climate Ireland, prosiect sy’n cefnogi awdurdodau lleol a sectorau i addasu i newid hinsawdd.
Nôd ymchwil James yw cefnogi gweithrediad addasu effeithiol, cynaliadwy a chyfiawn, sy’n lleihau effeithiau newid hinsawdd ar yr arfordir. Mae diddordebau ymchwil James yn cwmpasu peryglon naturiol, GIS, synhwyro o bell, a bregusrwydd cymdeithasol. Mae James yn cefnogi Pecyn Gwaith 6 ar gyfer ECHOES.
Mae James yn edrych ymlaen at weithio ar brosiect sy'n cyfuno sawl arbenigedd a dull o addasu cynefinoedd a rhywogaethau gwerthfawr.
Darllenwch mwy
Ciara McGrath
WP7 Lead, Compass Informatics
Darllenwch mwy
Dr Sue Lister
Gwyddonydd Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth
Mae Sue yn gemegydd dadansoddol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys sbectrosgopeg isgoch, yn arbennig dadansoddiad meintiol ac ansoddol o sbectra isgoch o borthiant a chnydau had.
Ar gyfer ECHOES mae Sue yn cynnal dadansoddiad biocemegol i gyfrifo gwerth maethol planhigion penodol.
Darllenwch mwy