The post Plea to bird watchers: Please report ringed Curlew! appeared first on ECHOES Project.
]]>Apêl yw hon i wylwyr adar, ac yn enwedig y rhai sydd â diddordeb mewn adar môr, i fynd ati’n ofalus i gofnodi lliw a lleoliad unrhyw fodrwyau lliw (gan gynnwys lle bynnag y bo'n bosibl y cod dau ddigid ar fodrwyau lliw mawr) ar y gylfinirod a welir yn ardaloedd rhynglanw aberoedd, corsydd halen a thir fferm cyfagos ar hyd yr arfordir, a rhoi gwybod i midwales.ringing@btinternet.com
Bydd eich cofnodion o weld yr adar hyn sydd wedi'u marcio'n unigol yn hanfodol i'n helpu i werthfawrogi cyflwr gylfinirod sy’n cadw at yr un safleoedd drwy gydol y gaeaf, ac i nodi lle mae'r adar yn bwydo, yn clwydo ac yn gorffwys amlaf. Bydd hyn yn helpu i ganfod cynefinoedd hollbwysig ar yr arfordir sy'n cefnogi'r rhywogaeth hon o bryder cadwraethol sylweddol.
The post Plea to bird watchers: Please report ringed Curlew! appeared first on ECHOES Project.
]]>