Mae prosiect ECHOES yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Cynghori sy’n cynnwys arbenigwyr blaenllaw a hapddalwyr allweddol ym maes newid yn yr hinsawdd, ecoleg adar a systemau gwybodaeth. Swyddogaeth y Bwrdd Cynghori yw darparu cyngor, arweiniad a sylwadau gwrthrychol ac arbenigol ar ddulliau, amcanion a chyfeiriad ECHOES.
Aelodau'r bwrdd cynghori
John Coll
Mae John ar Fwrdd Rhaglen ECHOES yn ogystal â’r Bwrdd Cynghori. Mae’n gweithio gyda’r Irish Climate Analysis and Research Units (ICARUS) ym Mhrifysgol Maynooth, gan weithio ar amrywiaeth o brosiectau. Mae’n ymddiddori mewn effeithiau newid hinsawdd, addasu i newid hinsawdd a’i oblygiadau o ran cadwraeth.
Helen Boland
Mae Helen Boland yn gweithio gyda BirdWatch Ireland, ac mae ganddi 17 mlynedd o brofiad proffesiynol yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ecoleg adar dŵr. Ar hyn o bryd Helen sy’n rheoli’r Dublin Bay Birds Project – a ariennir gan Dublin Port Company – sydd wedi’i ddylunio i lenwi bylchau mewn gwybodaeth am adar dŵr Bae Dulyn. Ymysg gwahanol elfennau’r prosiect mae casglu data o arolygon adar dŵr, monitro môr-wenoliaid sy’n bridio a rhoi cylchoedd lliw ar fôr-wenoliaid a rhydyddion.
Clive Walmsley
Clive yw Prif Gynghorydd Newid Hinsawdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n wyddonydd amgylcheddol cymhwysol ac mae’n defnyddio cyfathrebu tystiolaeth wyddonol i wella polisi ac arfer amgylcheddol yng Nghymru a’r tu hwnt.
Dave Wall
Mae Dave yn Swyddog Gwyddoniaeth y Dinesydd yn y National Biodiversity Data Centre. Ef sy’n rheoli’r prosiect Explore Your Shore!, a ariennir gan EPA ac sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio rhywogaethau’r rhynglanw fel dangosyddion newid hinsawdd ac ansawdd dŵr.
Al Heal
Al yw Uwch Ecolegydd ac arweinydd y Tîm Cadwraeth gyda Chyngor Sir Ceredigion. Mae ganddi gefndir mewn Gwyddorau Amgylcheddol a diddordebau penodol yn effeithiau newid hinsawdd ar yr arfordir, rheoli cynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth a dal a storio carbon, a llyffantod a brogaod.
Bernadette Guest
Mae Bernadette yn Swyddog Treftadaeth gyda Chyngor Dinas a Sir Waterford ac mae’n gweithio ar brosiectau treftadaeth naturiol, datblygu polisi a digwyddiadau ymwybyddiaeth yn yr awdurdod lleol a gyda’r cyhoedd. Mae’n aelod o’r Irish Ramsar Wetlands Committee ac o fwrdd y National Biodiversity Data Centre.
Gerry Forde
Mae Gerry yn Bennaeth Adran/Uwch Beiriannydd yn Adran yr Amgylchedd yng Nghyngor Sir Wexford. Mae’r rôl yn cynnwys nifer o feysydd eang gan gynnwys Ansawdd Dŵr/Aer, Rheoli Gwastraff, Sbwriel a’r parth arfordirol. Mae’r brîff arfordirol yn cynnwys rheoli 11 harbwr a phorthladd, 7 Traeth Baner Las, 8 traeth Arfordir Gwyrdd, prosiectau erydiad arfordirol ac ymchwiliadau a materion rheoli ar hyd 250 km o arfordir Wexford.
Patrick Lindley
Mae Patrick yn Uwch Adarwr gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Fel myfyriwr israddedig, trodd diddordeb mawr mewn ecoleg adar a mentrau adfer yn gyflym yn yrfa mewn adareg sydd wedi cynnwys cyfleoedd academaidd a chadwraeth yng Nghymru, yr Alban, Sweden, Canada a Moroco. Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Patrick wedi canolbwyntio ar gylch gwaith eang gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, gan helpu i bennu’r cyfeiriad strategol ar gyfer adareg ddaearol a morol yng Nghymru.
Dave Anning
Dave yw’r Rheolwr Safle yng Ngwarchodfa RSPB Ynys Hir. Mae Dave wedi bod yn gweithio fel Rheolwr Safle yng ngwarchodfa RSPB Ynys-hir ers 2013. Mae ei brif ddiddordebau adaregol yn cynnwys adar coetir ac adar gwlypdir ar lawr gwlad. Mae cyfrifoldebau Dave fel Rheolwr Safle yn cynnwys goruchwylio rheolaeth o’r clytwaith cyfoethog o gynefinoedd a geir yn Ynys-hir a helpu i sicrhau bod Ynys-hir yn lle croesawus i’r 15,000 o bobl sy’n ymweld â’r warchodfa’n flynyddol.
Carol Fielding
Carol yw Arweinydd Tîm yr Amgylchedd CNC ar gyfer Ceredigion yng Ngorllewin Cymru.