Mae Modelu Dosbarthiad Rhywogaethau (SDM) yn fodd i asesu'n feintiol y berthynas rhwng rhywogaethau a data amgylcheddol trwy ddefnyddio gwahanol fframweithiau modelu i ddeall a rhagfynegi dosbarthiad rhywogaethau yng nghyd-destun daearyddol heddiw a’r dyfodol. Bydd ystadegwyr ac ecolegwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n gweithio gyda System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ac arbenigwyr dadansoddi gofodol yng Ngholeg Prifysgol Cork yn gwneud gwaith modelu ar nifer o setiau data (gan gynnwys arolygon cenedlaethol, prosiectau gwyddor dinasyddion, a data telemetreg a gasglwyd fel rhan o brosiect ECHOES) ar gyfer y Gylfinir Ewrasiaidd a Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las.
Trwy Fodelu Dosbarthiad Rhywogaethau byddwn yn gweld y ffordd y mae dosbarthiad y ddwy rywogaeth o adar yn amrywio ar draws ystod o newidynnau geo-ofodol. Hefyd, cesglir data arolwg maes ar gyfer y ddwy rywogaeth gan gynnwys gwybodaeth ofodol am eu deiet sy'n galluogi gwyddonwyr i greu modelau SDM a fydd yn dweud wrthym pa gynefin y mae’r rhywogaethau hyn yn eu dewis ar hyd yr arfordir. Trwy gynnwys senarios rhagfynegi'r hinsawdd a newid mewn arwynebedd tir â’r modelau SDM, bydd modd i ni sefydlu sut y gall dosbarthiadau gofodol a thymhorol y rhywogaethau newid dros gyfnod o sawl degawd.